Erthylu

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Erthylu

Postiogan S.W. » Iau 10 Ebr 2008 9:28 am

Fel ddudis i gyne Rooney = Nut Job.

Rooney wyt ti'n vegan?
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Erthylu

Postiogan ceribethlem » Iau 10 Ebr 2008 10:08 am

rooney a ddywedodd: Ac y ffantasi/dogma ddiweddaraf yw "climate change".
Sut mae'n ffantasi/dogma? Mae'r hinsawdd yn newid. Ffaith, mae'r data dros y canrif diwethaf yn cefnogi hyn. Wyt ti'n gwadu'r ffeithiau yma?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Erthylu

Postiogan Duw » Iau 10 Ebr 2008 2:26 pm

Ofni - methu ffeindio "tystiolaeth" yn ei lyfr pwysig ac felly GWADU'R HOLL BETH!!!!

Gall wyddonwyr gael e'n anghywir a symud ymlaen (damcaniaeth newydd i'w ddilyn) - nid yw person crefyddol yn gallu cyfaddef eu bod /eu crefydd yn anghywir - gwendid yw hyn - a cholled hyder yn yr ysgrythur. Fel rydych yn crybwyll, Rooney = "Outer Limits ar Ecstasi" - ond ware teg, mae'n gwd faliw!
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Erthylu

Postiogan rooney » Iau 10 Ebr 2008 6:14 pm

Duw a ddywedodd:Gall wyddonwyr gael e'n anghywir a symud ymlaen (damcaniaeth newydd i'w ddilyn) - nid yw person crefyddol yn gallu cyfaddef eu bod /eu crefydd yn anghywir - gwendid yw hyn - a cholled hyder yn yr ysgrythur.


Gyda'r holl ymosodiadau personol mae'n anodd ffeindio pwyntiau i ymateb iddo. Yn wir mae eich ymosodiadau personol yn ymateb i rywun sydd yn meiddio cwestiynu dogmas gwyddonol. Yn hyn o beth, yr ydych yn byhafio yn yr un modd a'r bobl grefyddol yr ydych yn eu casau gymaint. Chi ddim i'w weld yn galu cyfaddef na cydnabod fod tyllau mawr yn y dogmas gwyddonol, ac fod gwyddonwyr yn cadw yn grefyddol tuag at ddogmas sydd heb dystiolaeth gwyddonol o ddifri i'w cefnogi e.e. abiogenesis, bywyd yn y gofod, esblygu cell-i-ddyn

Nid yw'r gwir yn newid. Mae Gair Duw fel ty wedi ei adeiladu ar graig, nid tywod.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Erthylu

Postiogan rooney » Iau 10 Ebr 2008 6:38 pm

ceribethlem a ddywedodd:Sut mae'n ffantasi/dogma? Mae'r hinsawdd yn newid. Ffaith, mae'r data dros y canrif diwethaf yn cefnogi hyn. Wyt ti'n gwadu'r ffeithiau yma?


y ffantasi/dogma yw'r syniad fod y byd yn mynd yn fwy poeth oherwydd dyn
fel ti'n dweud, mae'r hinsawdd yn newid. Mae wastad wedi newid. So what? Mae wedi bod yn fwy poeth yn y gorffenol, yn y canol oesoedd er enghraifft.
Mae nhw'n gafael mewn ystadegau sydd yn siwtio eu dogma. Ac yn trin unrhywun sydd yn anghytuno gyda "global warming" fel heretic neu dwpsyn.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Erthylu

Postiogan ceribethlem » Iau 10 Ebr 2008 6:47 pm

rooney a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Sut mae'n ffantasi/dogma? Mae'r hinsawdd yn newid. Ffaith, mae'r data dros y canrif diwethaf yn cefnogi hyn. Wyt ti'n gwadu'r ffeithiau yma?


y ffantasi/dogma yw'r syniad fod y byd yn mynd yn fwy poeth oherwydd dyn
Sydd yn bwynt hollol wahanol i'r un gwreiddiol wnes di.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Erthylu

Postiogan rooney » Iau 10 Ebr 2008 6:52 pm

ond does dim "global warming", ond os dwedi di'r ffasiwn beth fe fyddai "gwyddonwyr" di-ri yn dy drin fel heretic anwyddonol. Beth am edrych ar y ffeithiau:-

http://www.telegraph.co.uk/opinion/main ... world.html

"There IS a problem with global warming... it stopped in 1998"
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Erthylu

Postiogan ceribethlem » Iau 10 Ebr 2008 6:57 pm

rooney a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Gall wyddonwyr gael e'n anghywir a symud ymlaen (damcaniaeth newydd i'w ddilyn) - nid yw person crefyddol yn gallu cyfaddef eu bod /eu crefydd yn anghywir - gwendid yw hyn - a cholled hyder yn yr ysgrythur.


Gyda'r holl ymosodiadau personol mae'n anodd ffeindio pwyntiau i ymateb iddo. Yn wir mae eich ymosodiadau personol yn ymateb i rywun sydd yn meiddio cwestiynu dogmas gwyddonol. Yn hyn o beth, yr ydych yn byhafio yn yr un modd a'r bobl grefyddol yr ydych yn eu casau gymaint. Chi ddim i'w weld yn galu cyfaddef na cydnabod fod tyllau mawr yn y dogmas gwyddonol, ac fod gwyddonwyr yn cadw yn grefyddol tuag at ddogmas sydd heb dystiolaeth gwyddonol o ddifri i'w cefnogi e.e. abiogenesis, bywyd yn y gofod, esblygu cell-i-ddyn
Fel i mi ddweud eisoes, mae pob gwyddonydd gwerth ei halen yn mynd i gydnabod nad oes yr holl atebion gyda ni eto. Dyna pam fod gwyddonwyr yn parhau i ymchwilio a darganfod mwy. Fi ddim yn gwybod pam ti'n bango mlan am dogma gwyddonol, fi wir ddim yn gwybod beth mae hyn yn ei feddwl.

Ti'n obsesd gyda abiogenesis, dyw'r mwyafrif o wyddonwyr ddim yn ffwdanu am y peth a bod yn onest. Beth am fywyd yn y gofod? Wyt ti'n awgrymu fod yna fywyd? neu fod dim bywyd? Ti'n fodlon egluro dy bwynt yn lle malu cachu? Ti yw'r unig berson fi'n gwbod am sy'n son am "esblygiad cell-i-ddyn". Ife rhyw adraqn newydd o esblygiad yw hyn?

rooney a ddywedodd:Nid yw'r gwir yn newid. Mae Gair Duw fel ty wedi ei adeiladu ar graig, nid tywod.
Ond un sydd heb unrhyw seiliau gwyddonol, ac felly yn annerbyniol i'w dderbyn fel ffaith gwyddonol (dyma'r cylch mawr yn cyrraedd y cychwyn am yr n-fed tro :rolio: )
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Erthylu

Postiogan ceribethlem » Iau 10 Ebr 2008 7:04 pm

rooney a ddywedodd:Gyda'r holl ymosodiadau personol mae'n anodd ffeindio pwyntiau i ymateb iddo.

:lol: methes i hwn, da iawn rooney :lol:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Erthylu

Postiogan rooney » Iau 10 Ebr 2008 7:07 pm

ceribethlem a ddywedodd:Fel i mi ddweud eisoes, mae pob gwyddonydd gwerth ei halen yn mynd i gydnabod nad oes yr holl atebion gyda ni eto. Dyna pam fod gwyddonwyr yn parhau i ymchwilio a darganfod mwy. Fi ddim yn gwybod pam ti'n bango mlan am dogma gwyddonol, fi wir ddim yn gwybod beth mae hyn yn ei feddwl.

Ti'n obsesd gyda abiogenesis, dyw'r mwyafrif o wyddonwyr ddim yn ffwdanu am y peth a bod yn onest. Beth am fywyd yn y gofod? Wyt ti'n awgrymu fod yna fywyd? neu fod dim bywyd? Ti'n fodlon egluro dy bwynt yn lle malu cachu? Ti yw'r unig berson fi'n gwbod am sy'n son am "esblygiad cell-i-ddyn". Ife rhyw adraqn newydd o esblygiad yw hyn?


edefyn arall, falle

rooney a ddywedodd:Ond un sydd heb unrhyw seiliau gwyddonol, ac felly yn annerbyniol i'w dderbyn fel ffaith gwyddonol (dyma'r cylch mawr yn cyrraedd y cychwyn am yr n-fed tro :rolio: )


Tydw i erioed wedi honni, a nid yw'r Beibl yn honni, fod y cread yn deillio o broses naturiol. Mae yma oherwydd cread gan Dduw goruwchnaturiol, cread pwrpasol a threfnus. Felly fydd e byth yn "ffaith wyddonol" gan mae allan o scope gwyddoniaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 28 gwestai

cron