Tudalen 20 o 22

Re: Erthylu

PostioPostiwyd: Iau 10 Ebr 2008 7:19 pm
gan ceribethlem
rooney a ddywedodd: Tydw i erioed wedi honni, a nid yw'r Beibl yn honni, fod y cread yn deillio o broses naturiol. Mae yma oherwydd cread gan Dduw goruwchnaturiol, cread pwrpasol a threfnus. Felly fydd e byth yn "ffaith wyddonol" gan mae allan o scope gwyddoniaeth.
Pam wyt ti'n mynnu troi pob peth mewn i dadl mawr rhwng dy grefydd a gwyddoniaeth te?

Re: Erthylu

PostioPostiwyd: Iau 10 Ebr 2008 8:13 pm
gan rooney
ceribethlem a ddywedodd:Pam wyt ti'n mynnu troi pob peth mewn i dadl mawr rhwng dy grefydd a gwyddoniaeth te?


http://www.youtube.com/watch?v=DRlFWTZFQLQ

Re: Erthylu

PostioPostiwyd: Iau 10 Ebr 2008 9:36 pm
gan Muralitharan
rooney a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Pam wyt ti'n mynnu troi pob peth mewn i dadl mawr rhwng dy grefydd a gwyddoniaeth te?


http://www.youtube.com/watch?v=DRlFWTZFQLQ


Dwi'n meddwl mai isio clywed dy farn di mae pobl maes-e a bod yn deg.
Yn anffodus, dwi'n credu y byddai'r siaradwr yn y clip yr un mor ddilornus o fy nghrefydd i ag y mae o am brif ffrwd gwyddoniaeth ein hoes - ac felly, mae'n rhaid i ti faddau i mi, does gen i ddim llawer o hyder ynddo fo na'i ddysgeidiaeth.

Re: Erthylu

PostioPostiwyd: Iau 10 Ebr 2008 10:18 pm
gan rooney
Muralitharan a ddywedodd:Dwi'n meddwl mai isio clywed dy farn di mae pobl maes-e a bod yn deg.
Yn anffodus, dwi'n credu y byddai'r siaradwr yn y clip yr un mor ddilornus o fy nghrefydd i ag y mae o am brif ffrwd gwyddoniaeth ein hoes - ac felly, mae'n rhaid i ti faddau i mi, does gen i ddim llawer o hyder ynddo fo na'i ddysgeidiaeth.


pa grefydd yw hynny?
mae Jason Lisle yn astroffisegydd

Re: Erthylu

PostioPostiwyd: Iau 10 Ebr 2008 10:51 pm
gan Muralitharan
Dwi'n aelod o'r Eglwys Gatholig Rufeinig (fel dwi wedi'i ddweud o'r blaen) - eglwys nad oes gan nifer iawn o Gristnogion asgell dde America fawr o feddwl ohoni!!

Re: Erthylu

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ebr 2008 8:58 am
gan S.W.
rooney a ddywedodd:
Nid yw'r gwir yn newid. Mae Gair Duw fel ty wedi ei adeiladu ar graig, nid tywod.


Sut ti'n gwbod?

Re: Erthylu

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ebr 2008 8:59 am
gan Duw
rooney a ddywedodd:Gyda'r holl ymosodiadau personol mae'n anodd ffeindio pwyntiau i ymateb iddo.

Ymddiheuriadau Rooney - wir.

I ble aeth yr edefyn ar erthylu?

Re: Erthylu

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ebr 2008 11:38 pm
gan rooney
Muralitharan a ddywedodd:Dwi'n aelod o'r Eglwys Gatholig Rufeinig (fel dwi wedi'i ddweud o'r blaen) - eglwys nad oes gan nifer iawn o Gristnogion asgell dde America fawr o feddwl ohoni!!


wyt ti'n deall pam? a chyn i ti ofyn rwy'n edmygu llawer am dy Eglwys, ond nid popeth

Re: Erthylu

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ebr 2008 11:46 pm
gan Muralitharan
... ddim go iawn, nac ydw. Rhagfarn?

Re: Erthylu

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ebr 2008 11:53 pm
gan rooney
Muralitharan a ddywedodd:... ddim go iawn, nac ydw. Rhagfarn?


ond ai ddim rhagfarn sydd gen ti yn erbyn nhw a tithau ddim yn deall pam mae nhw'n wrthwynebus? ;)