Pryd ddaw'r byd i ben?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Rhysjj » Gwe 09 Tach 2007 10:28 pm

Ddwedwn i ddim hynny, Mr Iwanynyglaw - edrych yn eitha diddorol i fi. Gobeithio bod dy law di'n gwella.

Y cyswllt dwi'n arfer ei roi i bobl sy'n gofyn am yr awr a'r dydd pan ddaw diwedd y byd yw <A HREF="http://en.wikipedia.org/wiki/Eschatology_of_Jehovah%27s_Witnesses#History_of_eschatology">hwn.</A> Gwir nad yw Tystion Jehovah yn cael eu hystyried yn rhan o brif ffrwd Cristnogaeth (na'n ystyried eu hunain yn rhan o brif ffrwd Cristnogaeth chwaith). Ond mae'n ddiddorol iawn gweld sut mae grwpiau o'r fath wedi newid (gorfod newid) eu cred am ddiwedd y byd dros y blynyddoedd.
Rhysjj
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 58
Ymunwyd: Llun 22 Maw 2004 1:34 am
Lleoliad: Y De a'r Gogledd

Postiogan rooney » Sad 10 Tach 2007 6:18 pm

Dafydd Iwanynyglaw a ddywedodd:Mae yna nifer o ffactorau i'w cysidro wrth ddod at y llyfrau yn y Beibl megis Datguddiad, Daniel a rhan olaf Sechareia.

Yn gyntaf, nid oraclau o'r dyfodol ydynt yn y bon. Ffyrdd ydynt - dulliau llenyddol, fel petai - o siarad am y pethau sy'n mynd ymlaen ym mhresenoldeb yr awdur. Fel y proffwydi - Eseia, Jeremeia, ac ati - dogfennau gwleidyddol-grefyddol cyfoes ydynt.


A beth am eiriau Iesu, roedd e'n proffwydo yr un pethau. Wyt ti ddim yn meddwl fydd Iesu'n dychwelyd? Wyt ti ddim yn credu fod Duw yn bwriadu creu daear a nefoedd newydd, difa Satan, barnu'r byd?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan rooney » Sad 10 Tach 2007 6:22 pm

nicdafis a ddywedodd:Wedi symud o'r seiat gwleidyddiaeth. Creuwyd y seiat hwn (Criw Duw) yn benodol er mwyn trafod pethau fel hyn, ac yn cadw y seiadau "Materion..." ar gyfer trafodaeth gwleidyddol go iawn.

Dw i'n gwybod na fydd rooney yn cytuno â'r penderfyniad, ac mae'n flin 'da fi am hynny, ond 'na fe. Gwefan breifat yw hon- os ti ddim yn lico'r ffordd dw i'n ei rhedeg, cer rhywle arall.


unwaith eto erthylu materion crefyddol o wleidyddiaeth y byd- nid yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr
anoddefgar iawn
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Dylan » Sad 10 Tach 2007 7:17 pm

wel ti'n llwyddo i ffitio dy grefydd i mewn i'r rhan fwya o drafodaethau gwleidyddol felly elli di ddim cwyno gormod

mae hwn ar y llaw arall yn drafodaeth grefyddol bur

yn y bôn, wela i ddim sut mae modd dal pen rheswm efo ti achos yr unig ffordd mae dy feddwl yn gallu gweithio ydi bod y Beibl yn wir achos bod y Beibl yn dweud bod y Beibl yn wir achos bod y Beibl yn dweud bod y Beibl yn wir ad infinitum
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Sad 10 Tach 2007 8:04 pm

Dylan a ddywedodd:yn y bôn, wela i ddim sut mae modd dal pen rheswm efo ti achos yr unig ffordd mae dy feddwl yn gallu gweithio ydi bod y Beibl yn wir achos bod y Beibl yn dweud bod y Beibl yn wir achos bod y Beibl yn dweud bod y Beibl yn wir ad infinitum


yna beth am drafod rheswm

wyt ti'n cyfaddef fod yna ddeddfau logic universal & immaterial yn y bydysawd?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Dylan » Sad 10 Tach 2007 8:20 pm

dydi'r cwestiwn yna ddim hyd yn oed yn gwneud synnwyr. Elli di drio eto?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Mer 14 Tach 2007 9:17 am

Dylan a ddywedodd:mae hwn ar y llaw arall yn drafodaeth grefyddol bur


Faswn ni ddim yn mynd mor bell a hynny, Dylan - yn ei hanfod, nid trafodaethau "grefyddol bur" yw unrhyw drafodaeth Gristnogol, ond trafodaeth ar sut y mae'r byd yn y bon - mae hynny'n cynnwys gwleidyddiaeth, cymdeithaseg, perthnasau personol ac ati. Os oes yna rywbeth yr ydw yn gytun a Rooney arno, y ffaith y dylai cyfanrwydd bywyd gael ei gysidro yn nghyd-destun yr hyn y mae person yn gredu am Dduw ydyw.

Rooney, fedri di roi esiampl pendant plis o'r fath o eiriau Iesu yr wyt eisiau i mi ymatab iddynt?
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Postiogan rooney » Sad 17 Tach 2007 2:32 pm

Dafydd Iwanynyglaw a ddywedodd:Rooney, fedri di roi esiampl pendant plis o'r fath o eiriau Iesu yr wyt eisiau i mi ymatab iddynt?


yr wyt yn honni mae nid oraclau yw Datguddiad
rwy'n gwneud y pwynt fod Iesu ei hun wedi siarad am ddiwedd y byd, a'r geiriau yma'n cydfynd gyda Daniel a Datguddiad
ac felly gellid ddim anwybyddu Datguddiad
cofio hefyd fod proffwydoliaethau i gyd yn cael eu gwireddu. Nid yw'r ffaith fod symboliaeth yn Datguddiad yn golygu fod y pethau yna ddim am ddigwydd. Mae Satan yn mynd i gael ei ddifa, Iesu am ddychwelyd a byd a daear newydd am gael ei greu- ti ddim yn credu hyn?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Llun 19 Tach 2007 11:25 am

Dwi'n deallt hynny, Rooney - gofyn wnes i i chdi roi esiampl of Iesu'n dweud y fath beth, e.e. adnod o Matt 25 neu Marc 13, i ni gael trafod y mater gyda thestun penodol dan sylw. Pa adnodau oedd gen ti mewn meddwl?
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Postiogan rooney » Sad 24 Tach 2007 9:01 pm

Dafydd Iwanynyglaw a ddywedodd:Dwi'n deallt hynny, Rooney - gofyn wnes i i chdi roi esiampl of Iesu'n dweud y fath beth, e.e. adnod o Matt 25 neu Marc 13, i ni gael trafod y mater gyda thestun penodol dan sylw. Pa adnodau oedd gen ti mewn meddwl?


edrych ar lincs fel hyn:
http://www.gracethrufaith.com/ikvot/the ... sus-part-1
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron