Pryd ddaw'r byd i ben?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pryd ddaw'r byd i ben?

Postiogan rooney » Sad 03 Tach 2007 1:49 am

Ddaw'r byd i ben? Pryd? Pam, a phwy fydd yn gyfrifol? Pa wledydd fydd wrthi?

Diddorol yw darllen proffwydoliaethau'r Beibl ar y materion yma. Credaf fod y proffwydoliaethau yn cael eu gwireddu o flaen ein llygaid.

Yr oedd gen Sir Isaac Newton ddiddordeb yn hyn i gyd, deallaf ei fod wedi dadansoddi'r proffwydoliaethau ac yn credu mae yn 2060 y dychwela Iesu.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Pryd ddaw'r byd i ben?

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Sad 03 Tach 2007 9:40 am

rooney a ddywedodd:Diddorol yw darllen proffwydoliaethau'r Beibl ar y materion yma. Credaf fod y proffwydoliaethau yn cael eu gwireddu o flaen ein llygaid.


A 'dw innau'n credu fod ar agwedd hon yn camddeall natur proffwydoliaeth ac yn gwneud amarch i natur y testunnau proffwydol yn y Beibl. Nid llawlyfr lle gellir dod o hyd i gadarnahad o'n hoff ragfarnau ydi'r ysgrythurau.

Be di dy atebion di, Rooney? Fod raid i ni gefnogi Israel pa mor bynnag warthus y mae nhw'n delio efo'r Palestiniaid? Fod Rwsia - y grochen sy'n berwi tua'r gogledd - ar fin ymosod ar rywun? Mai'r UE yw'r Fwystfil?
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Re: Pryd ddaw'r byd i ben?

Postiogan rooney » Sad 03 Tach 2007 6:34 pm

mae'r rhyddfrydwyr wrth eu boddau'n condemnio'r rheiny sydd yn cymryd y Beibl o ddifri, tra'n torri'r ysgrythurau'n ddarnau gyda siswrn- hwy sydd yn amharchu'r ysgrythur gan nhw sy'n gwadu popeth nhw ddim yn hoffi ei ddarllen, ac yn condemnio'r rheiny sydd am i'w cred ddylanwadu ar y ffordd mae nhw'n meddwl yn wleidyddol. Sgil effaith hyn, sef dymuniad gan y rhyddfrydwyr i erthylu'r Beibl yn llwyr o wleidyddiaeth, yw seciwlariaeth... a dyna beth yw'r UE a pham fod y pobl sy'n meddwl mae'r UE yw'r fwystfil mor gywir- ni'n gweld Cristnogion yn dioddef yn gynyddol oherwydd obsesiwn y rhyddfrydwyr i redeg cymdeithas yn gwbl groes i'r ffordd mae'r Beibl yn ddysgu a'r UE yw'r teclyn perffaith ar gyfer hyn, yn enwedig os deith Twrci fewn

mae popeth yn cymryd siap

Israel- mae'n berffaith amlwg nad yw ai chymdogion eisiau heddwch ac Israel, wel dim ond tan i Israel gael ei phwsio i'r mor. Mae'r Iddewon dal i ddod nol i Israel ar ol cael eu gwasgaru ledled y byd. Pam fod rhai Cristnogion yn casau Israel- gan fod nhw'n credu sothach gan anffyddwyr y Guardian a'r BBC a ddim eu Beibl.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Pryd ddaw'r byd i ben?

Postiogan Madrwyddygryf » Sul 04 Tach 2007 9:29 am

rooney a ddywedodd:Yr oedd gen Sir Isaac Newton ddiddordeb yn hyn i gyd, deallaf ei fod wedi dadansoddi'r proffwydoliaethau ac yn credu mae yn 2060 y dychwela Iesu.

Diolch am y wybodaeth. Wedi rhoi fo yn fy nghalendar. :D
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Dielw » Sul 04 Tach 2007 10:35 am

Efallai Isaac Newton ydi plentyn Iesu yn ol y da vincy code.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Macsen » Sul 04 Tach 2007 12:21 pm

Mae pobol wedi bod yn dweud bod diwedd y byd yn agos erioed (wele 2 Thessalonians 2 - yn y ganrif cynta AD oedd hwn!) Trwy gydol yr oesoedd dywyll roedd pobol yn meddwl bod y byd ar ei ffordd lawr y pan wedi 'oes aur' y Rhufeiniaid ac y byddai'r byd yn gorffen unrhyw funud nawr, ar ol cinio bosib, falle bore fory, wythnos nesa ar y hwyra... Wedyn daeth yr goleuedigaeth a fe gymerodd y ddynoliaeth ryw fath o gyfrifoldeb am ei dyfodol ei hun.

Yr eironi yw bod y gred grefyddol yn diwedd y byd yn aml yn bygwth y ddynoliaeth ar lefel fwy corfforol, ac yn dod yn agos iawn i gyflawni ei broffwydoliaeth ei hun. Mae'r gred gyfoes bod rhaid cael ryw fath o ryfel mawr yn y dwyrain canol fel rhan o'r proffwydoliaeth yn esiampl da o hyn. Petai'r byd yn gorffen am nad yw un crefydd yn gallu dod ymlaen gyda crefydd arall sydd i bob pwrpas yn coelio yn yr un duw swn i'n eitha crac yn bersonol. Am wast.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan rooney » Sul 04 Tach 2007 2:16 pm

Macsen a ddywedodd:Petai'r byd yn gorffen am nad yw un crefydd yn gallu dod ymlaen gyda crefydd arall sydd i bob pwrpas yn coelio yn yr un duw swn i'n eitha crac yn bersonol. Am wast.


Nope
Jehovah ac Allah ddim yr un Duw
Ddim y broffwydoliaeth sy'n achosi'r sefyllfa, y sefyllfa sy'n gwireddu'r broffwydoliaeth.
Rhaid i nifer fawr o bethau gael eu gwireddu cyn dychweliad Crist, mae pobl wedi bod yn anghywir yn y gorffenol oherwydd nid oedd popeth yn cael ei gwireddu, a doedd llawer o'r proffwydoliaethau ddim yn gwneud llawer o synnwyr. Nawr fod ni mewn byd gyda cyfryngau byd-eang, arfau niwclear, Iddewon nol yn Jerusalem, Undeb Ewropeaidd seciwlar yn cael ei bwshio ar y bobl ayyb. mae'r proffwydoliaethau'n gwneud mwy o synnwyr nac erioed o'r blaen.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Chip » Sul 04 Tach 2007 4:11 pm

neith y byd ddim bod i ben siwr, hyd yn oed os ma rhyfel niwcler dyw'r peth ddim yn mynd i hollti yn hanner :rolio: mwy na thebyg neith dyn lladd ei hun mas trwy rhyfel neu gor poblogi. ond wedi 100 mlynedd ar ol rhyfel niwcler neith natur datblygu mewn rhyw ffordd a tyfu nol, a wedi cwpwl o canoedd bydde ddim cliw bod pobl erioed wedi byw :( .
-Superman don't need no seat belt.
-Superman don't need no airplane, either.
Muhammad Ali and Flight attendant
Rhithffurf defnyddiwr
Chip
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 276
Ymunwyd: Sul 13 Awst 2006 5:36 pm
Lleoliad: PLwmp

Postiogan Dylan » Sul 04 Tach 2007 4:14 pm

rooney a ddywedodd: Jehovah ac Allah ddim yr un Duw


eh? Ydyn siwr. Y gair Arabeg am dduw ydi Allah, dim byd mwy.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Sul 04 Tach 2007 4:20 pm

a rhag ofn dy fod am bigo ffrae am hynny, dyma ddyfyniad perthnasol o'r Coran (29:46):

029.046
YUSUFALI: And dispute ye not with the People of the Book, except with means better (than mere disputation), unless it be with those of them who inflict wrong (and injury): but say, "We believe in the revelation which has come down to us and in that which came down to you; Our Allah and your Allah is one; and it is to Him we bow (in Islam)."
PICKTHAL: And argue not with the People of the Scripture unless it be in (a way) that is better, save with such of them as do wrong; and say: We believe in that which hath been revealed unto us and revealed unto you; our Allah and your Allah is One, and unto Him we surrender.
SHAKIR: And do not dispute with the followers of the Book except by what is best, except those of them who act unjustly, and say: We believe in that which has been revealed to us and revealed to you, and our Allah and your Allah is One, and to Him do we submit.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron