Cymedrolwr: Rhys Llwyd
Dylan a ddywedodd:ac er mwyn achub y blaen (dw i'n rhagweld ble ti am fynd efo hwn), dw i ddim yn credu bod modd i rhywun dan 16 gydsynio.
Felly o gofio bod hawl i ddau berson wneud unrhyw beth y dymunent cyn belled bod dim niwed yn cael ei achosi i neb, anodd gen i beidio'i ganiatáu.
rooney a ddywedodd:pam? beth os yw eu cyrff yn barod am gyfathrach rywiol- pam ti'n stopio nhw briodi? ar ba sail?
beth os yw dyn eisiau priodi merch 14 oed?
beth os yw 2 deulu moslem am drefnu priodas rhwng eu plant?
beth os yw person eisiau priodi mwnci?
beth os yw person eisiau priodi ei daid neu nain?
ayyb.
byddai cymdeithas o'r fath yn lanast llwyr
beth yw dy sail am ymwrthod ac unrhyw briodas, gan does gen ti ddim definition o briodas, gall fod yn unrhywbeth i unrhywrai.
mae'n iawn cyn belled bod y cwpl hapus yn cydsynio (ac yn gallu cydsynio, wrth reswm)
rooney a ddywedodd:mae'n iawn cyn belled bod y cwpl hapus yn cydsynio (ac yn gallu cydsynio, wrth reswm)
ond beth os yw un o'r cwpl eisiau priodi rhywun arall hefyd? yw hynny'n briodas? yw hi'n iawn i un person fod yn briod gyda llawer o bobl?
rooney a ddywedodd: dwyt ti ddim wedi rhoi diffiniad o briodas i ni. Rwyf wedi cynnig diffiniad ac egluro'r sail dros y diffiniad, ac egluro'r awdurdod tu ol i'r diffiniad.
Dylan a ddywedodd:rooney a ddywedodd:mae'n iawn cyn belled bod y cwpl hapus yn cydsynio (ac yn gallu cydsynio, wrth reswm)
ond beth os yw un o'r cwpl eisiau priodi rhywun arall hefyd? yw hynny'n briodas? yw hi'n iawn i un person fod yn briod gyda llawer o bobl?
os ydi pawb yn cydsynio (yn bersonol fedra i ddim deall pam fasa rhywun yn, ond dyna ni), pam lai?
rwan ateba'r cwestiwn :*)
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 27 gwestai