Cymedrolwr: Rhys Llwyd
Macsen a ddywedodd:Ein Duwiau ni cyn Cristnogaeth a'n Duwiau ar ol Cristnogath yw'r un rhai mewn un ffordd - mae ein delwedd o Dduw yn seiliedig ar Zeus a'n delwedd o'r Diafol yn seiliedig ar Cernunnos.
Foel Gornach a ddywedodd:Mae'r portreadau ohonynt yn y Testament Newydd ddim byd tebyg i'r duwiau paganaidd a enwi.
Gorwel Roberts a ddywedodd:Oes rhywun yn cofio stori yn y papurau rai blynyddoedd yn ol am bobl yn Sir Fon oedd yn honni eu bod nhw'n addoli hen dduwiau Celtaidd/Cymreig ac wedi cael eu dwyn i fyny'n gwneud hynny ond yn mynd i'r capel a'r eglwys hefyd er mwyn cadw'r peth yn dawel mewn oes lle oedd hi'n beryg credu pethau felly. Dwn i ddim ai malu cachu oedd y cyfan neu rywbeth a oedd wedi ei ail-greu dan ddylanwad y mudiad Rhamnataidd a derwyddiaeth Iolo Morganwg neu William Price. Dwi ddim yn gwybod mwy na hynny.
Foel Gornach a ddywedodd:Y trueni yw bod pobol nad ydynt yn hyddysg yn y traddodiadau Cymreig na’r iaith Gymraeg, yn cymryd mwy o ddiddordeb yn yr Eglwys Geltaidd, a’r Cymry yn anwybyddu’r cyfnod. Y canlyniad yw fod y gweithiau sydd ar gael yn llawn syniadau dwl sy’n fynegiant o’r anwybodaeth hwn.
Positif80 a ddywedodd:Oedd yna ryw fath o "brif Dduw" Cymraeg yn ystod y cyfnod paganaidd?
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai