Rhysjj a ddywedodd:O ran diddordeb, oes rhywun yma wedi darllen unrhyw beth gan yr Athro <A HREF="http://www.bris.ac.uk/history/contact/hutton.html">Ronald Hutton?</A> Mae gen i ei lyfr <I>Stations of the Sun</I>, a wir, mae'n wych. Mae'n egluro beth yw gwir gefndir llawer o'r pethau yr ydyn ni'n ystyried fel "traddodiadau paganaidd", a rhai Cristnogol o ran hynny (ac yn datgelu beth yw'r gwir dystiolaeth hanesyddol - mewn llawer o achosion, does dim llawer ohoni).
Mae Hutton yn ffigwr reit ddadleuol yn y byd paganaidd (o'r hyn rwy'n ddeall), am ei fod yn dadlau bod diffyg seiliau hanesyddol i'r hyn mae nifer sylweddol o baganiaid modern yn ei gredu. Felly dwi'n rhyw amau, heb fod wedi darllen y gyfrol, y byddai ei lyfr <I>Pagan Religions of the Ancient British Isles</I> a rhyw ogwydd ddiddorol ar y mater o 'hen dduwiau' ynysoedd Prydain.
Mae
Stations of the Sun yn ffantastig o lyfr.
Llyfr arall ganddo sy'n werth ei ddarllen ydi
The Triumph of the Moon, hanes gwrachyddiaeth baganaidd fodern ym Mhrydain. Difyr iawn iawn. Mae i'w weld yn llyfr teg iawn, hefyd. Mae'n debyg bod nifer o bobl wedi cymryd yn erbyn Ronald Hutton, gan weld ei waith hanesyddol yn fygythiad i'w syniadau a'u credoau, efallai. O'm rhan fy hun, dw i'n ei weld o'n rhoi cryn dipyn o barch i'r holl ffenomen fel profiad crefyddol, neu fel rhywbeth sy'n gallu trawsffurfio unigolion er gwell, ac mae'n amlwg bod ganddo fo feddwl mawr o lawer o'r bobl oedd wedi cyfrannu at ei waith maes. Dw i'n dallt ei fod o'n ffigur eitha poblogaidd yn y gymuned baganaidd, mewn gwirionedd.
Mae ei lyfr diweddaraf yn ymdrin â'r derwyddon, neu, yn fwy penodol, y derwyddon yn nychymyg pobloedd Prydain yn ystod y cyfnod modern, ond dw i heb gael gafael ar hwnna eto. (Mi fydd o'n darlithio ar Iolo Morganwg a derwyddaeth yn Aberystwyth ar 22 Tachwedd hefyd, os oes gan rywun ddiddordeb.)
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.