Duwiau'r Cymry cyn Cristnogaeth

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Foel Gornach » Sul 13 Ion 2008 10:27 pm

Ychydig o or-gyffredinoli fyn'na Macsen. Nid yw'n syniad i o Dduw unrhywbeth tebyg i Zeus; na'r diafol yn debyg i Cernunnos. Rwy'n derbyn fod ambell i ddelwedd yr Oesoedd Canol, fel Michelangelo yn y Sistine, a'r amrywiol bortreadau o'r diafol, wedi eu hysbrydoli gan y duwiau hynny; ond dyna'i gyd. Mae'r portreadau ohonynt yn y Testament Newydd ddim byd tebyg i'r duwiau paganaidd a enwi.
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

Postiogan Hen Rech Flin » Sul 13 Ion 2008 10:28 pm

Mae yna gyflwyniad eithaf da i'r pwnc ar gael yn y gyfres Llafar Gwlad

Duwiau'r Celtiaid gan Gwyn Thomas Gwas carreg Gwalch 1992
Rhif llyfr Safonol 0-86381-215-5

Bargen am £2 os oes modd cael hyd i gopi yn cuddio yn un o'r Siopau Cymraeg o hyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan rooney » Sul 13 Ion 2008 10:37 pm

Macsen a ddywedodd:Ein Duwiau ni cyn Cristnogaeth a'n Duwiau ar ol Cristnogath yw'r un rhai mewn un ffordd - mae ein delwedd o Dduw yn seiliedig ar Zeus a'n delwedd o'r Diafol yn seiliedig ar Cernunnos.


wyt ti'n credu mae Duw greodd dyn ynteu dyn greuodd Duw?

Nid yw Cristnogion yn dyfeisio neu'n dychmygu Duw, mae nhw'n cael y darlun o Dduw o'r Ysgrythyrau mae Cristnogion yn gredu sydd wedi eu ysbrydoli gan Dduw, lle mae'n datgelu ei hun i ni. Nid yw tebygrwydd neu anhebygrwydd i unrhyw dduwiau ffals yn berthnasol o gwbl.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Macsen » Sul 13 Ion 2008 10:48 pm

Foel Gornach a ddywedodd:Mae'r portreadau ohonynt yn y Testament Newydd ddim byd tebyg i'r duwiau paganaidd a enwi.

Ia, dyna oedd fy mhwynt i. Dyw'r Beibl ddim yn dweud bod gan Duw farf mawr gwyn na bod gan y diafol gyrn - mae'r delweddau rhain yn atbor o dduwiau cynt.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Owain Llwyd » Maw 15 Ion 2008 11:18 am

Gorwel Roberts a ddywedodd:Oes rhywun yn cofio stori yn y papurau rai blynyddoedd yn ol am bobl yn Sir Fon oedd yn honni eu bod nhw'n addoli hen dduwiau Celtaidd/Cymreig ac wedi cael eu dwyn i fyny'n gwneud hynny ond yn mynd i'r capel a'r eglwys hefyd er mwyn cadw'r peth yn dawel mewn oes lle oedd hi'n beryg credu pethau felly. Dwn i ddim ai malu cachu oedd y cyfan neu rywbeth a oedd wedi ei ail-greu dan ddylanwad y mudiad Rhamnataidd a derwyddiaeth Iolo Morganwg neu William Price. Dwi ddim yn gwybod mwy na hynny.


Mae Ronald Hutton yn neilltuo cwpl o dudalennau i hyn yn The Triumph of the Moon, ond heb ddod i gasgliadau penodol.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 15 Ion 2008 11:33 am

Roedd Tudur Jones, fel dwi'n dallt, yn dal fod dyfodiad Cristnogaeth i Gymru (hynny yw dechreuad y Gymru dy ni'n adnabod heddiw) yn dyddio i'r union run adeg a gellid dweud i sicrwydd y bo Cymru yn ymffurfio fel cenedl. Dyma frawddeg ganddo yn cyfeirio at y blynyddoed 200-450: "they came wrapped in legends but produced bishops and archaeological bric-a-brac, as well as martyrs and Pelagius." Ymysg diwinyddion a haneswyr eglwysig does dim consensws o gwbl am hanes yr Eglwys [Gristnogol] Geltaidd fodd bynnag gellid dweud i sicrwydd fod Cristnogaeth wedi cyraedd Cymru erbyn y flwyddyn 200 oherwydd i ddau berson, Aaron a Julius, gael eu lladd fel merthyron Cristnogol yng Ngwent.

Ddim mod i'n unrhyw arbennigwyr ar unrhywbeth ac yn sicr dim byd cyn y Diwygiad Protestanaidd ond chwedl can Dafydd Iwan am Macsen Wledid yn 'ein gadael yn genedl gyfan' a gyda hynny hefyd wedi ein gadael a Christnogaeth. Bydd rhaid i mi cael cip-drem ar lyfr Pennar Davies.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Positif80 » Maw 15 Ion 2008 1:13 pm

Oedd yna ryw fath o "brif Dduw" Cymraeg yn ystod y cyfnod paganaidd?
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Foel Gornach » Maw 15 Ion 2008 1:18 pm

Mae’n drueni nad yw’r Cymry Cymraeg wedi cymryd mwy o ddiddordeb yn ein hen draddodiadau Cristnogol. Chwaraeodd yr ‘Eglwys Geltaidd’ yn ‘Oes y Saint’ (ymadroddion diweddar na fyddai’r bobol yn y G6ed yn eu hadnabod) ran holl-bwysig yn ein ffurfiant fel cenedl. Chwaraeodd ran bwysig iawn wrth i Brotestaniaeth ymledu yng Nghymru yn yr G16eg a’r G17eg yn ogystal, gan effeithio ar syniadau’r Protestaniaid cynnar am natur y Ffydd yng Nghymru.

Bu Cymru’n bwerdy pwysig i’r Ffydd yng Ngorllewin Ewrop am genedlaethau (gweler pennod Bobi Jones am y cyfraniad yn ei gyfrol I’r Arch). Yr academïau a sefydlwyd gan Illtud yn Llanilltud Fawr, Cadog yn Llancarfan a disgynyddion Pabo Post Prydyn yn Bangor Iscoed oedd canolfannau pwysicaf y Ffydd am gyfnod.

Cyfnod hynod ddiddorol yw ‘Oes y Saint’ pan gymhathwyd yr hen grefyddau i’r Ffydd Gristnogol, a’r modd y daeth rhai o’r hen dduwiau yn arwyr Cristnogol. Nid oes unrhyw gofnod am wrthdaro chwyrn rhwng y Ffydd a’r hen baganiaeth (mae ambell enghraifft fel yr hanes am Boia yn gwrthwynebu Dewi yng Nglyn Rhosin); ymddengys fel petai’r arweinwyr, fel y derwyddon, wedi derbyn y ffydd yn rhwydd iawn. Mae’r disgrifiad sydd gennym o Illtud, er enghraifft, sy’n ei wneud yn debyg i dderwydd.

Y trueni yw bod pobol nad ydynt yn hyddysg yn y traddodiadau Cymreig na’r iaith Gymraeg, yn cymryd mwy o ddiddordeb yn yr Eglwys Geltaidd, a’r Cymry yn anwybyddu’r cyfnod. Y canlyniad yw fod y gweithiau sydd ar gael yn llawn syniadau dwl sy’n fynegiant o’r anwybodaeth hwn.
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 15 Ion 2008 1:33 pm

Foel Gornach a ddywedodd:Y trueni yw bod pobol nad ydynt yn hyddysg yn y traddodiadau Cymreig na’r iaith Gymraeg, yn cymryd mwy o ddiddordeb yn yr Eglwys Geltaidd, a’r Cymry yn anwybyddu’r cyfnod. Y canlyniad yw fod y gweithiau sydd ar gael yn llawn syniadau dwl sy’n fynegiant o’r anwybodaeth hwn.


Rwy'n cytuno. Mae'n arbennig o drist na fu i Dr. Tudur wneud gwaith ar y cyfnod cynnar yma. Gyda llaw dyma oedd maes ei astudiaeth pan fu farw'n sydyn yn 1998 - o gael mynediad i'w bapurau da o beth fydd medru cyflwyno ffrwyth ei ymchwil a'i feddyliau i'r cyhoedd maes o law.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Foel Gornach » Maw 15 Ion 2008 1:40 pm

Positif80 a ddywedodd:Oedd yna ryw fath o "brif Dduw" Cymraeg yn ystod y cyfnod paganaidd?


Nid oedd y fath beth a Chymru na'r Gymraeg yn bod yn y cyfnod paganaidd. Yr oedd y Brythoniaid a'r Frythoneg drwy'r rhan fwyaf o'r ynys a adnabyddir fel Prydain.

Nid oes gwybodaeth pendant am y duwiau a addolwyd; mae'n bosib bod y llwythi yn addoli gwahanol dduwiau. Mae yna rai duwiau sy'n ymddangos yn amlach nag eraill. Ymddengys fod yr hen Gymry (neu'r Brythoniaid oedd yn byw yng Nghymru) yn hoff o ystyried eu duwiau mewn trindodau (gwnaeth hyn hi'n hawdd i gyflwyno'r cysyniad o'r Drindod Cristnogol iddynt). Y prif dduwiau (o bosib) oedd Modron (y fam fawr - benthyciwyd yr enw gan y Lladin fel Matrona ac aeth i'r Saesneg fel Matron), Gwron (y gwr mawr) a Mabon (y mab mawr - un oedd yn dioddef dros y bobol). Enghraifft arall yw Gwydion (duw gwyddoniaeth a gwybodaeth), Amaethon (duw amaeth) a Gofannon (duw'r gofaint). Fe aeth Gofannon yn arwr Cristnogol ac ymddengys yn y chwedlau Arthuraidd fel Sir Gawain.

Ond nid oes tystiolaeth pendant am un duw neu dduwies amlwg sydd uwchlaw'r gweddill drwy'r wlad. Nid yw hyn i ddweud nad oedd un yn bod, ond nid oes tystiolaeth wedi goroesi ar waethaf yr hyn a ddywed ambell i awdur di-Gymraeg.
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron