Pryd ddaw'r byd i ben?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dylan » Sul 04 Tach 2007 6:53 pm

mae llosgach rhwng oedolion yn gyfreithlon yn Ffrainc ers dyddiau Napoleon, fel mae'n digwydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Sul 04 Tach 2007 7:28 pm

Dylan a ddywedodd:ac er mwyn achub y blaen (dw i'n rhagweld ble ti am fynd efo hwn), dw i ddim yn credu bod modd i rhywun dan 16 gydsynio.


pam? beth os yw eu cyrff yn barod am gyfathrach rywiol- pam ti'n stopio nhw briodi? ar ba sail?
beth os yw dyn eisiau priodi merch 14 oed?
beth os yw 2 deulu moslem am drefnu priodas rhwng eu plant?
beth os yw person eisiau priodi mwnci?
beth os yw person eisiau priodi ei daid neu nain?
ayyb.

Felly o gofio bod hawl i ddau berson wneud unrhyw beth y dymunent cyn belled bod dim niwed yn cael ei achosi i neb, anodd gen i beidio'i ganiatáu.

byddai cymdeithas o'r fath yn lanast llwyr

beth yw dy sail am ymwrthod ac unrhyw briodas, gan does gen ti ddim diffiniad o briodas, gall fod yn unrhywbeth i unrhywrai. Yn wir, pam ddylai fod priodas o gwbl mewn cymdeithas yn cael ei ganiatau?

Mae'r Beibl yn dysgu mae priodas yw un dyn ac un dynes tan farwolaeth. Unrhywbeth arall ddim yn briodas. Syml, effeithiol, synhwyrol, a'r holl ymchwil yn dangos dyma'r uned deuluol orau ar gyfer magu plant. Mae'r diffiniad yma gyda awdurdod o'r nefoedd, ac yn gweithio mewn cymdeithas. If it ain't broke, don't fix it?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Dylan » Sul 04 Tach 2007 7:53 pm

rooney a ddywedodd:pam? beth os yw eu cyrff yn barod am gyfathrach rywiol- pam ti'n stopio nhw briodi? ar ba sail?


Achos plant ydyn nhw yn llygaid y gyfraith. Hynny ydi, dydyn nhw ddim yn ddigon hen nac emosiynol aeddfed i wneud y penderfyniad. Fel on i'n dweud, mympwy i raddau achos mae plant iau na 16 sydd yn a phobl dros 16 sydd ddim, ond mae system gyfreithiol angen ffin bendant ac 16 ydi'r gorau fedra i feddwl amdano.

beth os yw dyn eisiau priodi merch 14 oed?


gweler uchod

beth os yw 2 deulu moslem am drefnu priodas rhwng eu plant?


erm, gweler uchod? Nid penderfyniad y rhieni ydi o beth bynnag.

beth os yw person eisiau priodi mwnci?


Fasa gan y mwnci ddewis yn y peth? Wel na. Mae cytundeb felna'n hurt, wrth reswm.

beth os yw person eisiau priodi ei daid neu nain?
ayyb.


beth os? Pam lai?

ayyb? Be? Does dim o'r senarios yma'n achosi problem i'r hyn ddywedais yn flaenorol, sef ei fod yn iawn cyn belled bod y cwpl hapus yn cydsynio (ac yn gallu cydsynio, wrth reswm)

byddai cymdeithas o'r fath yn lanast llwyr

beth yw dy sail am ymwrthod ac unrhyw briodas, gan does gen ti ddim definition o briodas, gall fod yn unrhywbeth i unrhywrai.


dw i di'i esbonio droeon. Dyma fo eto, rhag ofn (mewn crayon!): mae'n iawn cyn belled bod y cwpl hapus yn cydsynio (ac yn gallu cydsynio, wrth reswm)

ok, dyna'r mater syrffedus yna drosodd. Wyt ti'n theocrat? Pam lai? Ti i weld yn ymhyfrydu yn dy safbwyntiau, felly pam ddim cofleidio'r term sy'n diffinio dy ddelfryd?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Sul 04 Tach 2007 8:07 pm

mae'n iawn cyn belled bod y cwpl hapus yn cydsynio (ac yn gallu cydsynio, wrth reswm)


ond beth os yw un o'r cwpl eisiau priodi rhywun arall hefyd? yw hynny'n briodas? yw hi'n iawn i un person fod yn briod gyda llawer o bobl?

dwyt ti ddim wedi rhoi diffiniad o briodas i ni. Rwyf wedi cynnig diffiniad ac egluro'r sail dros y diffiniad, ac egluro'r awdurdod tu ol i'r diffiniad.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Dylan » Sul 04 Tach 2007 8:23 pm

rooney a ddywedodd:
mae'n iawn cyn belled bod y cwpl hapus yn cydsynio (ac yn gallu cydsynio, wrth reswm)


ond beth os yw un o'r cwpl eisiau priodi rhywun arall hefyd? yw hynny'n briodas? yw hi'n iawn i un person fod yn briod gyda llawer o bobl?


os ydi pawb yn cydsynio (yn bersonol fedra i ddim deall pam fasa rhywun yn, ond dyna ni), pam lai?

rwan ateba'r cwestiwn :*)
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Sul 04 Tach 2007 8:27 pm

rooney a ddywedodd: dwyt ti ddim wedi rhoi diffiniad o briodas i ni. Rwyf wedi cynnig diffiniad ac egluro'r sail dros y diffiniad, ac egluro'r awdurdod tu ol i'r diffiniad.


be sy'n bod ar "gytundeb ffurfiol rhwng pobl sy'n cydsynio i briodi"? A bod yn gwbl onest, dw i ddim yn deall yr obsesiwn am y pwynt yma. Dw i'n credu bod perthynas sefydlog rhwng pobl sy'n caru'i gilydd yn beth hyfryd a gwych. Beth mwy sydd yna i'w ddweud mewn gwirionedd?

ateba'r cwestiwn. Pam y cywilydd? Dw i wirioneddol ddim yn deall. On i'n meddwl bod ti'n ymhyfrydu yn y syniadau 'ma.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Sul 04 Tach 2007 8:32 pm

Dylan a ddywedodd:
rooney a ddywedodd:
mae'n iawn cyn belled bod y cwpl hapus yn cydsynio (ac yn gallu cydsynio, wrth reswm)


ond beth os yw un o'r cwpl eisiau priodi rhywun arall hefyd? yw hynny'n briodas? yw hi'n iawn i un person fod yn briod gyda llawer o bobl?


os ydi pawb yn cydsynio (yn bersonol fedra i ddim deall pam fasa rhywun yn, ond dyna ni), pam lai?

rwan ateba'r cwestiwn :*)


pwy yn union sydd yn penderfynnu fod rhaid i bawb gydsynio, neu yn wir pwy sydd fod penderfynu beth yw'r diffiniad o briodas yn y lle cyntaf? (dal dim diffiniad wedi ei gynnig gen ti)
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Dylan » Sul 04 Tach 2007 8:38 pm

ateba'r cwestiwn mewn difri

ti'n mynnu tynnu sylw trwy baldaruo am fân bethau. Fe ddown at rheiny yn y man ar ôl i ni glirio fyny un pwynt allweddol. Wyt ti'n hapus i gael dy alw'n Theocrat? Neu Theocrat Cristnogol neu Cristocrat, os oes hynny'n well gen ti. Sef gwladwriaeth wedi'i seilio ar ddogma Cristnogol. Os ddim, pam ddim?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Sul 04 Tach 2007 11:12 pm

Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Positif80 » Llun 05 Tach 2007 12:19 am

Oes son yn y Beibl am y Rapture? Dwi'm yn siwr. Dwi, fel anffyddiwr, am losgi yn yr uffern beth bynnag dwi'n gwneud os yw rheolau duw Rooney ac eraill yn gywir felly pam ddyliwn i boenu os yw diwedd y byd yn dod yfory neu mewn canrif?
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron