Erthylu

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Erthylu

Postiogan rooney » Sul 06 Ebr 2008 2:53 pm

mabon-gwent a ddywedodd:Bod yn onest os hwn yw polisi Plaid, mae'n well cadw llywodraeth Cymru yn ddiogel yn Llundain...


a does dim hyd yn oed gweddi cyn i'r cynulliad ddechrau bob dydd, tra mae yn Nhy'r cyffredin ac arglwyddi
yn amlwg nid oes croeso i Dduw yn nyheadau PC am Gymru
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Erthylu

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 06 Ebr 2008 3:13 pm

rooney a ddywedodd:
mabon-gwent a ddywedodd:Bod yn onest os hwn yw polisi Plaid, mae'n well cadw llywodraeth Cymru yn ddiogel yn Llundain...


a does dim hyd yn oed gweddi cyn i'r cynulliad ddechrau bob dydd, tra mae yn Nhy'r cyffredin ac arglwyddi
yn amlwg nid oes croeso i Dduw yn nyheadau PC am Gymru


Fedri di ddim cymharu y Cynulliad a San Steffan ar y cownt yma oherwydd mae'r ddwy sefyllfa yn wahanol, yn Lloegr (San Steffan) nid yw Eglwys a Gwladwriaeth wedi ei wahanu fel yng Nghymru. Dwi'n prowd iawn ein bod ni yng Nghymru wedi gwahanu Gwladfwriaeth ac Eglwys - nid yw hynny gyfystyr wrth gwrs gyda gwadu hawl y Cristion a'r Eglwys i geisio dylanwad gwleidyddol ac nid yw'n gwrthod hawl aelodau cynulliad y gyfarfod i weddio ad-hoc (mae yna frecwast gweddi misol yn bodoli gyda llaw yn y Cynulliad). Maen well cael brecwast gweddi gyda'r gweddiwyr yn dod o'i gwirfodd ac o'i calon na chael rhyw weddi systematig ddi-feddwl jest allan o draddodiad bob bore ar y llawr.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Erthylu

Postiogan mabon-gwent » Sul 06 Ebr 2008 3:33 pm

rooney a ddywedodd:a does dim hyd yn oed gweddi cyn i'r cynulliad ddechrau bob dydd, tra mae yn Nhy'r cyffredin ac arglwyddi
yn amlwg nid oes croeso i Dduw yn nyheadau PC am Gymru


'Sdim rhaid cael gweddi fel yn Llundain, jyst fel ti'n dweud, mwy o le i ddilyn Duw.

Mae'r pwnc yn erthylu, nawr pan ro'n i'n ifanc iawn wi wedi dysgu rhaid i bethau sydd yn byw wneud rhai pethau, "mrs gren":

Movement
Respiration
Sensitivity
Growth
Reproduction
Excretion
Nutrition

Ar ôl conception dyna beth sy da ni gyda'r celloedd. Mae bywyd yn gwahanol i'w fam, ac, yn genteteg mae'n dynol.
Dyna pam wi'n meddwl ar ôl ei conception mae'n fywyd dynol, mae fy ffydd yn siapio beth wi'n meddwl sy ei hawliau.

fi a ddywedodd:Bod yn onest os hwn yw polisi Plaid, mae'n well cadw llywodraeth Cymru yn ddiogel yn Llundain...


Wi ddim yn lico na chael annibyniaeth yng Nghymru, ond pe fydd sarhad o'n pobl ifancaf, bydd rhaid i ni tyfu lan cyn bod yn cymryd ein llywodraeth ein hunain :(
Rhithffurf defnyddiwr
mabon-gwent
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2008 4:00 am

Re: Erthylu

Postiogan Mr Gasyth » Llun 07 Ebr 2008 9:03 am

Movement
Respiration
Sensitivity
Growth
Reproduction
Excretion
Nutrition


Dwi'n hapus i gael fy nghywiro gan rywyn sy'n gwybod yn well (Ceri?), ond tydw i ddim yn meddwl fod y rhai mewn bold yn digwydd i faban yn y groth - ac yn bendant ddim cyn y 'deadline' erthylu o 20 wythnos.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Erthylu

Postiogan mabon-gwent » Llun 07 Ebr 2008 9:27 am

Mr Gasyth a ddywedodd:
Movement
Respiration
Sensitivity
Growth
Reproduction
Excretion
Nutrition


Dwi'n hapus i gael fy nghywiro gan rywyn sy'n gwybod yn well (Ceri?), ond tydw i ddim yn meddwl fod y rhai mewn bold yn digwydd i faban yn y groth - ac yn bendant ddim cyn y 'deadline' erthylu o 20 wythnos.


Dyma'r wikidefinition (felly gyda pinch of salt :winc: ):

Respiration, The release of energy from glucose or other organic substances inside living cells. During respiration, sugar/starch, and oxygen is turned into carbon dioxide, water and energy. Every cell needs to respire in order to produce the energy it needs


Reproduction is the biological process by which new individual organisms are produced. Reproduction is a fundamental feature of all known life; each individual organism exists as the result of reproduction.


Excretion is the process of eliminating waste products of metabolism and other non-useful materials. It is an essential process in all forms of life ... In single-celled organisms, waste products are discharged directly through the surface of the cell.


Bydda i ddim yn mynd i ddweud "baban", dyw e ddim yn adeiladol, mae baban yn rhywbeth mwy, ond fel person sy ddim yn oedolyn, bydda i'n defnyddio "plentyn". Ac ok, dyw'r plentyn yn y bola ddim yn gallu atgynhyrchu, ond dyw plant tu mâs ddim yn gallu neud hwn chwaith (dim dadlau ar hwn, maen nhw yn bobl :P ) mae'r potensial i dyfu lan. Ond y dau arall yw rhywbeth sy'n digwydd yn y celloedd, nid yr organau, efalle mae'n rhaid i gyrff y mamau delfrydu gyda arlwyo bethau mae'n angen, ac gwaredu'r wastraff, ond rhaid i wneud na gyda baban newydd eniwe.

Wi'n siwr mae yn byw, ac fel wi wedi dweud yn ddynol. Ydy yna bywyd dynol? Mae llawer o gymhariaeth rhwng yna ac bobl eraill sy ddim yn "meddwl" ond gyda'r plentyn yn y bola mae potensial yn bodoli. Mae 7 miliwn ohonyn nhw wedi cael eu lladd ym Mhrydain yn y 40 o flwyddyn diwetha, os maen nhw'n blant, mae'n fwy na thrist...
Rhithffurf defnyddiwr
mabon-gwent
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2008 4:00 am

Re: Erthylu

Postiogan S.W. » Llun 07 Ebr 2008 2:18 pm

Does gen i ddim problem yn y byd hefo pobl sy'n dewis erthylu beth fydd yn troi'n fabi. Dwi'm yn gwbod be di'r llinell amser ond am gyfnod cwbwl sy gen ti di blob o gelloedd. Dio ddim gwahanol i be sy mewn wy dach chi'n ei brynnu o archfarchnad ac yn ei ffrio/berwi/pochio/sgramblo. Ydy'r pobl sy'n gwrthwynebu erthylu'n meddwl bod pobl sy'n bwyta wy yn evil hefyd?

Mater personol ydy gwneud dewis o'r fath. Dio'm yn ateb i'r broblem - h.y. ni ddylsai fod yn fodd o atalgenhedlu ond ni ddylsai pobl ddefnyddio crefydd nag dim byd arall fel ffordd o neud i bobl deimlo'n gas am wneud penderfyniad. Dylse rhai pobl ddysgu menidio'u busnesau.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Erthylu

Postiogan ceribethlem » Llun 07 Ebr 2008 2:21 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:
Movement
Respiration
Sensitivity
Growth
Reproduction
Excretion
Nutrition


Dwi'n hapus i gael fy nghywiro gan rywyn sy'n gwybod yn well (Ceri?), ond tydw i ddim yn meddwl fod y rhai mewn bold yn digwydd i faban yn y groth - ac yn bendant ddim cyn y 'deadline' erthylu o 20 wythnos.

Ai, fel wedodd mabon-gwent, mae'r embryo a'r ffoetws yn y groth yn gwneud rhain (er atgynhedlu'n fwy dadleuol efallai).

O ran respiradu, rhaid cofio mai nid anadlu yw ystyr hwn (achos dyw pysgod na phlanhigion ddim yn anadlu, ond maent yn resbiradu). Ystyr Resbiradu yw defnyddio glwcos ac ocsigen i gynhyrchu egni.

Ysgarthu - mae'r ffoetws yn ysgarthu, ac mae'r gwastraff yn cael ei gludo mas o'r llinyn bogel at waed y fam (honno sy'n gwneud y gwaith ffisegol a bisho a cachu'r gwastraff mas wrth gwrs).

Atgynhedlu - mae hwn yn son mwy am y potential i atgynhedlu na'r broses ei hunan. Mae pob merch yn cael eu genu gyda'r holl wyau wedi ffurfio yn yr ofariau'n barod. felly o ran hynny mae'r offer yna'n barod. wrth gwrs mae'n rhaid i'r corff aeddfedu cyn bod y broses o atgynhedlu'n gallu gweithio.


Bydde'n i'n tybio nad oes unrhyw wyddonydd yn dweud nad yw'r embryo na'r ffoetws (nac am hynny yr wy wedi'i ffrwythlonni) yn fyw. Mae'r ddadl yn un mwy cymleth ac yn ymwneud a differentiation o fewn yr embryo. Am gyfnod mae pob cell yn union yr un peth, yn hynny o beth gellir dadlau nad bod dynol sy'n bodoli. P'un ai dyna'r ddadl cywir ai peidio yn gwestiwn i bobl sydd wedi astudio datblygiad embryo i raddau llawer dyfnach na fi.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Erthylu

Postiogan rooney » Mer 09 Ebr 2008 12:01 am

ceribethlem a ddywedodd:Bydde'n i'n tybio nad oes unrhyw wyddonydd yn dweud nad yw'r embryo na'r ffoetws (nac am hynny yr wy wedi'i ffrwythlonni) yn fyw. Mae'r ddadl yn un mwy cymleth ac yn ymwneud a differentiation o fewn yr embryo. Am gyfnod mae pob cell yn union yr un peth, yn hynny o beth gellir dadlau nad bod dynol sy'n bodoli. P'un ai dyna'r ddadl cywir ai peidio yn gwestiwn i bobl sydd wedi astudio datblygiad embryo i raddau llawer dyfnach na fi.


Dyna ddweud cyfrolau am feddylfryd y "gwyddonwyr".
Mae byd o wahaniaeth rhwng celloedd ni'n daflu ffwrdd bob dydd o'n crwyn a chelloedd embrio sy'n datblygu i fod yn fabanod fel roedd ti a fi ers talwm.
Ymddengys fod ni methu ymddiried yn y "gwyddonwyr" i ddiffinio dechreuad bywyd gan fod nhw mor awyddus i wneud eu difiniadau eu hunain fyny, sydd heb sail gadarn iddynt, moesol neu fel arall. Yn wir, mwy dyfn ni'n edrych mewn i fywyd, y mwyaf angredadwy yw'r syniad does dim Duw Greawdwr.

Un dydd wneith "gwyddoniaeth" ddal fyny gyda realiti. Mae gwyddoniaeth go iawn yn cytuno gyda'r reliati mae pawb yn ei deimlo a gyda beth mae'r Beibl yn ei ddysgu. Ond mae cymaint o "wyddonwyr" eisiau perswadio ni o syniadau eraill, tristwch.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Erthylu

Postiogan ceribethlem » Mer 09 Ebr 2008 9:12 am

rooney a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Bydde'n i'n tybio nad oes unrhyw wyddonydd yn dweud nad yw'r embryo na'r ffoetws (nac am hynny yr wy wedi'i ffrwythlonni) yn fyw. Mae'r ddadl yn un mwy cymleth ac yn ymwneud a differentiation o fewn yr embryo. Am gyfnod mae pob cell yn union yr un peth, yn hynny o beth gellir dadlau nad bod dynol sy'n bodoli. P'un ai dyna'r ddadl cywir ai peidio yn gwestiwn i bobl sydd wedi astudio datblygiad embryo i raddau llawer dyfnach na fi.


Dyna ddweud cyfrolau am feddylfryd y "gwyddonwyr".
ddim yn deall dy bwynt, fi'n cyfaddef nad ydwyf wedi astudio'r adran yma o wyddoniaeth yn ddigonol i ddatgan barn. Beth mae hynny'n dweud am feddylfryd gwyddonwyr yn union? Bod fi ddim yn bango mlan am bethau fi ddim yn deall? Peth da os bosib.

rooney a ddywedodd:Mae byd o wahaniaeth rhwng celloedd ni'n daflu ffwrdd bob dydd o'n crwyn a chelloedd embrio sy'n datblygu i fod yn fabanod fel roedd ti a fi ers talwm.
Ymddengys fod ni methu ymddiried yn y "gwyddonwyr" i ddiffinio dechreuad bywyd gan fod nhw mor awyddus i wneud eu difiniadau eu hunain fyny, sydd heb sail gadarn iddynt, moesol neu fel arall.
Dim o gwbwl, mae'r acronym MR TASSY (neu MRS GREN yn Saesneg yn rhoi sail go glir am ddiffiniad bywyd. Mae'r cwesitwn o ble mae'r bywyd yma (sy'n bel o gelloedd) yn troi'n fod dynol yn fwy anodd diffinio wrth reswm. Dyna paham dywedais nad ydwyf yn gwybod yr ateb i hynny, nid ydwyf wedi ei astudio.
rooney a ddywedodd:Yn wir, mwy dyfn ni'n edrych mewn i fywyd, y mwyaf angredadwy yw'r syniad does dim Duw Greawdwr.
Peth od i ddweud fel Luddite sy'n gwrthod derbyn unrhyw wybodaeth wyddonol fel sail i unrhywbeth. Os mai dim ond pobol fel ti bydde wedi byw erioed bydden ni gyd dal i fyw lan coeden gan waeddu "ugg" ar ein cymdogion!

Un dydd wneith "gwyddoniaeth" ddal fyny gyda realiti. Mae gwyddoniaeth go iawn yn cytuno gyda'r reliati mae pawb yn ei deimlo a gyda beth mae'r Beibl yn ei ddysgu. Ond mae cymaint o "wyddonwyr" eisiau perswadio ni o syniadau eraill, tristwch.[/quote]
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Erthylu

Postiogan S.W. » Mer 09 Ebr 2008 9:16 am

Rooney wyt ti'n Vegan? Oes gwahaniaeth rhwng erthylu emryo a bwyta wy? Wedi'r cwbwl pan dori di wy be sy'n dod allan? Be fyddai wedi datblgu'r gyw/crocodeil/deinosor/neidr cyn i rhywun ei dynnu ffwrdd o'i fam. Dy Dduw greodd rhain hefyd.

A tra mae dadleuon cryf Ceribethlem yn 'typical Gwyddonydd' oni ellir dweud bod dy ddadleuon di'n "typical o Gristion eithafol"? Dydy'r ffaith dy fod ti'n credu dy fod yn dweud y gwir ddim yn golygu dy fod yn fwy cywir nag neb arall. Mae gennych ddau brawf yn profi eich bod yn gywir, a mae fyny i chi a pawb arall benderfynu pa un sydd mwyaf debygol o fod yn wir.

Mae Gwyddoniaeth wedi cwbwl yn debyg iawn i fath o grefydd - mae on ffordd person o egluro datblygiad dynol a'r ddaear. Mae'r ddau yn fath o gred.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 39 gwestai