Erthylu

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Erthylu

Postiogan ceribethlem » Mer 09 Ebr 2008 10:48 am

S.W. a ddywedodd: Mae Gwyddoniaeth wedi cwbwl yn debyg iawn i fath o grefydd - mae on ffordd person o egluro datblygiad dynol a'r ddaear. Mae'r ddau yn fath o gred.
Dogma yw crefydd rooney. Mae gwyddoniaeth wedi selio ar ffeithiau.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Erthylu

Postiogan S.W. » Mer 09 Ebr 2008 12:17 pm

Dwi'm yn gwbod be di dogma i fod yn onest a does dim amheuaeth gen i ynglyn a gwirionedd Gwyddoniaeth er bod Gwyddoniaeth wrth gwrs o bryd iw gilydd yn galu profi ei hun yn anghywir wrth i'n dealltwriaeth ni o Wyddoniaeth symud yn ei flaen a datblygu. Felly mae be oedd faith wyddonol ar un adeg wedi gallu cael ei wrth brofi gan Wyddoniaeth heddiw.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Erthylu

Postiogan ceribethlem » Mer 09 Ebr 2008 1:31 pm

S.W. a ddywedodd:Dwi'm yn gwbod be di dogma i fod yn onest a does dim amheuaeth gen i ynglyn a gwirionedd Gwyddoniaeth er bod Gwyddoniaeth wrth gwrs o bryd iw gilydd yn galu profi ei hun yn anghywir wrth i'n dealltwriaeth ni o Wyddoniaeth symud yn ei flaen a datblygu. Felly mae be oedd faith wyddonol ar un adeg wedi gallu cael ei wrth brofi gan Wyddoniaeth heddiw.
Fi'n derbyn hynny, ond dyna pam fod "ffaith gwyddonol" wedi selio ar ddealltwriaeth a data sy'n bodoli ar y cyfnod hwnnw. Bydd unrhyw gwyddonydd gwerth ei halen yn cytuno bod gwyddoniaeth yn esblygu ac yn gwella. Cymer deddfau Newton fel enghraifft, mae'r gwybodaeth yna (i bob pwrpas) yn gweithio ar y Ddaear. Ers hynny mae technoleg a'r gallu i fesur a dealltrwriaeth wedi gwella, ac mae Einstein wedi gwrthbrofi deddfau Newton. Mae'r un peth wedi digwydd wrth i bethau wella ac mae Hawkins wedi gwrthbrofi llawer o'r hyn wedodd Einstein. Mae'n rhan o broses naturiol gwyddoniaeth.
Mae'r dogma mae rooney yn sbowto wedi selio ar wybodaeth dwy fil a fwy o flynyddoedd oed (mewn rhannau) ac mae'n gwrthod cydnabod gall bethau fod yn anghywir ac fod gwybodaeth yn gwella.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Erthylu

Postiogan S.W. » Mer 09 Ebr 2008 1:54 pm

ceribethlem a ddywedodd:

Hynny'n neud synnwyr. Yr hyn oeddwn i'n trio'i ddweud ydy cyn belled a mae cred yn y cwestiwn mae gan berson yr hawl i greu yr hyn mae am ei gredu. Dyna ble mae nyt jobs fel Ronney'n methu - mae o'n credu bod pawb sy'n credu mewn rhywbeth gwahanol i'r Beibl yn waeth nag anghywir, tra bod pobl call arall sy'n Grefyddol i wahanol raddau yn gallu byw gyda'u cred nhw ochr yn ochr a credoau eraill gan gynnwys Gwyddoniaeth/Ffeithiol.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Erthylu

Postiogan ceribethlem » Mer 09 Ebr 2008 2:25 pm

S.W. a ddywedodd:

'Sdim dadl gyda fi yn erbyn hwnna, cytuno'n llwyr.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Erthylu

Postiogan rooney » Mer 09 Ebr 2008 9:16 pm

ceribethlem a ddywedodd:Dogma yw crefydd rooney. Mae gwyddoniaeth wedi selio ar ffeithiau.

mwy o spin ceri
yn anffodus i ti, fedri di ddim galw esblygu cell-i-ddyn yn ffaith. Does dim arsylwadau na ffeithiau yn cefnogi'r fath ffantasi, na ychwaith y syniad fod bywyd yn dechrau ohon'i hun o'r di-fywyd. Dogma.
Ac y ffantasi/dogma ddiweddaraf yw "climate change".
Yn wir, mae pawb sydd yn meiddio dadlau yn erbyn y syniadau yma'n cael eu trin fel heretics ac yn rhoi eu gyrfaoedd ar y lein.
Mae'r data yn cael ei ddehongli yng nghyd-destun y dogma.

Paid smalio nad oes dogma mewn gwyddoniaeth ceri.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Erthylu

Postiogan rooney » Mer 09 Ebr 2008 9:43 pm

ceribethlem a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:Dwi'm yn gwbod be di dogma i fod yn onest a does dim amheuaeth gen i ynglyn a gwirionedd Gwyddoniaeth er bod Gwyddoniaeth wrth gwrs o bryd iw gilydd yn galu profi ei hun yn anghywir wrth i'n dealltwriaeth ni o Wyddoniaeth symud yn ei flaen a datblygu. Felly mae be oedd faith wyddonol ar un adeg wedi gallu cael ei wrth brofi gan Wyddoniaeth heddiw.
Fi'n derbyn hynny, ond dyna pam fod "ffaith gwyddonol" wedi selio ar ddealltwriaeth a data sy'n bodoli ar y cyfnod hwnnw. Bydd unrhyw gwyddonydd gwerth ei halen yn cytuno bod gwyddoniaeth yn esblygu ac yn gwella. Cymer deddfau Newton fel enghraifft, mae'r gwybodaeth yna (i bob pwrpas) yn gweithio ar y Ddaear. Ers hynny mae technoleg a'r gallu i fesur a dealltrwriaeth wedi gwella, ac mae Einstein wedi gwrthbrofi deddfau Newton. Mae'r un peth wedi digwydd wrth i bethau wella ac mae Hawkins wedi gwrthbrofi llawer o'r hyn wedodd Einstein. Mae'n rhan o broses naturiol gwyddoniaeth.

Esiampl neis, ond beth yw ceri ddim yn son am yw "gwyddoniaeth" esblygu cell-i-ddyn. Dyma'r pwnc lle roedd y dyn piltdown yn ffaith wyddonol am 40 mlynedd, y "missing link" rhwng dyn ac epa tan i nhw sylweddoli/cyfaddef mae fraud yr oedd. A beth am ddarluniau embryo haeckel ayyb. mae gormod o frauds i'w rhestru ac am ryw reswm nid yw'r esiamplau yma'n gadael y llyfrau yn yr ysgolion am amser hir iawn. Twyll. Dogma. Indoctrination.

Mae'r dogma mae rooney yn sbowto wedi selio ar wybodaeth dwy fil a fwy o flynyddoedd oed (mewn rhannau) ac mae'n gwrthod cydnabod gall bethau fod yn anghywir ac fod gwybodaeth yn gwella.

Ddim o gwbl. Mae'r ysgrifau wedi eu ysbrydoli gan Dduw, creawdwr y bydysawd, sydd gyda'r holl awdurdod. Darganfod ei greadigaeth mae'r gwyddonwyr. Mae gwirioneddau'r Beibl yn sefyll am byth, craig yr oesoedd.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Erthylu

Postiogan Chickenfoot » Mer 09 Ebr 2008 10:44 pm

Rooney, LEAVE CERI ALONE!!! :crechwen:

Mae crefydd yn ddogma, gan nad ydi o'n seiliedig ar unrhywbeth ond syniadau heb unrhyw fath o ffyrdd i'r profi. Hang on, mae ffordd o brofi fod Duw yn bodoli, ond dydi Lisa Gwilym yn wisgo bikini heb cyrraedd fy nhrws eto.

Hwyl a fflag you crazy mofo. :lol:
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Erthylu

Postiogan ceribethlem » Iau 10 Ebr 2008 8:03 am

rooney a ddywedodd:Esiampl neis, ond beth yw ceri ddim yn son am yw "gwyddoniaeth" esblygu cell-i-ddyn. Dyma'r pwnc lle roedd y dyn piltdown yn ffaith wyddonol am 40 mlynedd, y "missing link" rhwng dyn ac epa tan i nhw sylweddoli/cyfaddef mae fraud yr oedd. A beth am ddarluniau embryo haeckel ayyb. mae gormod o frauds i'w rhestru ac am ryw reswm nid yw'r esiamplau yma'n gadael y llyfrau yn yr ysgolion am amser hir iawn. Twyll. Dogma. Indoctrination.

Whare teg, ti'n gallu sbowto bolycs pan ti'n trial ondwyt ti. Fel rhywun a fu'n ddisgybl yn astudio gwyddoniaeth am gyfnod (wrth reswm) ac yna'n addysgu'r pwnc i eraill, fi'n credu fod gen i syniad o'r hyn sydd yn y gwers-lyfrau gwyddoniaeth. Does dim o dy esiamplau di mewn unrhyw lyfr TGAU dwi erioed wedi ei ddarllen, ac mae'r rhannau am y piltdown man sydd mewn unrhyw lyfr lefel A wedi son bob tro mai twyll ydoedd.

O ran dy frawddeg cyntaf, does dim son am esblygu cell i ddyn yn y syllabus chwaith. Felly gwna dy waith cartref cyn dechrau malu.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Erthylu

Postiogan ceribethlem » Iau 10 Ebr 2008 8:08 am

Dim bod fi ishe ail agor y ddadl am esblygiad, oes unrhywun wedi darllen hwn? a hwn?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai

cron