Pryd ddaw'r byd i ben?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Iau 29 Tach 2007 4:56 pm

Diolch am y cyswllt, Rooney - mi wna i drio gwneud amser i edrych arno'n fanylach. Oes gen ti syniadau dy hun ar y testun yn Matthew 25?
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Postiogan rooney » Sad 01 Rhag 2007 7:32 pm

Llefenni a ddywedodd:Pam bod angen priodoli rheswm iddo? Cysyniad dynol ydi rheswm, does na ddim rhaid i unhywbeth rili nagoes?

Fel gofyn "be di rheswm/ystyr bywyd?" does dim rhaid bod ystyr iddo oes 'na?


mwy o ddadleuon Dawkinaidd... (bored o'r rhain)
dyna freuddwyd yr anffyddwyr, fod popeth yn bodoli am ddim rheswm gyda dim ystyr o gwbl
ond os oes dim ystyr i fodloleath y bydysawd, yna does dim ystyr na phwrpas i'r unbeth o fewn y bydysawd, sydd yn cynnwys... ti a fi. Oes pwrpas ac ystyr i ti? Os felly, sut for pwrpas ac ystyr i ti ac ddim i'r bydysawd? safbwynt anghyson iawn.

Os oes ystyr, pwrpas a rhesymeg o fewn y bydysawd yna siawns fod ystyr a rhesymeg tu ol i fodolaeth y bydysawd yn y lle cyntaf. Pam fyddai yna fydysawd yn bodoli o gwbl, yn cynnwys deddfau logic, mater, deddfau Ffiseg, bywyd... mae'n cymryd ffydd dall enfawr i gredu fod dim rheswm ac achos tu ol i'r holl fodolaeth.

Mae gofyn "pam fod rhaid fod ystyr" yn diversion o'r ffaith fod gen yr anffyddwyr ddim syniad o gwbl, dim hyd yn oed cynnig am eglurhad pam fod popeth yn bodoli yn y lle cyntaf.

O ran rheswm yn gysyniad dynol- anghytunaf. Mae deddfau logic universal & immaterial yn bodoli yn y bydysawd. Heb rhain, sut gall dyn gael trafodaeth rhesymegol? Pe byddai rheswm yn gysyniad dynol byddai syniadau gwahanol am reswm mewn diwyllianau gwahanol ar draws y byd- ac felly fyddai dau berson o ddau diwylliant gwahanol methu cynnal deialog wedi ei seilio ar reswm gan fod nhw gyda syniadau gwahanol am beth sy'n resymol a beth sydd dim.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Mer 02 Ion 2008 10:34 am

Dwi wedi cael siawns i edrych ar dy gyswllt Rooney, a chyn hyd yn oed dechrau sylwi ar bethau penodol, mae gen i gwestiwn mawr iawn.

Cyn i mi ei ofyn, rhaid deallt un peth - dydw i ddim yn gwadu o gwbl fod yna rannau o'r Testament Newydd yn son am ail-ddyfodiad Crist (e.e. Actau 1.8, y llythyrau at y Thessaloniaid, 1 Ioan ac ati). Roedd y gred honno yn amlwg yn ran o ddysgeidiaeth rhai o'r Apostolion.

Ond fy nghwestiwn i yw hyn - pa dystiolaeth sydd yna mai am ei ail ddyfodiad y mae Iesu yn siarad amdano yn Matt 24-25, Marc 13-14 a Luc 21-22? Mae'n amlwg o destun Matthew fod y pethau hyn i ddigwydd o fewn y genhedlaeth bresennol i Iesu - mae Efengylwr amlwg fel Tom Wright yn gwneud y pwynt hwnnw. (Mi ddylet ddarllen cyfieithiadau/esboniadau Wright ar y Testament Newydd - Matthew for Everyone, ac ati - oherwydd dwi'n meddwl y buaset yn eu cael yn ddiddorol a buddiol).

Dwi'n gwbod fod yna draddodiad o ddefnyddio'r rhannau fel hyn mewn cylchoedd Protestannaid/Ffwndamentalaidd, ond dydw i erioed wedi cael fy mherswadio fod y defnydd hynny'n hollol gywir.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Postiogan Positif80 » Mer 02 Ion 2008 6:33 pm

Dw i'n gobeithio mynd i'r uffern a chymryd drosodd. Mae'n swnio fel gymaint o laff lawr fanna. 'Swn i'n gwneud pwynt diddorol a pherthnasol ond dw i wedi blino'n lan.
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan rooney » Iau 03 Ion 2008 1:41 am

bydd ofalus beth ti'n gobeithio amdano
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Foel Gornach » Iau 10 Ion 2008 9:18 pm

Mathew 24:36 - Ond am y dydd hwnnw a’r awr ni ŵyr neb, nac angylion y nef, na’r Mab, neb ond y Tad yn unig.


Pam na all y sawl sy'n honni eu bod yn dilyn Iesu gymryd ei eiriau o ddifrif?

Does neb yn gwybod pryd ddaw diwedd y byd, gall ddigwydd yfory neu mewn can miliwn o flynyddoedd.

Ein cyfrifoldeb ni yw cydweithio ag ef i achub y byd hwn nid edrych ymlaen at y cyfle i ffoi - "yr hwn a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll", meddai Iesu ei hun.
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

Postiogan Defi » Gwe 11 Ion 2008 8:34 am

Positif80 a ddywedodd:Dw i'n gobeithio mynd i'r uffern a chymryd drosodd. Mae'n swnio fel gymaint o laff lawr fanna. '


Cofiwch, - 'does dim angrhedinwyr i'w cael yn uffern. Mae PAWB yn credu yno. Rhy hwyr! Rhy hwyr! - - Lewis Probert, yn un o'i bregethau.
Defi wyf i, o Drefernar - yn dysgu Cymraeg ac yn ymweld a gwefannau diddorol. Fy niddordebau yw hanes Cymru a'i llenyddiaeth.
Defi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 80
Ymunwyd: Maw 21 Meh 2005 8:58 pm
Lleoliad: Trefernar

Postiogan Dylan » Gwe 11 Ion 2008 3:20 pm

ydi hwnna i fod yn profound? :?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Iau 17 Ion 2008 9:43 am

Ar ol ymchwiliadau hir a thrylwyr*, rwyf wedi cael datguddiad gan Dduw am ddiwedd y byd - neu, o leiaf mae rhywun arall wedi cael datgeliad gan Dduw am ddiwedd y byd, ac yr wyf innau yn awr yn ei ddatgelu i chwi.

http://the-end.com/2008GodsFinalWitness/?gclid=COaEvpf8_JACFQgwlAodLC0-sw

Byddo bendith Duw ar y darllen a'r gwrando.

Sgiwswch fi - rhaid i mi chwilio am fy nghopi o'r Protect & Survive Manual.



* sef dod o hyd i linc yn hollol random ar yr Intyrweb.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Postiogan ceribethlem » Iau 17 Ion 2008 10:46 am

Dafydd Iwanynyglaw a ddywedodd:Ar ol ymchwiliadau hir a thrylwyr*, rwyf wedi cael datguddiad gan Dduw am ddiwedd y byd - neu, o leiaf mae rhywun arall wedi cael datgeliad gan Dduw am ddiwedd y byd, ac yr wyf innau yn awr yn ei ddatgelu i chwi.

http://the-end.com/2008GodsFinalWitness/?gclid=COaEvpf8_JACFQgwlAodLC0-sw

Byddo bendith Duw ar y darllen a'r gwrando.

Sgiwswch fi - rhaid i mi chwilio am fy nghopi o'r Protect & Survive Manual.



* sef dod o hyd i linc yn hollol random ar yr Intyrweb.

Epic, ti'n gallu archebu'r llyfr am ddim.

Woo hoo. Byddai gallu dadlau ar yr lefel a rooney o fewn mis!
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron