Dwi wedi bod yn dallen y ddadl yma, a dwi di bod yn meddwl lot cyn hyn yn ddiweddar am natur crefydd.
So dyma sut y gwela i hi, sy' falle dim i neud efo'r ddadl bresennol...!
Dwi di rhw fath o ddod i ddeall taw ymateb dyn yn ei feddwl ei hun i'r esblygiad o ymwybyddaeth cyntefig am y
ffaith y bydd bob bod dynol yn marw ydi pob math o grefydd yn y bon.
Rhyw ffordd o gael cysur meddyliol ydi o i gyd, sydd wedi esblygu lle mae bywyd galetaf - fel y gwelwch mai ar awr dywyll y try rhai at ffydd. Mae o wedi esblygu yn rhywbeth mwy erbyn hyn - ond i ddechrau, trio perswadio eu hunain bod RHESWM barhau byw er y sicrwydd o farw oeddo. A dyna pam allai'm rhoi ffydd mewn crefydd yn anffodus, achos cread meddyliau dynion (ie,
dynion, organised religion monotheistaidd yw'r jacboot fwya gafodd menywod y gwledydd yma rioed) ydi o i gyd.
Eniwe, sori am darfu, ond dyna be dwidi dod i feddwl. Carry on
I'm Brian Fantana.