Erthylu

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan rooney » Llun 30 Gor 2007 12:56 am

Dylan a ddywedodd:Ond mae enghraifft yr Iseldiroedd (a nifer o wledydd eraill ar y cyfandir) yn dangos yn eglur nad oes modd rhoi'r "bai" am gyfraddau erthylu uchel ar y pethau rwyt ti'n obsesiynu yn eu cylch, ac os unrhyw beth y gwrthwyneb pur sy'n nes ati


hmm, pam fod Dylan yn son am wledydd y cyfandir?
Beth am edrych ar America... uh oh...

http://www.deathroe.com/Pro-life_Answer ... .cfm?ID=71

Contraception is the answer to abortion.

While this may seem logical, in practice it is now clear that pushing contraception increases sexual activity at a greater rate than it increases the use of contraception. This became apparent starting in the 1960s when America’s dramatic increase in contraception use was accompanied by an equally dramatic rise in sexual activity, unplanned pregnancies, abortion, and sexually transmitted diseases.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Erthylu

Postiogan Boibrychan » Llun 30 Gor 2007 8:44 am

rooney a ddywedodd:http://news.bbc.co.uk/1/hi/health/6765953.stm

Abortion numbers increase again

There are strong views on both sides of the abortion debate
The number of abortions carried out in England and Wales rose by 3.9% to 193,700 in 2006.


Deallaf fod tua 7m wedi eu lladd trwy erthylu ers 1967. Dyma staen uffernol ar Cymru, Prydain a'r Gorllewin. Pryd mae'r hunllef yma am ddod i ben?


Dibynnu os wyt ti'n credu mae bywyd yn dechrau ar ffrwythloni, a o dy safbwyntiau fan hyn a fan arall dwi'n cymryd dy fod ti. Dwi ddim.

Felly na dwi ddim yn ei weld fel 7 miliwn o bobl wedi marw, ond dwi'n meddwl ei fod yn broblem bod gymant wedi gorfod (bod nhw'n ffeindio'u hunain yn feichiog yn y lle cyntaf, cyn ti drio troi fy ngeiriau) mynd twy erthylu yn y lle cyntaf.

Does na ddim ond un ateb yn does; dim Rhyw heblaw ei fod ar gyfer creu plentyn,gan fod yr eglwys gatholig yn erbyn dulliau atalgenhedlu!
Rhithffurf defnyddiwr
Boibrychan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 252
Ymunwyd: Iau 01 Maw 2007 7:23 pm
Lleoliad: Byrmingham

Postiogan Y Celt Cymraeg » Llun 30 Gor 2007 9:31 am

Pam ei di ar peth gam ym mhellach ac anghyfreithloni wancio, gan fod potential o wastio bywyd!
O swyddfa' r cyfarwyddwr
Y Celt Cymraeg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 117
Ymunwyd: Sul 12 Hyd 2003 7:51 pm
Lleoliad: Blaenau Ffestiniog

Re: Erthylu

Postiogan Dan Dean » Llun 30 Gor 2007 9:48 am

Boibrychan a ddywedodd:Does na ddim ond un ateb yn does; dim Rhyw heblaw ei fod ar gyfer creu plentyn

:?
Ti di neud i mi isio cael plant rwan. Cannoedd ohonyn nhw.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Boibrychan » Llun 30 Gor 2007 10:42 am

Y Celt Cymraeg a ddywedodd:Pam ei di ar peth gam ym mhellach ac anghyfreithloni wancio, gan fod potential o wastio bywyd!



Dyna pam mae'r ddadl bod ti'n atal person potensial rhag bodoli yn syrthio ar ei ben, mae'n wir drwy'r adeg dim jest wrth wancio! Dwi'm yn cael rhyw ar y funud felly dwi'n atal bodolaeth person potensial! Ond mae gwastraffu ei nofwyr bach gwyrthiol yn digio fe yn y cymylau hyd yn oed mwy!

Fel ganodd Michael Plain;

"Every Sperm is sacred, every sperm is great, if a sperm is wasted god get's quite irate!"

:lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Boibrychan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 252
Ymunwyd: Iau 01 Maw 2007 7:23 pm
Lleoliad: Byrmingham

Postiogan Dylan » Llun 30 Gor 2007 11:13 am

rooney a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:Ond mae enghraifft yr Iseldiroedd (a nifer o wledydd eraill ar y cyfandir) yn dangos yn eglur nad oes modd rhoi'r "bai" am gyfraddau erthylu uchel ar y pethau rwyt ti'n obsesiynu yn eu cylch, ac os unrhyw beth y gwrthwyneb pur sy'n nes ati


hmm, pam fod Dylan yn son am wledydd y cyfandir?
Beth am edrych ar America... uh oh...

http://www.deathroe.com/Pro-life_Answer ... .cfm?ID=71

Contraception is the answer to abortion.

While this may seem logical, in practice it is now clear that pushing contraception increases sexual activity at a greater rate than it increases the use of contraception. This became apparent starting in the 1960s when America’s dramatic increase in contraception use was accompanied by an equally dramatic rise in sexual activity, unplanned pregnancies, abortion, and sexually transmitted diseases.


ie grêt, beth am edrych ar America: gwlad sydd â chyfradd beichiogrwydd ymysg merched yn eu harddegau sydd saith gwaith yn uwch nag yn yr Iseldiroedd

dw i'n defnyddio'r Iseldiroedd fel enghraifft achos dyna'r gymhariaeth sydd wedi aros yn fy nghof. Dria i ffindio ystadegau tebyg ar gyfer Prydain ayyb

yn ddifyrach byth, yn America mae cyfraddau erthylu lot uwch yn y taleithiau hynny y gellid eu galw'n fwy crefyddol (y "red states" bondigrybwyll) nag yn y taleithiau arfordirol mwy "rhyddfrydol" eu naws. "Go figure" ys dywed rhai o drigolion y taleithiau hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan S.W. » Llun 30 Gor 2007 12:41 pm

Dwi'n cytuno hefo'r hyn ddywedodd Dylan ar y dechre. Dylid byth neud erthyliad yn rhyw ddull derbyniol o atalgenhedlu, ond ni ddylid byth ystyried ei atal chwaith.

Dwi'n credu bod crydfer mewn cyfyngu'r amser y gellir erthylu (oni bai bod rhesymau meddygol), ond ar y dechrau cwbl sy'n cael eu dinistrio ydy cyfres o gelloedd. Nid babi, a nid bywyd.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Positif80 » Llun 30 Gor 2007 2:30 pm

Dwi'n cytuno hefo erthyliad mewn achlysuron cynfyngiedig iawn, ond eto nid oes gen i groth, sydd i rai pobl yn meddwl nad oes gen i hawl i ddadlau am y peth. Wna i stopio, felly, cyn i mi ddweud rywbeth twp sy'n mynd i wylltio rywun. .
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan S.W. » Llun 30 Gor 2007 2:38 pm

Positif80 a ddywedodd:Dwi'n cytuno hefo erthyliad mewn achlysuron cynfyngiedig iawn, ond eto nid oes gen i groth, sydd i rai pobl yn meddwl nad oes gen i hawl i ddadlau am y peth. Wna i stopio, felly, cyn i mi ddweud rywbeth twp sy'n mynd i wylltio rywun. .


Efallai nad oes groth gennyt, ond mae'n cymryd mwy nag groth i neud babi!
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Positif80 » Llun 30 Gor 2007 2:53 pm

S.W. a ddywedodd:
Positif80 a ddywedodd:Dwi'n cytuno hefo erthyliad mewn achlysuron cynfyngiedig iawn, ond eto nid oes gen i groth, sydd i rai pobl yn meddwl nad oes gen i hawl i ddadlau am y peth. Wna i stopio, felly, cyn i mi ddweud rywbeth twp sy'n mynd i wylltio rywun. .


Efallai nad oes groth gennyt, ond mae'n cymryd mwy nag groth i neud babi!


Fel arfer, pum can o fosters a 7 WKD. Wel, yn Rhyl efalla.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 34 gwestai