Tudalen 1 o 22

Erthylu

PostioPostiwyd: Sul 29 Gor 2007 11:03 pm
gan rooney
http://news.bbc.co.uk/1/hi/health/6765953.stm

Abortion numbers increase again

There are strong views on both sides of the abortion debate
The number of abortions carried out in England and Wales rose by 3.9% to 193,700 in 2006.


Deallaf fod tua 7m wedi eu lladd trwy erthylu ers 1967. Dyma staen uffernol ar Cymru, Prydain a'r Gorllewin. Pryd mae'r hunllef yma am ddod i ben?

PostioPostiwyd: Sul 29 Gor 2007 11:21 pm
gan Dylan
yng ngeiriau doeth Bill Clinton (os dw i'n cofio'n iawn), dylai erthylu fod yn saff, cyfreithlon ac anghyffredin

be mwy sydd i'w ddweud?

PostioPostiwyd: Sul 29 Gor 2007 11:24 pm
gan rooney
helo Dylan
nid yw'n anghyffredin. 190,000 yn cael eu lladd bob blwyddyn.

PostioPostiwyd: Sul 29 Gor 2007 11:29 pm
gan Dylan
"dylai" ddwedes i, nid disgrifio'r sefyllfa fel ag y mae. Dylai pobl wneud y gorau i beidio'i ddefnyddio fel rhyw fodd o atal genhedlu. Ond dylai'r opsiwn fod yno wrth reswm

PostioPostiwyd: Sul 29 Gor 2007 11:34 pm
gan rooney
Dylan a ddywedodd:"dylai" ddwedes i, nid disgrifio'r sefyllfa fel ag y mae. Dylai pobl wneud y gorau i beidio'i ddefnyddio fel rhyw fodd o atal genhedlu. Ond dylai'r opsiwn fod yno wrth reswm


ond dyna'n union beth sy'n digwydd
mae agweddau pobl tuag at blant yn y Gorllewin yn gynyddol uffernol, mae'r rhan fwyaf o erthylu am resymau "cymdeithasol". Lle mae'r gwleidyddion? Mae nhw'n fwy na parod i ddod a deddfau llym fewn i "atal" terfysgaeth a tynnu ffwrdd hawliau pawb er mwyn hynny...

PostioPostiwyd: Sul 29 Gor 2007 11:39 pm
gan Dylan
wel dylai'r opsiwn fod yna. Nid mater o ddeddfu ydi o. Os oes mwy a mwy o bobl yn erthylu yna hwyrach gellid gwneud mwy i addysgu mwy am ddulliau atal genhedlu ayyb.

does gan hyn ddim byd a wnelo รข phlant felly dw i ddim yn deall y ddadl yna

PostioPostiwyd: Sul 29 Gor 2007 11:43 pm
gan rooney
Dylan a ddywedodd: Os oes mwy a mwy o bobl yn erthylu yna hwyrach gellid gwneud mwy i addysgu mwy am ddulliau atal genhedlu ayyb.


mae addysg ryw wedi bod mewn ysgolion yn dysgu'r pethau yma ers amser hir, ac fyny mae erthylu'n mynd. Am ba mor hir sydd raid i hyn fynd ymlaen tan i'r twpsod trendi o'r 60au sylweddoli fod nhw wedi gwneud difrod enfawr i'r gymdeithas?

PostioPostiwyd: Sul 29 Gor 2007 11:48 pm
gan Dylan
wel mae gan yr Iseldiroedd, sydd ag agwedd llawer iachach a mwy rhyddfrydol tuag at ryw (teg dweud), gyfraddau erthylu llawer iawn iawn llai

PostioPostiwyd: Llun 30 Gor 2007 12:08 am
gan rooney
Dylan a ddywedodd:wel mae gan yr Iseldiroedd, sydd ag agwedd llawer iachach a mwy rhyddfrydol tuag at ryw (teg dweud), gyfraddau erthylu llawer iawn iawn llai


anghofia am yr Iseldiroedd, nid yw polisiau mwy rhyddfrydol yn datrys unrhyw broblemau draw fan hyn

PostioPostiwyd: Llun 30 Gor 2007 12:23 am
gan Dylan
rooney a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:wel mae gan yr Iseldiroedd, sydd ag agwedd llawer iachach a mwy rhyddfrydol tuag at ryw (teg dweud), gyfraddau erthylu llawer iawn iawn llai


anghofia am yr Iseldiroedd, nid yw polisiau mwy rhyddfrydol yn datrys unrhyw broblemau draw fan hyn


haha, neis. Dim hyd yn oed trio ateb, jyst dweud "anghofia am hynny". Wel na, achos mae'n hollol berthnasol. Mae 'na bob math o ffactorau fan hyn. Ond mae enghraifft yr Iseldiroedd (a nifer o wledydd eraill ar y cyfandir) yn dangos yn eglur nad oes modd rhoi'r "bai" am gyfraddau erthylu uchel ar y pethau rwyt ti'n obsesiynu yn eu cylch, ac os unrhyw beth y gwrthwyneb pur sy'n nes ati