Duwiau'r Cymry cyn Cristnogaeth

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Duwiau'r Cymry cyn Cristnogaeth

Postiogan ceribethlem » Sad 20 Hyd 2007 9:29 pm

Mae gen i ddiddordeb mawr yn yr hen dduwiau, oedd yn bodoli cyn cristnogaeth, a chyn y syniad o'r un Duw. Rwy'n gwybod rhywfaint am dduwiau yr Aifft, Rhufain a Groeg, ac ychydig am dduwiau'r llychlynwyr, ond ( :wps: ) braidd dim am dduwiau'n cyn-dadau.
Oes gan unrhywun un wybodaeth, neu fanylion am y duwiau Cymreig hynafol? (Fi ddim yn chwilio am ddadl semantaidd am p'un oedd y "Cymry" yn bodoli, ond yn hytrach pa fath o dduwiau, a phwy oeddent).
Fi wedi clywed fod llawer o'r arwyr sy'n adnabyddus i ni o'r Mabinogi yn gwreiddio fel duwiau. Oes rhywun yn gwybod am hyn?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan sian » Sad 20 Hyd 2007 9:49 pm

Dyma un i ti: Rhiannon - un o brif gymeriadau Cainc Gyntaf a Thrydedd Gainc y Mabinogi.

Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru:
"Bernir mai duwies Geltaidd o'r enw Rigantona, y 'Frenhines-dduwies', oedd Rhiannon yn wreiddiol ac erys elefen o hud a lledrith o'i chwmpas yn y Maboniogi. Fe'i huniaethir hefyd ag Epona, duwies y ceffylau a chysylltir hi droeon â cheffylau yn y chwedl.
Astudiwyd y themâu chwedlonol a mytholegol sy'n gysylltiedig â Rhiannon mewn llyfr gan W J Gruffydd (1953)."

(hyd y gwela i, Rhiannon, oedd enw'r llyfr)
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan bartiddu » Sad 20 Hyd 2007 9:53 pm

http://en.wikipedia.org/wiki/Amaethon
Ma cylltiadau ar gwaelod y dudalen, gadwith e ti'n brysur am damed, sa'i di chwilo os mae yna cyfraniadau Cymraeg..
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan sian » Sad 20 Hyd 2007 10:09 pm

sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan ceribethlem » Sad 20 Hyd 2007 10:27 pm

Diolchaf i chi.
Mae'r rhan yma o ddiddordeb i fi hefyd:
sian a ddywedodd:"Bernir mai duwies Geltaidd o'r enw Rigantona, y 'Frenhines-dduwies',

Rwyf wedi darllen nifer o lyfrau awdur (sydd bellach wedi marw o gancr druan) o'r enw David Gemmell. Mae yntau'n amlwg yn diddoru yn yr hen dduwiau a chwedlau, oherwydd mae wedi ysgrifennu nifer i gyfres ffantasi gwych. Mae wedi cwpla (poshumously - ta beth yw hwnna yn Gymraeg) cyfres ar sdori Troy. Ond yn fwy diddorol mae ganddo gyfres am bobl a elwir yn Rigante (sy'n amlwg wedi selio ar hanes Rigantona fel dywed Sian uchod). Y peth diddorol iawn yw fod Gemmell wedi portreadu'r genedl, neu'r bobl, yma (er heb ddweud hynny) yn Albanaidd iawn (e.e. y defnydd o ddillad tartan a chleddyfau'n ymdebygu i Claymore). Mae hyn, wrth gwrs yn plethu mewn os oedd Rigantona yn dduwies cyn Rhufeinig.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan ceribethlem » Sad 20 Hyd 2007 10:35 pm

Yn ogystal a'r duwiau (ac rwy'n cyfri'r duwiesau gyda llaw), oes gan unrhywun unrhyw wybodaeth am y dulliau addoli oedd gan yr hen Gymry?
Diolch.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Owain Llwyd » Maw 06 Tach 2007 8:13 pm

Mi oedd Maponos (> Mabon) yn un arall o'r hen dduwiau. Mae Anne Ross (archaeolegydd ac awdur Pagan Celtic Britain ymhlith pethau eraill) yn adrodd hanes digon arswydus ynghylch digwyddiadau (gan gynnwys rhai oedd wedi effeithio arni hi a'i theulu) oedd ynghlwm wrth godi dau ben carreg o gysegrfan i Maponos yn ystod gwaith archaeolegol ar Vindolanda wrth Fur Hadrian. Mae'r hanes i'w gael yn y Rhagymadrodd i Folklore, Myths and Legends of Britain (Reader's Digest), ond dydi o ddim wrth law gen i yma, mae arna i ofn.

Mae'n debyg bod yr elfen -on-, fel sydd i'w gweld yn Rhiannon, Amaethon a Mabon, er enghraifft, yn golygu rhywbeth tebyg i 'dduwiol'. Yn ôl dw i'n ei ddallt, mae'r un elfen i'w chael yn enw afon Daron (sef duw, neu dduwies, y derw), ac enw afon Aeron (duw, neu dduwies, y frwydr).
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Rhysjj » Gwe 09 Tach 2007 10:17 pm

O ran diddordeb, oes rhywun yma wedi darllen unrhyw beth gan yr Athro <A HREF="http://www.bris.ac.uk/history/contact/hutton.html">Ronald Hutton?</A> Mae gen i ei lyfr <I>Stations of the Sun</I>, a wir, mae'n wych. Mae'n egluro beth yw gwir gefndir llawer o'r pethau yr ydyn ni'n ystyried fel "traddodiadau paganaidd", a rhai Cristnogol o ran hynny (ac yn datgelu beth yw'r gwir dystiolaeth hanesyddol - mewn llawer o achosion, does dim llawer ohoni).

Mae Hutton yn ffigwr reit ddadleuol yn y byd paganaidd (o'r hyn rwy'n ddeall), am ei fod yn dadlau bod diffyg seiliau hanesyddol i'r hyn mae nifer sylweddol o baganiaid modern yn ei gredu. Felly dwi'n rhyw amau, heb fod wedi darllen y gyfrol, y byddai ei lyfr <I>Pagan Religions of the Ancient British Isles</I> a rhyw ogwydd ddiddorol ar y mater o 'hen dduwiau' ynysoedd Prydain.
Rhysjj
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 58
Ymunwyd: Llun 22 Maw 2004 1:34 am
Lleoliad: Y De a'r Gogledd

Postiogan Owain Llwyd » Gwe 09 Tach 2007 11:32 pm

Rhysjj a ddywedodd:O ran diddordeb, oes rhywun yma wedi darllen unrhyw beth gan yr Athro <A HREF="http://www.bris.ac.uk/history/contact/hutton.html">Ronald Hutton?</A> Mae gen i ei lyfr <I>Stations of the Sun</I>, a wir, mae'n wych. Mae'n egluro beth yw gwir gefndir llawer o'r pethau yr ydyn ni'n ystyried fel "traddodiadau paganaidd", a rhai Cristnogol o ran hynny (ac yn datgelu beth yw'r gwir dystiolaeth hanesyddol - mewn llawer o achosion, does dim llawer ohoni).

Mae Hutton yn ffigwr reit ddadleuol yn y byd paganaidd (o'r hyn rwy'n ddeall), am ei fod yn dadlau bod diffyg seiliau hanesyddol i'r hyn mae nifer sylweddol o baganiaid modern yn ei gredu. Felly dwi'n rhyw amau, heb fod wedi darllen y gyfrol, y byddai ei lyfr <I>Pagan Religions of the Ancient British Isles</I> a rhyw ogwydd ddiddorol ar y mater o 'hen dduwiau' ynysoedd Prydain.


Mae Stations of the Sun yn ffantastig o lyfr.

Llyfr arall ganddo sy'n werth ei ddarllen ydi The Triumph of the Moon, hanes gwrachyddiaeth baganaidd fodern ym Mhrydain. Difyr iawn iawn. Mae i'w weld yn llyfr teg iawn, hefyd. Mae'n debyg bod nifer o bobl wedi cymryd yn erbyn Ronald Hutton, gan weld ei waith hanesyddol yn fygythiad i'w syniadau a'u credoau, efallai. O'm rhan fy hun, dw i'n ei weld o'n rhoi cryn dipyn o barch i'r holl ffenomen fel profiad crefyddol, neu fel rhywbeth sy'n gallu trawsffurfio unigolion er gwell, ac mae'n amlwg bod ganddo fo feddwl mawr o lawer o'r bobl oedd wedi cyfrannu at ei waith maes. Dw i'n dallt ei fod o'n ffigur eitha poblogaidd yn y gymuned baganaidd, mewn gwirionedd.

Mae ei lyfr diweddaraf yn ymdrin â'r derwyddon, neu, yn fwy penodol, y derwyddon yn nychymyg pobloedd Prydain yn ystod y cyfnod modern, ond dw i heb gael gafael ar hwnna eto. (Mi fydd o'n darlithio ar Iolo Morganwg a derwyddaeth yn Aberystwyth ar 22 Tachwedd hefyd, os oes gan rywun ddiddordeb.)
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan ceribethlem » Sad 10 Tach 2007 11:44 am

Diolch boid, dria'i ffeindio rhywbeth gan Hutton.
Un o'r problemau gyda'r hen grefyddau paganaidd yw fod propaganda wedi codi'r myth mai babi-laddwyr oeddent.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron