huwwaters a ddywedodd:Dylai erthylu wostad fod ar gael fel dewis. Nid er mwyn cyfleuster ond, fel dewis olaf. Does dim gwaeth na dod a plentyn i'r byd nad oes neb ei heisiau.
Er mod i'n cytuno efo dy farn yn gyffredinol, ma raid i mi ddadla yn erbyn y pwynt na fysa neb isio'r baban unwaith y daw i'r byd. Ma na filoedd o bobl sydd yn methu cael plant a fyddai wrth eu bodd yn cael mabwysiadu'r fath blentyn, felly tydi erthyliad ddim wir yr opsiwn olaf i fam sydd yn cario baban nad ydi hi isio. Ond dylai'r penderfyniad yna wastad fod fyny i'r unigolyn, gan na allai ddychmygu pa mor anodd fyddai cario'r plentyn am naw mis jest er mwyn ei roi i ffwrdd yn syth wedi ei eni.
Mae na wastad sefyllfaoedd ble mai erthyliad yw wir yr unig opsiwn. Dwi'm yn meddwl fod na unrhyw ddadl sy'n dal dwr yn erbyn yr opsiwn o erthyliad i enethod sydd wedi cael eu treisio. A wedyn ma na nifer o glefydau y byddai'n lladd y baban ac o bosib y fam o fewn amser byr wedi iddo gael ei eni beth bynnag fel syphilis a parfovirus B19. Ma hynna'n fwy anheg ar y fam a'r plentyn yn y pendraw os nad yw erthyliad yn cael ei gynnig.
Yn bersonol, dwi'm yn meddwl y byddwn i'n medru perfformio erthyliad wedi rhyw fis heb unrhyw reswm penodol a dwi'n falch iawn fod yr opsiwn yna yn yr NHS i ddoctoriaid gael y dewis yna. I mi, dyna pryd y dylsai'r embryo gael ei gysidro'n 'fyw' gan mai dyma pryd ma'r organau a'r system nerfol yn cychwyn ffurfio a cysylltu efo'i gilydd. Cyn hynny, dim ond cell ydio, sy'n ymrannu fel pob un cell arall yn y corff. Os am ddefnyddio'r ddadl fod y 'potensial am fywyd' yno, yna gellir defnyddio'r un ddadl yn erbyn deunyddiau atal cenhedlu hefyd fel defnyddio condoms a'r pill. Falla os fysa na fwy o addysg call mewn ysgolion ar y materion hyn yn hytrach na'r gwersi prin sydd ar gael ar hyn o bryd, fydda na lai o erthyliadau yn cymryd lle beth bynnag.
Digon hawdd ydi dadlau yn erbyn erthyliad, ond os nad ydych chi wedi bod yn y sefyllfa eich hunain neu wedi bod yn agos i'r achos, dwi'n ama'n fawr os oes gan unrhyw unigolyn yr hawl i feirniadu'r genod sy'n mynd drwy'r broses.