Pryd ddaw'r byd i ben?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dylan » Sul 04 Tach 2007 6:10 pm

dydi hwnna ddim yn neud synnwyr. Holl bwynt seciwlariaeth ydi bod cymdeithasau'n cynnwys pobl o amryw grefyddau, a bod gan bob un o'r rheiny'r hawl i'w ffydd bersonol ei hun

ti'n theocrat o'r iawn ryw felly? Ti wir isio gweld Cymru neu Brydain yn mabwysiadu rhyw fath o fersiwn Gritsnogol o'r Sharia?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Sul 04 Tach 2007 6:13 pm

Dylan a ddywedodd:dydi hwnna ddim yn neud synnwyr. Holl bwynt seciwlariaeth ydi bod cymdeithasau'n cynnwys pobl o amryw grefyddau, a bod gan bob un o'r rheiny'r hawl i'w ffydd bersonol ei hun

ti'n theocrat o'r iawn ryw felly? Ti wir isio gweld Cymru neu Brydain yn mabwysiadu rhyw fath o fersiwn Gritsnogol o'r Sharia?


Felly ar pa werthoedd neu ethics mae y gymdeithas yn seiliedig?
Diffinia "priodas" i mi mewn cymdeithas seciwlar.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Dylan » Sul 04 Tach 2007 6:19 pm

fedrith o olygu unrhyw beth mae'r cwpl hapus yn dymuno iddo'i olygu. Ti ddim wir o dan yr argraff bod y cysyniad o wladwriaeth seciwlar rhywsut yn golygu nad oes gan y cwpl hoff gytûn yr hawl i briodas grefyddol, gobeithio?

lle mae'r wladwriaeth dan sylw, mae'n golygu buddiannau cyfreithiol ac ariannol. Cytundeb, yn y bôn. Ond rhywbeth personol ydi'r diffiniad yn gyffredinol, does bosib?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Sul 04 Tach 2007 6:21 pm

mae'r cysyniad o briodas yn hynod o debyg yn fwy neu lai pob un traddodiad neu wareiddiad ledled y byd, gyda llaw. Plis paid trio dweud bod priodas yn rhywbeth sy'n unigryw i Gristnogaeth neu rhyw lol felly.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Sul 04 Tach 2007 6:24 pm

Dylan a ddywedodd:fedrith o olygu unrhyw beth mae'r cwpl hapus yn dymuno iddo'i olygu.


Reit. Gwn am gwpl lle fuasai'r gwr yn hoff o briodi mwy nac un dynes. Hyn yn iawn gen ti yn dy gymdeithas seciwlar?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Dylan » Sul 04 Tach 2007 6:26 pm

yn lle gwastraffu amser gyda mân dangiadau, fedri di arbed bach o amser i ni gyd trwy gadarnhau dy fod yn theocrat bona fide?

cwestiwn onest
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Sul 04 Tach 2007 6:28 pm

Dylan a ddywedodd:yn lle gwastraffu amser gyda mân dangiadau, fedri di arbed bach o amser i ni gyd trwy gadarnhau dy fod yn theocrat bona fide?

cwestiwn onest


tyrd, beth sydd o'i le i ti mewn dyn sydd eisiau priodi mwy nac un dynes ar yr un pryd?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Dylan » Sul 04 Tach 2007 6:31 pm

rooney a ddywedodd:Reit. Gwn am gwpl lle fuasai'r gwr yn hoff o briodi mwy nac un dynes. Hyn yn iawn gen ti yn dy gymdeithas seciwlar?


Mewn egwyddor, os ydi pawb o dan sylw yn hapus â'r trefniant, ydi. Ond dw i'n cyfaddef bod y peth yn fwy niwlog na hynny, achos yn y cymunedau hynny lle mae polygamiaeth yn gyffredin (fel pentrefi anghysbell cefn gwlad Utah) does gan y merched fawr o ddewis yn y peth neu o leia mae nhw braidd yn brainwashed.

ond mewn egwyddor, ie, cyn belled bod pawb yn cydsynio

ac er mwyn achub y blaen (dw i'n rhagweld ble ti am fynd efo hwn), dw i ddim yn credu bod modd i rhywun dan 16 gydsynio. Mae 16 yn fympwyol gan fod pawb yn wahanol, ond gan fod y gyfraith yn gofyn am rhyw ffin benodol fe wnaiff y tro.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Sul 04 Tach 2007 6:37 pm

beth am frawd a chwaer yn priodi, hyn yn ok gen ti?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Dylan » Sul 04 Tach 2007 6:49 pm

mae hwnna'n gwestiwn dyrys, yndi. Eto, mewn egwyddor, hwyrach. Mae'r darn yma o Wiki yn ddifyr.

Incestuous relations between adults, such as between an adult brother and sister, are illegal in most parts of the industrialized world. [citation needed] These laws are sometimes questioned on the grounds that such relations do not harm other people (provided the couple have no children) and so should not be criminalized. Proposals have been made from time to time to repeal these laws — for example, the proposal by the Australian Model Criminal Code Officer's Committee discussion paper "Sexual Offenses against the Person" released in November 1996. (This particular proposal was later withdrawn by the committee due to a large public outcry. Defenders of the proposal argue that the outcry was mostly based on the mistaken belief that the committee was intending to legalize sexual relations between parents and their minor children.)

In the wake of the Lawrence v. Texas (539 U.S. 558 2003) decision by the U.S. Supreme Court, striking down laws criminalizing homosexual sodomy as unconstitutional, some have argued that by the same logic laws against consensual adult incest should be unconstitutional. Some civil libertarians argue that all private sexual activity between consenting adults should be legal, and its criminalization is a violation of human rights. In Muth v. Frank (412 F.3d 808), the 7th U.S. Circuit Court of Appeals interpreted the case applying to homosexual activity, and refused to draw this conclusion from Lawrence, however — a decision that attracted mixed opinions. The Supreme Court refused to hear this case.


Felly o gofio bod hawl i ddau berson wneud unrhyw beth y dymunent cyn belled bod dim niwed yn cael ei achosi i neb, anodd gen i beidio'i ganiatáu. Dyna ble mae'r busnes am broblemau iechyd posibl eu darpar epil yn cymylu pethau. Ond os anghyfreithloni hynny, byddai rhaid anghyfreithloni pethau fel ysmygu neu yfed tra'n feichiog hefyd. Felly eto, rhaid ei ganiatáu.

ond dw i ddim yn siwr be ti'n trio'i brofi fan hyn. Wedi'r cyfan, mae priodasau llosgachol yn rhemp yn y Beibl. Mae pob cymdeithas hyd y gwn i lle mae polygamiaeth, llosgach ac ati yn gyffredin yn rhai crefyddol. Wyt ti'n poeni mai'r prif broblem fyddwn ni'n ei wynebu yn sgil cwymp crefydd fydd ein hawydd ni i gyd i fynd ati i briodi ein brodyr a'n chwiorydd?

ond ie, tangiad ydi hwn. Cwestiwn onest: wyt ti am weld rhyw fath o theocratiaeth?
Golygwyd diwethaf gan Dylan ar Sul 04 Tach 2007 6:55 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 37 gwestai

cron