Pryd ddaw'r byd i ben?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dylan » Llun 05 Tach 2007 1:10 am

mae'n anhygoel pa mor gyffredin ydi proffwydoliaethau am ddiwedd y byd ym mytholegau fwy neu lai pob un llwyth o bobl sydd erioed wedi bodoli. Mae'n un o'r motifau mwya diflas. Er mor gyfarwydd 'dan ni gyd â syniadau dwl rooney fan hyn, dw i'n synnu braidd ei fod o hyd yn oed wedi'i gyffroi gan yr un hen thema syrffedus yma. Mae diwedd y byd wedi bod ar fin digwydd ers cyn blydi cof, mewn difri calon.

dw i hefyd methu deall pam fod rooney dal mor gyndyn o alw'i hun yn theocrat. Mae'n gwestiwn digon onest heb ronyn o falais.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Llun 05 Tach 2007 1:49 am

fydd y syniadau ddim cweit mor "ddwl" pan ti'n ffeindio fod y pobl o'r eglwysi yn diflanu mwya' sydyn, fe fyddi di'n rhuthro i ffeindio Beibl wedyn
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Dylan » Llun 05 Tach 2007 2:01 am

does dim lot mwy fedra i ddweud, ti'n gwneud fy ngwaith i drosto i :ofn:

dim pwynt, wir. Fel trio dal pen rheswm gyda David Icke neu rhywun.

dw i 'di rhoi nodyn yn fy nyddiadur ar gyfer 2060 beth bynnag (fydda i'n troi 76 os byddaf fyw; mae gen i siawns o leia). Ond (un ymdrech fach arall ar fy rhan i resymu efo ti) dyma restr o broffwydoliaethau cyffelyb eraill (sydd ddim yn agos at fod yn restr gyflawn) na wireddwyd (wrth reswm).

fel on i'n dweud, mae'r syniad o broffwydo diwedd y byd yn thema cyson, hynafol, a blydi diflas. Dim byd newydd o gwbl.
Golygwyd diwethaf gan Dylan ar Llun 05 Tach 2007 2:31 am, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Llun 05 Tach 2007 2:13 am

yw Dylan yn gwadu bydd diwedd i'r byd, neu yw Dylan yn cadw'n gyson gyda doctrin dawkins sef fod popeth yn y Beibl yn gelwydd a mae'r gwir yw fod ni i gyd wedi esblygu o ddim byd mewn bydysawd ddi-bwrpas- safbwynt cwbl afresymol
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Pryd ddaw'r byd i ben?

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Llun 05 Tach 2007 1:13 pm

rooney a ddywedodd:mae'r rhyddfrydwyr wrth eu boddau'n condemnio'r rheiny sydd yn cymryd y Beibl o ddifri, tra'n torri'r ysgrythurau'n ddarnau gyda siswrn-


Mae'n ddrwg gen i am fod mor hir yn dy ateb - roedd raid mynd i A&E ar ol i'm siswrn lithro ac mi dorrais fy llaw yn agored.

Mi wna'i gofio dy eiriau wrth baratoi fy mhregeth nesaf ar Wyl Crist y Brenin. I gyd efo'n gilydd rwan: "Credwn y daw eto i farnu'r byw a'r meirw, ac ni fydd diwedd ar ei deyrnas."
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Postiogan Macsen » Llun 05 Tach 2007 1:25 pm

Does dim byd yn y Beibl yn dweud y bydd diwedd y byd yn y blynyddoedd nesaf. Fe all y holl 'arwyddion' gael eu dehongli tua 2,000 o ffyrdd gwahanol - un i bob blwyddyn mae pobol wedi bod yn honni bod diwedd y byd ar droed.

Allet ti esbonio beth yn union yw'r arwyddion, Rooney, a pa ddyfyniadau Penodol o'r Beibl sy'n profi eu bod yn gam tuag at sul y pys? Nid ceisio dy annog di ydw , ond dangos sut y mae modd dadansoddi bod 'arwydd' mewn faint bynnag o ffyrdd ag yr wyt ti eisiau.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Pryd ddaw'r byd i ben?

Postiogan Dan Dean » Llun 05 Tach 2007 1:27 pm

rooney a ddywedodd:Pam fod rhai Cristnogion yn casau Israel- gan fod nhw'n credu sothach gan anffyddwyr y Guardian a'r BBC a ddim eu Beibl.

:lol: :lol: :lol:

Felly os ydych angen dadansoddiad o pholisiau Israel ers 1948 ewch i'r Beibl am fwy o wybodaeth manwl a chytbwys.

