Duwiau'r Cymry cyn Cristnogaeth

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Foel Gornach » Sad 12 Ion 2008 11:12 am

Y gyfrol orau o ddigon ar yr hen grefyddau yng Nghymru yw Rhwng Chwedl a Chredo gan Pennar Davies. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1966. Yn y gyfrol mae'n trafod yr holl gyfeiriadau clasurol am y crefyddau Celtaidd (yr unig ffynhonnell ddogfennol sydd ar gael - nid oedd y Celtiaid yn gosod pethau mewn ysgrifen) a'r wybodaeth archeolegol oedd ar gael yn y 60au (ategu'r wybodaeth honno y mae darganfyddiadau archeolegol diweddarach wedi ei wneud). Mae e hefyd yn trafod enwau afonydd a lleoedd Cymreig a'r hen chwedloniaeth fel y Mabinogi a'r chwedlau Arthuraidd. Gwna ddefnydd go helaeth o weithiau Syr John Rhys (Celtic Folklore). Rhwng Chwedl a Chredo yw'r llyfr gorau o ddigon am yr hen grefyddau; fy nghyngor yw darllen damcaniaethau'r bobol di-Gymraeg (sydd yn gallu bod yn hynod o ddwl) yng ngoleuni'r hyn a ddywed Pennar Davies.
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

Postiogan Positif80 » Sad 12 Ion 2008 4:26 pm

Mae nifer o lyfrau am ysbrydion a digwyddiadau uwchnaturiol yng Nghymru, a dw i'n eithaf siwr fod llawer o'r pethau yma'n hen dduwion neu'r equivalent i Satan cyn iddynt cael eu israddio gan gristnogaeth cynnar.
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan ceribethlem » Sad 12 Ion 2008 8:16 pm

Foel Gornach a ddywedodd:Y gyfrol orau o ddigon ar yr hen grefyddau yng Nghymru yw Rhwng Chwedl a Chredo gan Pennar Davies. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1966. Yn y gyfrol mae'n trafod yr holl gyfeiriadau clasurol am y crefyddau Celtaidd (yr unig ffynhonnell ddogfennol sydd ar gael - nid oedd y Celtiaid yn gosod pethau mewn ysgrifen) a'r wybodaeth archeolegol oedd ar gael yn y 60au (ategu'r wybodaeth honno y mae darganfyddiadau archeolegol diweddarach wedi ei wneud). Mae e hefyd yn trafod enwau afonydd a lleoedd Cymreig a'r hen chwedloniaeth fel y Mabinogi a'r chwedlau Arthuraidd. Gwna ddefnydd go helaeth o weithiau Syr John Rhys (Celtic Folklore). Rhwng Chwedl a Chredo yw'r llyfr gorau o ddigon am yr hen grefyddau; fy nghyngor yw darllen damcaniaethau'r bobol di-Gymraeg (sydd yn gallu bod yn hynod o ddwl) yng ngoleuni'r hyn a ddywed Pennar Davies.

Diolch. Byddai'n gofyn i Dadi os oes copi gyda fe, os na bydd posib menthyg copi wrthot ti?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Foel Gornach » Sad 12 Ion 2008 8:59 pm

Cei, a chroeso.
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

Postiogan Gorwel Roberts » Sad 12 Ion 2008 9:28 pm

Oes rhywun yn cofio stori yn y papurau rai blynyddoedd yn ol am bobl yn Sir Fon oedd yn honni eu bod nhw'n addoli hen dduwiau Celtaidd/Cymreig ac wedi cael eu dwyn i fyny'n gwneud hynny ond yn mynd i'r capel a'r eglwys hefyd er mwyn cadw'r peth yn dawel mewn oes lle oedd hi'n beryg credu pethau felly. Dwn i ddim ai malu cachu oedd y cyfan neu rywbeth a oedd wedi ei ail-greu dan ddylanwad y mudiad Rhamnataidd a derwyddiaeth Iolo Morganwg neu William Price. Dwi ddim yn gwybod mwy na hynny.
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Positif80 » Sad 12 Ion 2008 11:23 pm

Gorwel Roberts a ddywedodd:Oes rhywun yn cofio stori yn y papurau rai blynyddoedd yn ol am bobl yn Sir Fon oedd yn honni eu bod nhw'n addoli hen dduwiau Celtaidd/Cymreig .


'Sa'n well gen fod yn pagan - ddim emynau diflas, ddim lliwio lluniau o'r croeshoeliad yn ysgol Sul - heblaw am y new age types sydd yn dilyn "yr hen ffyrdd".
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan anffodus » Sul 13 Ion 2008 12:35 am

Gorwel Roberts a ddywedodd:Oes rhywun yn cofio stori yn y papurau rai blynyddoedd yn ol am bobl yn Sir Fon oedd yn honni eu bod nhw'n addoli hen dduwiau Celtaidd/Cymreig ac wedi cael eu dwyn i fyny'n gwneud hynny ond yn mynd i'r capel a'r eglwys hefyd er mwyn cadw'r peth yn dawel mewn oes lle oedd hi'n beryg credu pethau felly. Dwn i ddim ai malu cachu oedd y cyfan neu rywbeth a oedd wedi ei ail-greu dan ddylanwad y mudiad Rhamnataidd a derwyddiaeth Iolo Morganwg neu William Price. Dwi ddim yn gwybod mwy na hynny.


Dw i'm yn siwr os dio'n union run fath â be odda chdi isio ond chydig yn ol, adag y dwrnod hira' odd na raglan ar S4C am wrachod yn mynd i Gôr y Cewri i ddathlu'r dwrnod gan bod o'n bwysig yn eu calendr nhw. Ac mi o'dd na rai o Gymru yna, ac yn arbennig o Sir Fôn. Kris Hughes o'dd enw un ohonyn nhw dwi'n meddwl.
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Postiogan Gorwel Roberts » Sul 13 Ion 2008 1:28 pm

Ia, o bosib rheolwr cymdeithas adeiladu oedd y dyn ac roedd o'n honni bod ei grefydd o'n hen ac wedi goroesi yn hytrach nag yn rwbath oedd wedi cael ei atgyfodi'n ddiweddar.
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan rooney » Sul 13 Ion 2008 5:25 pm

Positif80 a ddywedodd:'Sa'n well gen fod yn pagan - ddim emynau diflas, ddim lliwio lluniau o'r croeshoeliad yn ysgol Sul - heblaw am y new age types sydd yn dilyn "yr hen ffyrdd".


pam y casineb?

Ioan 3:19-21
19 Dyma'r dyfarniad: Mae golau wedi dod i'r byd, ond roedd pobl yn caru'r tywyllwch yn fwy na'r golau, am eu bod nhwín gwneud drygioni o hyd. 20 Mae pawb sy'n gwneud drygioni yn cas·u'r golau. Maen nhwín gwrthod dod allan i'r golau rhag ofn i'w gweithredoedd gael eu gweld. 21 Ond mae'r rhai sy'n ufudd iír gwirionedd yn dod allan i'r golau, ac maeín amlwg mai Duw syín rhoiír nerth iddyn nhw wneud beth syín iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Macsen » Sul 13 Ion 2008 9:41 pm

Ein Duwiau ni cyn Cristnogaeth a'n Duwiau ar ol Cristnogath yw'r un rhai mewn un ffordd - mae ein delwedd o Dduw yn seiliedig ar Zeus a'n delwedd o'r Diafol yn seiliedig ar Cernunnos.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron