Erthylu

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan rabscaliwn » Sad 20 Hyd 2007 2:22 pm

Dylan a ddywedodd: Ond mater o ddewis i'r ferch ydi o.
O ie wir? A beth am y plentyn sy'n cael ei lofruddio? Beth am ei ddewis e/hi? Beth am y tad?

Dylan a ddywedodd:Mae wir mor syml â hynny. Ei chorff hi ydi o.
A'r babi? Corff pwy yw hwnnw? Corff y fam? Wrth gwrs nage. Mae'r rhesymeg pro-erthylu mor wantan.

Dylan a ddywedodd:Modd o reoli a gorthrymu merched (un o themâu amlycaf unrhyw grefydd) ydi gwrthod y dewis yna iddi
Dwi'm yn gwbod pam ti'n dod a chrefydd mewn i hyn, ond hwn yw'r tro cyntaf erioed i fi glywed unrhyw un yn dweud mai gorthrymu merched yw un o brif themau unrhyw grefydd! Ac ma''r cyhuddiad fod gwrthod yr hawl i erthylu yn gorthrymu merched yn hollol, hollol anhygoel. Ti'n siarad cachu. Ma' gyda merched BOB cyfle i beidio beichiogi, trwy beidio meddwi, cau eu coesau, defnyddio condoms/pils/coils/pigiade etc etc etc. Os y'n nhw'n rhy anghyfrifol, yn wyneb yr holl bosibiliade sydd gyda nhw, i beidio beichiogi, yna does DIM hawl gyda nhw dros gorff y babi. Na'u corff eu hunain o ran hynny. Ma' 'na ddyletswydd moesol a chymdeithasol arnyn nhw i eni'r babi.

Dylan a ddywedodd:tra mod i ddim yn credu bod gan unrhyw un yr hawl i reoli cyrff ... pobl eraill
ee trwy eu erthylu?

Dylan a ddywedodd:os di rhywun isio casual shag bob wicend, rock on
o ti mor cwl Dylan.

Dylan a ddywedodd: - ie swn i yn awgrymu falle bod bach o waith i'w wneud eto o ran addysgu dulliau atal-genhedlu ayyb
Beth? BETH? Ma' pobol ifainc yn gwbod mwy nag erioed am rhyw ac atal cenhedlu, ond dy'n nhw'm yn becso ffyc. Pam? Am fod gormod o 'safety nets' ar eu cyfer nhw - pil bore wedyn neu erthyliad i'r rhaid sy'n mo'yn lladd, a'r wladwriaeth les i'r rhai sydd ddim.
rabscaliwn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 175
Ymunwyd: Maw 07 Chw 2006 9:30 am

Postiogan Dylan » Sad 20 Hyd 2007 3:35 pm

plentyn? pa blentyn?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Sad 20 Hyd 2007 3:45 pm

rabscaliwn a ddywedodd:A'r babi? Corff pwy yw hwnnw? Corff y fam? Wrth gwrs nage. Mae'r rhesymeg pro-erthylu mor wantan.


eto, ti'n dweud "pro-erthylu" fel petai'r sawl sydd o blaid hawl y ferch i ddewis yn gorfoleddu yn y peth. Pro-dewis, plis. A does dim babi, does dim corff, does dim person. Clwmp o gelloedd. Yn y rhan fwyaf o'r achlysuron lle mae wy'n cael ei ffrwythloni, mae'n methu'n naturiol beth bynnag ac mae'r corff yn cael gwared arno heb iddi hyd yn oed sylweddoli bod hi 'di beichiogi'n y lle cynta


Dylan a ddywedodd:tra mod i ddim yn credu bod gan unrhyw un yr hawl i reoli cyrff ... pobl eraill
ee trwy eu erthylu?


dydi clwmp o gelloedd yn y groth ddim yn gorff. Mae'n rhan o gorff y ferch

o ti mor cwl Dylan.


diolch i ti.

ond hold on, ti wir yn meddwl bod gen ti unrhyw hawl i ddweud be gaiff dau oedolyn ei wneud yn y gwely?

Beth? BETH? Ma' pobol ifainc yn gwbod mwy nag erioed am rhyw ac atal cenhedlu, ond dy'n nhw'm yn becso ffyc. Pam? Am fod gormod o 'safety nets' ar eu cyfer nhw - pil bore wedyn neu erthyliad i'r rhaid sy'n mo'yn lladd, a'r wladwriaeth les i'r rhai sydd ddim.


be ddiawl sy'n bod ar y pil bore wedyn? Pa wrthwynebiad posibl sydd 'na?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rabscaliwn » Sad 20 Hyd 2007 4:46 pm

Dylan a ddywedodd:eto, ti'n dweud "pro-erthylu" fel petai'r sawl sydd o blaid hawl y ferch i ddewis yn gorfoleddu yn y peth. Pro-dewis, plis.
Ffycin semantics.

Dylan a ddywedodd:A does dim babi, does dim corff, does dim person. Clwmp o gelloedd.
Mae'n bosib erthylu hyd 24 wythnos pan ma'r babi nid yn unig wedi ffurfio, ond bellach a gobaith dda o fywyd petai'n cael ei eni ar y pwynt hwnnw. Clwmp o gelloedd wir.

Dylan a ddywedodd:ond hold on, ti wir yn meddwl bod gen ti unrhyw hawl i ddweud be gaiff dau oedolyn ei wneud yn y gwely?
Ma'r ddadl hyn mor flinedig. Gadewch i ni ga'l un peth yn glir, MA' hawl gan gymdeithas i ffrwyno ymddygiad pobol pan fo'r sgil-effeithiau mor ddinistriol

Dylan a ddywedodd:
Beth? BETH? Ma' pobol ifainc yn gwbod mwy nag erioed am rhyw ac atal cenhedlu, ond dy'n nhw'm yn becso ffyc. Pam? Am fod gormod o 'safety nets' ar eu cyfer nhw - pil bore wedyn neu erthyliad i'r rhaid sy'n mo'yn lladd, a'r wladwriaeth les i'r rhai sydd ddim.


be ddiawl sy'n bod ar y pil bore wedyn? Pa wrthwynebiad posibl sydd 'na?
Wyt ti'n dewis peidio gweld y pwynt am nad wyt ti am ei wynebu, neu wyt ti wirioneddol yn dwp?

[wedi dileu rhai brawddegau yn dilyn adroddiad am ymosodiad personol, sian]
rabscaliwn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 175
Ymunwyd: Maw 07 Chw 2006 9:30 am

Postiogan Dylan » Sad 20 Hyd 2007 5:05 pm

rabscaliwn a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:eto, ti'n dweud "pro-erthylu" fel petai'r sawl sydd o blaid hawl y ferch i ddewis yn gorfoleddu yn y peth. Pro-dewis, plis.
Ffycin semantics y twat.


dim o gwbl fy nhwpsyn annwyl i. Mae dweud "pro-erthylu" yn ymgais bwriadol a hyll i bortreadu'r pro-dewis fel dihirod sy'n gweiddi HWRE a chynnal parti mawr bob tro mae rhywun yn cael erthyliad. Sy'n gwbl anonest. Fel dw i 'di ddweud droeon: dylai fod yn saff, yn gyfreithlon, ac yn beth prin

rabscaliwn a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:A does dim babi, does dim corff, does dim person. Clwmp o gelloedd.
Ignorant fuck. Mae'n bosib erthylu hyd 24 wythnos pan ma'r babi nid yn unig wedi ffurfio, ond bellach a gobaith dda o fywyd petai'n cael ei eni ar y pwynt hwnnw. Clwmp o gelloedd wir.


Wrth i feddyginiaeth fodern barhau i wella, cred neu beidio dw i'n cytuno bod dadl gref dros leihau'r cyfnod lle mae modd erthylu i 18-20 wythnos.

rabscaliwn a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:ond hold on, ti wir yn meddwl bod gen ti unrhyw hawl i ddweud be gaiff dau oedolyn ei wneud yn y gwely?
Ma'r ddadl hyn mor flinedig. Gadewch i ni ga'l un peth yn glir, MA' hawl gan gymdeithas i ffrwyno ymddygiad pobol pan fo'r sgil-effeithiau mor ddinistriol


Ti o blaid rhyw fath o secs polîs felly? Sglyfath. Ti'n sylweddoli pa mor afiach ydi'r syniad yna dwyt? Does gen ti, na neb arall, yr hawl i ddweud wrtha i na neb arall be gawn ni ei wneud yn ein bywydau rhywiol. Gad dy facha brwnt oddi ar fy nghorff i.

rabscaliwn a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:
Beth? BETH? Ma' pobol ifainc yn gwbod mwy nag erioed am rhyw ac atal cenhedlu, ond dy'n nhw'm yn becso ffyc. Pam? Am fod gormod o 'safety nets' ar eu cyfer nhw - pil bore wedyn neu erthyliad i'r rhaid sy'n mo'yn lladd, a'r wladwriaeth les i'r rhai sydd ddim.


be ddiawl sy'n bod ar y pil bore wedyn? Pa wrthwynebiad posibl sydd 'na?
Wyt ti'n dewis peidio gweld y pwynt am nad wyt ti am ei wynebu, neu wyt ti wirioneddol yn dwp?


Mae'r pil bore wedyn yn ddull atal-genhedlu saff ac effeithlon. Wrth reswm dydi o'n gwneud dim i atal lledu STDs, ond cwestiwn arall ydi hynny. Pa bwynt wyt ti'n trio'i wneud fan hyn mewn difri?

Ta waeth am y dadleuon moesol i gyd, mae'r un ymarferol yn ddwysach byth. Wnei di byth stopio pobl rhag cael erthyliad. Os ei wahardd, ti'n gyrru'r broses underground fel mae nhw'n ei ddweud. I'r back alleys a'r hongwyr cotiau bondigrybwyll. Sy'n beryclach a lot mwy niweidiol. Mae'r erthygl yma yn ddadlennol iawn
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Sili » Sad 20 Hyd 2007 8:12 pm

rabscaliwn a ddywedodd:Mae'n bosib erthylu hyd 24 wythnos pan ma'r babi nid yn unig wedi ffurfio, ond bellach a gobaith dda o fywyd petai'n cael ei eni ar y pwynt hwnnw. Clwmp o gelloedd wir.


Dwi'm yn meddwl fod hi'n deg diystyru pwynt Dylan fel 'ma. Wrth gwrs fod hi'n bosib erthylu hyd at pedair ar hugain wythnos ar hyn o bryd, a fod na bellach rhyw siawns o 75% y gellith y baban fyw efo'r driniaeth feddygol iawn erbyn y cyfnod yma. Ond grwp o gelloedd ydi'r hyn sy'n bodoli yr adeg mae'r wy yn cael ei ffrwythloni hyd at rhyw fis wedyn, boed y potensial o fywyd yno neu beidio. Ti'n gneud iddi swnio fatha fod Dylan yn cytuno efo polisi y llywodraeth, pan nad ydio wedi deud y ffasiwn beth.

Ma raid i mi gytuno fod y polisi presennol angen ei newid i ugain wythnos ar y mwyaf, gan fod babanod yn byw wedi tair ar hugain wythnos erbyn hyn ac wrth i safon y gofal meddygol wella, allai weld yr oedran yn gostwng ymhellach eto. Anaml iawn fodd bynnag y cewch chi unrhyw ddoctor sydd yn barod i berfformio erthyliad erbyn i'r fam gyrraedd ei phedwerydd wythnos ar hugain. Fyddwn i'n sicr byth yn medru perfformio'r fath driniaeth heb reswm digonol.

Dylan a ddywedodd:Os ei wahardd, ti'n gyrru'r broses underground fel mae nhw'n ei ddweud. I'r back alleys a'r hongwyr cotiau bondigrybwyll. Sy'n beryclach a lot mwy niweidiol.


Cytuno. Nid yn unig mae'n peryglu bywyd y fam, ond o be dwi'n ddallt, yn aml iawn tydi'r driniaeth ddim yn llwyddo a ma'r fam yn cyrraedd 'full term' gan eni baban sydd yn dioddef o'r herwydd.

Fel dwi di ddeud o'r blaen, swni'n lecio gwbod be di barn y bobl sy'n hynnod 'anti-abortion' am erthylu oherwydd trais, problemau seicolegol neu problemau meddygol. Allai'm dallt yn iawn pam y byddai rhywun yn erbyn y driniaeth ar adegau fel hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan Dylan » Sul 21 Hyd 2007 2:50 am

Sili a ddywedodd:Ma raid i mi gytuno fod y polisi presennol angen ei newid i ugain wythnos ar y mwyaf, gan fod babanod yn byw wedi tair ar hugain wythnos erbyn hyn ac wrth i safon y gofal meddygol wella, allai weld yr oedran yn gostwng ymhellach eto. Anaml iawn fodd bynnag y cewch chi unrhyw ddoctor sydd yn barod i berfformio erthyliad erbyn i'r fam gyrraedd ei phedwerydd wythnos ar hugain. Fyddwn i'n sicr byth yn medru perfformio'r fath driniaeth heb reswm digonol.


mae hwnna'n bwynt pwysig. Y terfyn cyfreithiol ydi 24 wythnos. Mae angen rhyw ffigwr penodol yn y cyd-destun hwnnw, mwn. Ond y gwir ydi mai prin iawn iawn ydi'r achosion ble mae erthyliad yn digwydd ar ôl cymaint â hynny o amser. Dim ond mewn achosion arbennig ble mae cymlethdodau yn peryglu bywyd y fam. Fel on i'n dweud, dw i'n meddwl ei bod hi'n amser hwyrach newid y gyfraith fymryn a gosod y terfyn ar ôl rhyw 18-20 wythnos.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rabscaliwn » Sul 21 Hyd 2007 6:16 pm

Dylan a ddywedodd:Ti o blaid rhyw fath o secs polîs felly? Sglyfath. Ti'n sylweddoli pa mor afiach ydi'r syniad yna dwyt? Does gen ti, na neb arall, yr hawl i ddweud wrtha i na neb arall be gawn ni ei wneud yn ein bywydau rhywiol. Gad dy facha brwnt oddi ar fy nghorff i.
Dim hawl dweud wrth neb beth gewn nhw neud yn eu bywyde rhywiol? Really? Beth am athrawon yn ca'l cyfathrach rhywiol gyda disgyblion? Sy'n 18 oed? Sacked. Rheolaeth dros fywyd rhywiol. Dim rhyw cyn 16 oed. etc. Ma' rhaid ca'l rhyw ffinie, ni jyst yn anghytuno ar lle ma''r ffinie hynny.

[Rabscaliwn - bihafia! gol.]
rabscaliwn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 175
Ymunwyd: Maw 07 Chw 2006 9:30 am

Postiogan huwwaters » Sul 21 Hyd 2007 10:55 pm

rabscaliwn a ddywedodd:
huwwaters a ddywedodd:Dylai erthylu wostad fod ar gael fel dewis. Nid er mwyn cyfleuster ond, fel dewis olaf. Does dim gwaeth na dod a plentyn i'r byd nad oes neb ei heisiau. Nid dewis y gwraig yn unig yw hyn, ond y tad a gweddill y gymdeithas, gan fod y wraig y gosod plentyn mewn cymdeithas yr ydwyf i'n byw ynddo'n barod.

Nid fod dim o'i le, ond os nad yw'r plentyn am gael ei garu yna mae'n debygol bydd yn achosi problemau i'r gymdeithas. Ydi Rooney a'r pabyddion wir isio 'creu' Sodom a Gomorra pan all gael ei atal?

Cyn i rhywun cychwyn deud na lladd bywyd ydi hyn, chi'n anghywir os mae'n cael ei wneud o fewn amser iawn. Ar y cychwyn, sygot yw'r peth. Casgliad o gelloedd sy'n hollti ac yn tyfu, yn yr un modd a cancr mewn corff oedolyn. Os mae rhywun yn cael tiwmor wedi ei dorri allan ohonynt, yna a'i dinistrio bywyd ydych chi fyna?

Sut all embryo cael ei 'ladd' os nad yw yr ymennydd a'r system nerfus canolog wedi ei ddatblygu? Ai bywyd yw rhywbeth sydd ddim yn 'braindead'? Hynny yw, stem yr ymennydd dal yn fyw?
Ma'r drafodaeth hon a barn pobol am erthylu'n gyffredinol yn 'sick'. Dim gwaeth na dod a plentyn i'r byd nad oes neb ei eisiau nag oes e Huw? Am beth ffycin hurt i weud. Fi'n nabod lot o bobol wedi eu mabwysiadu, yn bobol hapus a chyflawn.


Pobol hapus o dan eu gwarchodwyr cyfreithiol rwan, ond dim o dan y rhieni biolegol. Gweld, i blentyn gael ei fabwysiadu yn y lle cyntaf tydi'r rhieni ddim isio'r plentyn, dim cariad i'w roi, neu mewn eithriadau ble mae'r rhieni wedi cael eu lladd, etc..

Rabscaliwn come lately, nei di fucking cau dy geg efo'r rhegi ma. Ti di troi fyny all guns blazing yn ymosod ar bawb.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan rabscaliwn » Llun 22 Hyd 2007 8:49 am

huwwaters a ddywedodd:nei di fucking cau dy geg efo'r rhegi ma.
:lol:
rabscaliwn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 175
Ymunwyd: Maw 07 Chw 2006 9:30 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 35 gwestai