gan Duw » Sad 12 Ebr 2008 10:38 pm
Mae deddf gwlad yn gyfrifol am feirniadau achosion erthylu yn bresennol (gorolwg efallai). Mae canolfannau erthylu a pholisiau unigol, wedi'u seilio ar fframwaith genedlaethol, ond eto mae amrywiaeth yn y polisiau ledled y wlad. Mae erthylu yn gwbl groes i safbwynt personol nifer (yn aml oherwydd eu crefydd, yn aml oherwydd eu safbwyntiau personol [fel minnau, anffyddiwr]). Nid oes modd gosod erthylu fel testun trafod mysg y rheini a fydde'n hawlio'r tir moesol. Mae erthylu yn fater cymhleth a phersonol/unigryw ym mhob achos. Fel unigolyn, rwyf yn methu gweld yr "hawl" i erthylu, ond eto, wedi gweld llawer yn f'amser fel rhywun sydd a gofalaeth dros bobl ifainc, gallaf weld y schism rhwng beth ddylen i ddweud o ran fy safbwynt personol, a beth hoffwn ddweud fel person "in loco parentis". Hawdd iawn yw dweud ni ddylai fod gwahaniaeth. Rydym yn delio gyda phobl, anaeddfed, hawdd cymryd mantais ohonynt, trafferthus, call, twp, anghyfrifol, - yr holl gamut. Pa fai sydd ar ferch sydd wedi ei gwthio i mewn i erthyliad gan rieni sydd am osgoi cywilydd? Pa fai sydd ar ferch sydd ddim am roi genedigaeth i faban sydd wedi dod o sbort ei threiswr? Pa fai sydd ar fachgen sydd am magu plentyn er bod y ferch yn dweud ei bod ddim yn barod neu gwaniff colli ei swydd? Storiau cyffredin, storiau unigryw - pob achos. A'r ateb yw gwneud erthyliad yn anghyfrieithiol (coathangers before dawn?), neu a ydym yn mynd i wynebu'r hunllef a gosod platfform cymdeithasol yn ei le i ddelio gydag achosion "anffodus"?
Mae'n rhaid dweud, cas gen i ddarllen gwenwyn eithafol rhai postwyr yma. Os taw chi oedd tad y ferch, y ferch, y darpar tad, mam y ferch, tad y bachgen, mam y bachgen, y meddyg, y heddwas, y treisiwr - bydde'ch barn yn wahanol yn yr un achos - os oedd yn bersonol!