Foel Gornach a ddywedodd:Mathew 24:36 - Ond am y dydd hwnnw a’r awr ni ŵyr neb, nac angylion y nef, na’r Mab, neb ond y Tad yn unig.
Pam na all y sawl sy'n honni eu bod yn dilyn Iesu gymryd ei eiriau o ddifrif?
Does neb yn gwybod pryd ddaw diwedd y byd, gall ddigwydd yfory neu mewn can miliwn o flynyddoedd.
Ein cyfrifoldeb ni yw cydweithio ag ef i achub y byd hwn nid edrych ymlaen at y cyfle i ffoi - "yr hwn a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll", meddai Iesu ei hun.
Ma'n hurt yr holl beth diwedd y byd ma, yn disgwyl iddo ddigwydd a'i adel i ddigwydd. Fel Tystion Jehova sy'n gwrthod pleidleisio oherwydd eu gobeithio am y bywyd nesa. Wel ma ne fywyd rwan sy'n rhaid ei fyw, ac o safbwynt crefyddol mae'n sanctaidd a rhaid ei ddiogelu.
Yn ôl ysbryd y Duw Beiblaidd, mwy na thebyg byse fo'n creu neu taflu trychineb(au) naturiol at y byd i fforsio pobol i gydweithio efo'i gilydd er mwyn datrys problemau.
Os nad yw'r haul am redeg allan, yna ma ne fygythiad o bethe erill yn y gofod all daro/creu niwed i'r byd fel un galaeth sydd am daro fewn i'r Llwybyr Llaethog, a sydd wedi cychwyn rwan dipyn.
Allan o rywbeth fel yma byse Duw yn gallu profi ffydd a chryfrder pobol os byse nhw'n ymdrechu i adeiladu arfau niwclear nid i ddefnyddio ein gilydd, ond i ddiogelu ac edrych ar ôl ein gilydd.
O ie, chi efengylwyr, ma'r Beibl yn deud i Dduw creu diwrnod sydd union 24 awr. Mae hyd y dydd mewn eiliadau yn ymestyn oherwydd grymoedd disgyrchiant y lleuad, felly fy dydd y farn yn bellach a bellach i ffwrdd.