Cymedrolwr: Rhys Llwyd
Foel Gornach a ddywedodd:Y gyfrol orau o ddigon ar yr hen grefyddau yng Nghymru yw Rhwng Chwedl a Chredo gan Pennar Davies. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1966. Yn y gyfrol mae'n trafod yr holl gyfeiriadau clasurol am y crefyddau Celtaidd (yr unig ffynhonnell ddogfennol sydd ar gael - nid oedd y Celtiaid yn gosod pethau mewn ysgrifen) a'r wybodaeth archeolegol oedd ar gael yn y 60au (ategu'r wybodaeth honno y mae darganfyddiadau archeolegol diweddarach wedi ei wneud). Mae e hefyd yn trafod enwau afonydd a lleoedd Cymreig a'r hen chwedloniaeth fel y Mabinogi a'r chwedlau Arthuraidd. Gwna ddefnydd go helaeth o weithiau Syr John Rhys (Celtic Folklore). Rhwng Chwedl a Chredo yw'r llyfr gorau o ddigon am yr hen grefyddau; fy nghyngor yw darllen damcaniaethau'r bobol di-Gymraeg (sydd yn gallu bod yn hynod o ddwl) yng ngoleuni'r hyn a ddywed Pennar Davies.
Gorwel Roberts a ddywedodd:Oes rhywun yn cofio stori yn y papurau rai blynyddoedd yn ol am bobl yn Sir Fon oedd yn honni eu bod nhw'n addoli hen dduwiau Celtaidd/Cymreig .
Gorwel Roberts a ddywedodd:Oes rhywun yn cofio stori yn y papurau rai blynyddoedd yn ol am bobl yn Sir Fon oedd yn honni eu bod nhw'n addoli hen dduwiau Celtaidd/Cymreig ac wedi cael eu dwyn i fyny'n gwneud hynny ond yn mynd i'r capel a'r eglwys hefyd er mwyn cadw'r peth yn dawel mewn oes lle oedd hi'n beryg credu pethau felly. Dwn i ddim ai malu cachu oedd y cyfan neu rywbeth a oedd wedi ei ail-greu dan ddylanwad y mudiad Rhamnataidd a derwyddiaeth Iolo Morganwg neu William Price. Dwi ddim yn gwybod mwy na hynny.
Positif80 a ddywedodd:'Sa'n well gen fod yn pagan - ddim emynau diflas, ddim lliwio lluniau o'r croeshoeliad yn ysgol Sul - heblaw am y new age types sydd yn dilyn "yr hen ffyrdd".
Ioan 3:19-21
19 Dyma'r dyfarniad: Mae golau wedi dod i'r byd, ond roedd pobl yn caru'r tywyllwch yn fwy na'r golau, am eu bod nhwín gwneud drygioni o hyd. 20 Mae pawb sy'n gwneud drygioni yn cas·u'r golau. Maen nhwín gwrthod dod allan i'r golau rhag ofn i'w gweithredoedd gael eu gweld. 21 Ond mae'r rhai sy'n ufudd iír gwirionedd yn dod allan i'r golau, ac maeín amlwg mai Duw syín rhoiír nerth iddyn nhw wneud beth syín iawn.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai