Rwy'n credu fod "Answers in Genesis" yn arloesol. Mae nhw'n amddiffyn y Beibl o'r adnod gyntaf, ac yn ateb y gwrthwynebiadau "gwyddonol" o'r Beibl yn wych. Yn yr oes sydd ohoni, lle mae'r ymosodiadau ar y Beibl yn cael eu gwneud o gyfeiriad "gwyddonol", mae angen Cristnogion i sefyll fyny a dysgu sut i amddiffyn ac ymddiried yn y Beibl o'r adnod cyntaf, a dangos i bobl fod gwyddoniaeth da yn cydfynd gyda'r Beibl. Diolch i Dduw am Ken Ham ac Answers in Genesis am wneud dadleuon mor bwerus dros pam y gallwn ymddiried yn y Beibl o'r adnod gyntaf.
http://www.answersingenesis.org
Pam fod Genesis mor bwysig i Gristnogion, ac angen ei amddiffyn?
Mae'n sylfaen i'r Beibl, yn sylfaen i'r doctrins pwysig yn y Beibl. Ffordd dda o danseilio'r Beibl yw i ymosod ar y sylfaen- Genesis. Mae Genesis 1-11 mor sylfaenol i'r holl Feibl ac i werthfawrogi cynllun Duw a rol a chyfraniad Iesu yn y cynllun yma.
Roedd Iesu a'r Apostolion yn cyfeirio at Genesis. Felly fe ddylai Cristnogion hefyd gyfeirio ac ymddiried yn Genesis.
Cytunaf gyda Ken Ham, CEO AiG, fod ein diwylliant heddiw yn y Gorllewin fwy fel Groegaid nac Iddewon. Ac felly, mae Genesis yn bwysig er mwyn efengylu. Ffwlbri oedd yr Efengyl i'r Groegaid, ond nid i'r Iddew- pam? Roedd yr Iddew yn gwybod Genesis. Nid yw'r diwylliant heddiw yn siwr o Genesis, maent wedi eu llygru gan syniadau esblygu a'r biliynau o flynyddoedd.