Dwi wir gobeithio na piss-take ydi rhan fwyaf o dy negeseuon. Fel arall, ti wirioneddol ddim yn gall.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Llefenni » Llun 05 Tach 2007 3:09 pm

rooney a ddywedodd:...doctrin dawkins sef fod popeth yn y Beibl yn gelwydd a mae'r gwir yw fod ni i gyd wedi esblygu o ddim byd mewn bydysawd ddi-bwrpas- safbwynt cwbl afresymol


Pam bod angen priodoli rheswm iddo? Cysyniad dynol ydi rheswm, does na ddim rhaid i unhywbeth rili nagoes?

Fel gofyn "be di rheswm/ystyr bywyd?" does dim rhaid bod ystyr iddo oes 'na?
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan nicdafis » Llun 05 Tach 2007 5:28 pm

Wedi symud o'r seiat gwleidyddiaeth. Creuwyd y seiat hwn (Criw Duw) yn benodol er mwyn trafod pethau fel hyn, ac yn cadw y seiadau "Materion..." ar gyfer trafodaeth gwleidyddol go iawn.

Dw i'n gwybod na fydd rooney yn cytuno â'r penderfyniad, ac mae'n flin 'da fi am hynny, ond 'na fe. Gwefan breifat yw hon- os ti ddim yn lico'r ffordd dw i'n ei rhedeg, cer rhywle arall.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Maw 06 Tach 2007 10:02 am

Mae yna nifer o ffactorau i'w cysidro wrth ddod at y llyfrau yn y Beibl megis Datguddiad, Daniel a rhan olaf Sechareia.

Yn gyntaf, nid oraclau o'r dyfodol ydynt yn y bon. Ffyrdd ydynt - dulliau llenyddol, fel petai - o siarad am y pethau sy'n mynd ymlaen ym mhresenoldeb yr awdur. Fel y proffwydi - Eseia, Jeremeia, ac ati - dogfennau gwleidyddol-grefyddol cyfoes ydynt.

Categori lenyddol yw "apocalyps" - Datguddiad. Mae na esiamplau eraill o'r math hyn o lenyddiaeth nad ydynt yn yr ysgrythurau Cristnogol Protestannaid - 1 & 2 Esdras, er enghraifft, sydd yn yr Apocryffa yn y Beibl Cymraeg Newydd. Maent yn ddogfennau cymleth iawn - mor gymleth, yn wir, na fu cytundeb ar os oedd Llyfr Datguddiad yn wir ran o'r Ysgrythur tan ar ol y flwyddyn 500, ac hyd yn oed nawr nid yw'r Eglwysi Uniongred yn ei ddarllen fel rhan o addoliad cyhoeddus (er eu bod yn darllen gweddill y Testament Newydd yn ei gyfanrwydd bob blywddyn).

Gellir tynnu cymhariaeth yma gydag elfen ym marddoniaeth Gymraeg yr 20fed ganrif (ac i raddau llai, ffuglennau) lle mae'r ran fwyaf o bobl yn cyfarfod syniadau gwleidyddol - sy'n llawn o ddelweddau o sut mae'r ysgrifennydd yn meddwl mae'r byd o'i gwmpas, ac yn aml yn cyflwyno sut y mae'r ysgrifennydd yn credu am fod.

Yn yr ystyr hyn, mae darnau fel "Y Dilyw", "Cymru 1937", "Wythnos yng Nghymru Fydd" yn esiamplau amlwg. Mae nofelau Marcaidd William Owen Roberts yn esiamplau o geisiau gwneud yr un peth - defnyddio delweddau a symbolau i gyfleu ystyr wleidyddol - o gyfeiriad anghrefyddol.

I fynd yn ol at y Beibl, mae llyfr Daniel yn esiampl dda o'r pwysigrwydd o ddeallt hyn.

Mae darllenaid "arwynebol" ohoni yn deall penodau 7-12 fel "oracl" estynnedig wedi ei ynganu oddeutu 500 CC ar sut y mae'r byd yn mynd i fod. Ond os deellir y llyfr fel "ffuglen" wleidyddol wedi ei ysgrifennu oddetu 170 CC mewn oes pan oedd yr Iddewon dan orthrwm brenin Syria, yna mae'n ymddangos fel ffordd o hybu'r genedl i ymateb i'r gorthrwm hwn drwy ffyddlondeb i Dduw, yn saff yn y wybodaeth fod ymerodraethau'n dod ac ymerodraethau'n mynd.

Nid amserlen diwedd y byd, gyda'r tren yn stopio ym Mrwsel a Jeriwsalem ydyw, ond rhywbeth fel "Paradwys", sy'n defnyddio cyfnod penodol mewn hanes fel dull o drafod materion cyfoes (yn y llyfr hwnnw, defnyddio dadlau'r 18fed ganrif dros gaethweisiaeth i drafod effaith y farchnad gyfalafol ar bobl dlotaf ein cyfnod ni).

Reit, mae hwn yn mynd yn ry hir a braidd yn boring. Mi adawai pethau fan yna am y tro.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron