Tudalen 21 o 22

Re: Erthylu

PostioPostiwyd: Sad 12 Ebr 2008 12:04 am
gan Muralitharan
Fe ga'n nhw gredu beth bynnag maen nhw eisiau ei gredu - ond faswn i ddim yn defnyddio clipiau o'r math yma i geisio profi dim yr ydw i'n ei gredu...
Mae'n siwr dy fod yn iawn i ddweud fy mod i'n llawn rhagfarnau, fel pawb arall sy'n cyfrannu i'r trafodaethau hyn mae'n debyg, ond tydw i ddim yn siwr a ydi dy resymeg di yn berffaith fan hyn chwaith.
Rhag colli golwg ar bwnc yr edefyn hwn fodd bynnag, dwi wedi dweud yn barod beth yw fy marn am erthylu, fel yr ydw i wedi ceisio gwneud yn glir beth ywv fy marn am ladd pobl trwy ddienyddio.

Re: Erthylu

PostioPostiwyd: Sad 12 Ebr 2008 10:38 pm
gan Duw
Mae deddf gwlad yn gyfrifol am feirniadau achosion erthylu yn bresennol (gorolwg efallai). Mae canolfannau erthylu a pholisiau unigol, wedi'u seilio ar fframwaith genedlaethol, ond eto mae amrywiaeth yn y polisiau ledled y wlad. Mae erthylu yn gwbl groes i safbwynt personol nifer (yn aml oherwydd eu crefydd, yn aml oherwydd eu safbwyntiau personol [fel minnau, anffyddiwr]). Nid oes modd gosod erthylu fel testun trafod mysg y rheini a fydde'n hawlio'r tir moesol. Mae erthylu yn fater cymhleth a phersonol/unigryw ym mhob achos. Fel unigolyn, rwyf yn methu gweld yr "hawl" i erthylu, ond eto, wedi gweld llawer yn f'amser fel rhywun sydd a gofalaeth dros bobl ifainc, gallaf weld y schism rhwng beth ddylen i ddweud o ran fy safbwynt personol, a beth hoffwn ddweud fel person "in loco parentis". Hawdd iawn yw dweud ni ddylai fod gwahaniaeth. Rydym yn delio gyda phobl, anaeddfed, hawdd cymryd mantais ohonynt, trafferthus, call, twp, anghyfrifol, - yr holl gamut. Pa fai sydd ar ferch sydd wedi ei gwthio i mewn i erthyliad gan rieni sydd am osgoi cywilydd? Pa fai sydd ar ferch sydd ddim am roi genedigaeth i faban sydd wedi dod o sbort ei threiswr? Pa fai sydd ar fachgen sydd am magu plentyn er bod y ferch yn dweud ei bod ddim yn barod neu gwaniff colli ei swydd? Storiau cyffredin, storiau unigryw - pob achos. A'r ateb yw gwneud erthyliad yn anghyfrieithiol (coathangers before dawn?), neu a ydym yn mynd i wynebu'r hunllef a gosod platfform cymdeithasol yn ei le i ddelio gydag achosion "anffodus"?

Mae'n rhaid dweud, cas gen i ddarllen gwenwyn eithafol rhai postwyr yma. Os taw chi oedd tad y ferch, y ferch, y darpar tad, mam y ferch, tad y bachgen, mam y bachgen, y meddyg, y heddwas, y treisiwr - bydde'ch barn yn wahanol yn yr un achos - os oedd yn bersonol!

Re: Erthylu

PostioPostiwyd: Gwe 02 Mai 2008 9:49 am
gan ffwrchamotobeics
The first requisite for the happiness of the people is the abolition of religion.
Karl Marx

Re: Erthylu

PostioPostiwyd: Gwe 02 Mai 2008 2:07 pm
gan khmer hun
Mae hi yn rhyfedd ac yn arwyddocaol mai dynion sydd wedi ymateb fwya' i'r pwnc yma.

Re: Erthylu

PostioPostiwyd: Gwe 02 Mai 2008 3:45 pm
gan Muralitharan
Wyt ti'n dweud felly fod yna rai pynciau na ddylai dynion gael barn arnyn nhw, ac yn yr un modd, felly, na ddylai merched fyth fynegi eu barn hwythau ar bynciau eraill?

Re: Erthylu

PostioPostiwyd: Gwe 02 Mai 2008 3:56 pm
gan ceribethlem
Muralitharan a ddywedodd:Wyt ti'n dweud felly fod yna rai pynciau na ddylai dynion gael barn arnyn nhw, ac yn yr un modd, felly, na ddylai merched fyth fynegi eu barn hwythau ar bynciau eraill?

Braidd yn amlwg ei fod yn dweud ei fod yn rhyfedd nad oes menyw wedi datgan rhyw lawer, yn arbennig o feddwl mai'r fenyw sy'n cario'r baban yn ei chroth am naw mis. Mae pawb arall (h.y. y dynion) yn bango mlan am rhywbeth na chwan nhw byth y profiad ohono fe.

Re: Erthylu

PostioPostiwyd: Gwe 02 Mai 2008 5:03 pm
gan khmer hun
Merch odw i gyda llaw. Meddwl o'n i fod unrhyw ferch sy' di mynd drwy'r peth, fyddai'n meddu ar brofiad uniongyrchol ohono, yn mynd i redeg milltir cyn cyfrannu i'r fath baldaruo di-sail, neu 'bango mlan' fel wedes di, ceribethlem.

Re: Erthylu

PostioPostiwyd: Gwe 02 Mai 2008 5:43 pm
gan ceribethlem
khmer hun a ddywedodd:Merch odw i gyda llaw. Meddwl o'n i fod unrhyw ferch sy' di mynd drwy'r peth, fyddai'n meddu ar brofiad uniongyrchol ohono, yn mynd i redeg milltir cyn cyfrannu i'r fath baldaruo di-sail, neu 'bango mlan' fel wedes di, ceribethlem.
Fi'n haeddu cwpwl o farcie sbo, o'n i'n agos :winc:

Re: Erthylu

PostioPostiwyd: Gwe 02 Mai 2008 8:13 pm
gan Muralitharan
Wrth reswm mae hwn yn fater hynod o sensitif ac anodd, a thydi cyfraniadau unigolion fel Rooney ddim yn help o ran cynnal trafodaethau call. Tydw i ddim yn credu, er hynny, y dylid rhwystro hanner y boblogaeth (unrhyw hanner) rhag trafod materion o'r fath (nid fod Khmer hun yn awgrymu hynny) : er mai o'r anifeiliaid y daethon ni, mi rydan ni wedi datblygu i fod yn greaduriaid eitha' soffistigedig ar y cyfan.
Mae yna nifer o faterion dyrys nad oes gen i fel dyn/person unrhyw brofiad uniongyrchol ohonyn nhw, er enghraifft dienyddio, ond mae gen i farn gref iawn ar y mater hwnnw(yn erbyn gyda llaw!).
Mater arall, wrth gwrs, ydi a fyddai merched yn dymuno cymryd rhan mewn trafodaeth o'r fath ar fforwm fel edefyn ar Maes-e.

Re: Erthylu

PostioPostiwyd: Gwe 02 Mai 2008 9:09 pm
gan Seonaidh/Sioni
Rydw i'n teimlo tipyn fel rhywun on i'n clywed amdano am fod yn "Anarcho-Stalinist". Hynny ydy, credai o y dylai pobl fod yn rhydd - ond fod rhaid eu gorfod i fod yn rhydd... Na, dim cweit, ond gwr ydw i. Mae erthylu yn rhywbeth y dylai'r fenyw benderfynu. Fel mae'n digwydd, tad ydw i hefyd. Unwaith pan oedd fy ngwraig i'n cario, penderfynodd hi am erthyliad ac ron i'n ei chefnogi. Weithiau dyna'r peth gorau i'w wneud. I'r rheiny sy'n dweud fod erthylu'n beth ofnadwy, yn wastraff bywyd dynol ac ymlaen, dywedaf hyn: ceisiwch fod yn y sefyllfa. Ac hyd yn oed os dych dhi ddim yn cytuno ag erthylu, does 'na ddim hawl o gwbl ichi geisio atal eraill rhag ei gael.