Dylan a ddywedodd:dw i'n meddwl mai dy brif broblem ydi nad wyt cweit yn deall pa mor anwreiddiol ydi'r Beibl. Mae'r motifau a'r themâu a geir ynddo yn gyffredin tu hwnt ym mhob traddodiad. Doedd y Beibl ddim yn beth mor newydd â hynny, dim ond datblygiad bach ar draddodiad a oedd eisoes yn un cyfoethog a hynafol. Jyst fel oedd Islam chydig yn ddiweddarach.
weithiau mae pobl yn canfod y gwir, ond hefyd weithiau ddim
mae angen rhywun gyda awdurdod i roi cleddyf rhwng y gwir a celwydd, i hollti'r ddau
pan yn cymysgu gwir a celwydd ti'n cael celwydd, fel pan ti'n cymysgu p*so a dwr pur ti'n cael rhywbeth sydd ddim yn neis i'w yfed
Mathew 10:34
"Peidiwch a meddwl mai i ddwyn heddwch i'r ddaear y deuthum; nid i ddwyn heddwch y deuthum ond cleddyf"
y cleddyf yma yw'r cleddyf yr Ysbryd (Ephesians 6:17)
cleddyf i wahanu da o ddrwg, gwir o gelwydd, glan o'r budr, sanctaidd o'r ansanctaidd etc.
un o'r rhesymau mae anffyddwyr ddim yn hoff o'r ysgrythurau yw am fod y gair yn rhoi llinell bendant ar faterion. Mae'r "byd" a ni fel pobl bechadurus wastad eisiau rebelio yn erbyn y llinellau yma sydd wedi eu marcio gyda cleddyf gan yr un gyda awdurdod.