Credaf fod y Beibl yn dangos i ni fod Duw gyda Gras a Barnedigaeth, yn gwbl deg a chyfiawn, gyda chydbwysedd perffaith.
Rwy'n ofni fod Cristnogion yn siarad llawer am Gras, ond ddim digon am Barnedigaeth. Yn siarad lot am y Testament Newydd, ond ddim digon am yr Hen Destament. Yr un Duw yw Duw yr Hen Destament a'r Testament Newydd. Y broblem gyda'r anghydbwysedd gan Gristnogion yw os ni'n chwarae lawr y farnedigaeth, neu'n cuddio/peidio cyfadded i anffyddwyr yr ochr yma o natur Duw, yna wneith pobl byth ddeall yn iawn pa mor anhygoel yw'r Gras ni wedi ei dderbyn trwy Iesu.
Mae Cristnogion yn dueddol o gymryd y Testament Newydd o ddifri, a trin yr Hen Destament fel straeon. Camgymeriad gwirioneddol fawr, a ffordd warthus o drin Gair Duw. Mae ein Beibl gyda'r Hen Destament a'r Newydd, nid yw'r Testament Newydd yn golygu mae'n OK I ni daflu ffwrdd yr Hen Destament.
Credaf fod pobl yn ein cymdeithas heddiw yn hunan-gyfiawn, a ddim yn sylweddoli eu bod yn bechaduriaid. Heb i berson sylweddoli ei fod yn bechadur, a ni i gyd yn bechaduriaid, yna wneith y person ddim deall pam fod nhw angen gwaredwr, angen rhywun i'w achub rhag y farnedigaeth.
Yn yr hinsawdd gwleidyddol gywir sydd ohoni (er ei fod ar y ffordd allan, tybiaf) mae Cristnogion ofn siarad am y farnedigaeth rhag derbyn gwrthwynebiadau gan anffyddwyr, a rhag rhoi pobl off. Ond nid cuddio y gwir yw bwriad Cristnogaeth, y gwir YW Cristnogaeth ac mae rhaid trafod y gwir, yr holl wir a dim byd ond y gwir- mae hyn yn cynnwys barnedigaeth. Nid yw gras werth lot heb ddeall ein stad bechadurus a'r farnedigaeth am ein pechodau.
Plis peidiwch ac anghofio'r barnedigaeth, nac ymddiheuro drosto: mae'n berffaith gyfiawn.