huwwaters a ddywedodd:Dylai erthylu wostad fod ar gael fel dewis. Nid er mwyn cyfleuster ond, fel dewis olaf. Does dim gwaeth na dod a plentyn i'r byd nad oes neb ei heisiau. Nid dewis y gwraig yn unig yw hyn, ond y tad a gweddill y gymdeithas, gan fod y wraig y gosod plentyn mewn cymdeithas yr ydwyf i'n byw ynddo'n barod.
tyff, os yw'r plentyn ar y ffordd yna mae'n amser cymryd cyfrifoldeb
Nid fod dim o'i le, ond os nad yw'r plentyn am gael ei garu yna mae'n debygol bydd yn achosi problemau i'r gymdeithas. Ydi Rooney a'r pabyddion wir isio 'creu' Sodom a Gomorra pan all gael ei atal?
beth, mae'n OK lladd pobl allai fod yn broblem i'r gymdeithas? pam ti'n meddwl fyddai'r person newydd yma'n broblem i'r gymdeithas- falle fyddai'r person yma'n aset enfawr i gymdeithas petae'n cael cyfle i fyw.
Cyn i rhywun cychwyn deud na lladd bywyd ydi hyn, chi'n anghywir os mae'n cael ei wneud o fewn amser iawn. Ar y cychwyn, sygot yw'r peth. Casgliad o gelloedd sy'n hollti ac yn tyfu, yn yr un modd a cancr mewn corff oedolyn. Os mae rhywun yn cael tiwmor wedi ei dorri allan ohonynt, yna a'i dinistrio bywyd ydych chi fyna?
Sut all embryo cael ei 'ladd' os nad yw yr ymennydd a'r system nerfus canolog wedi ei ddatblygu? Ai bywyd yw rhywbeth sydd ddim yn 'braindead'? Hynny yw, stem yr ymennydd dal yn fyw?
mae'r baban heb ei eni'n cario'r human genome, ac felly'n berson ohono'i hun
nid rhan o gorff y merch yw'r baban, ond byw yno mae tan i'r baban weld golau dydd
mae agweddau feminists ar y materion yma'n gwbl hunllefus. Ewch ar y we a chwiliwch am luniau o'r babanod gafodd eu erthylu, dyna beth chi'n gefnogi gyda'ch nonsens am "hawliau", beth am hawliau'r baban?
http://www.billmuehlenberg.com/2006/10/ ... on-truths/