A ddylid dysgu Addysg Grefyddol mewn ysgolion?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A ddylid dysgu Addysg Grefyddol mewn ysgolion?

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 20 Tach 2007 11:28 am

Cefais gais gan fy mab deuddeg oed am gymorth gyda'i gwaith cartref Addysg Grefyddol. Mae o wedi bod yn astudio Y Deg Gorchymyn Iddewig / Gristionogol.

Yn ôl ei daflen gwaith ystyr y cyntaf o'r gorchmynion yw Parcha dy dduw a duwiau pobl eraill

Cytno neu beidio NID dyna'r gorchymyn cyntaf o'r ddeg yn y Beibl, yr orchymyn yw Na chymer Duwiau eraill ar wahân i mi h.y. na ddylid rhoi parch i dduwiau pobl eraill o gwbl! Dweud sy'n gwbl groes i ffug orchymyn "PC" y dosbarth.

Mae dysgu bod y ffydd Gristionogol yn oddefgar i grefyddau eraill yn anghywir. Myfi yw'r ffordd a'r gwirionedd a'r bywyd. Nid yw neb yn dod at y tad ond trwof fi medd yr Iesu. Does neb yn dod at y Tad trwy'r Bwda, trwy Fohammed, trwy aml dduwiau'r India na thrwy unrhyw ddysgeidiaeth arall ond dysgeidiaeth Crist.

Gelli'r dadlau bod dweud y fath beth yn annerbyniol yn y byd aml diwylliannol oddefgar yr hoffem fyw ynddi. Ond y gwirionedd yw bod y Grefydd Gristionogol yn grefydd ecscliwsif sydd yn dweud yn ddi-flewyn ar dafod cei dy gadw o'i dderbyn neud dy golli o'i gwrthod. Ffug addysg yw ceisio dysgu am Gristionogaeth heb dderbyn y ffaith ddiymwad yma. Dysgu celwydd noeth yw dysgu bod y deg gorchymyn Beiblaidd yn dweud dylid parchu duwiau eraill.

Os ydy'r ffydd Gristionogol yn cael ei neis-neisio er mwyn ffug addysg, mae'n debyg bod yr hyn a ddysgir i'r plant am grefyddau amgen wedi mynd trwy'r un felin ac mae celwydd neis yw'r hyn a dysgir amdanynt hwythau hefyd.

Os mae celwydd sy'n mynd yn groes i'r ffeithiau sy'n cael eu dysgu mewn gwersi Addysg Grefyddol, a oes diben i'r gwersi?

Mae gwybod am grefyddau yn gallu bod o gymorth i ddeall celfyddyd, llenyddiaeth a hanes ond heb wybod y gwir am y crefyddau nid oes cymorth i ddeall dim. Os na ellir rhoi gwersi Addysg Grefyddol gignoeth gywir i'n blantos am resymau gwleidyddol, onid gwell byddid rhoi gorau i'w dysgu yn llwyr?
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan rooney » Sad 24 Tach 2007 8:24 pm

Amen!
yr wyt yn gwbl gywir

Os na ellir rhoi gwersi Addysg Grefyddol gignoeth gywir i'n blantos am resymau gwleidyddol, onid gwell byddid rhoi gorau i'w dysgu yn llwyr?


Beth sydd angen yw dysgu Cristnogaeth i bawb yn gywir. Mae angen i bawb ddeall Cristnogaeth, geith nhw benderfynu pan mae nhw'n oedolion os yw nhw am ei ddilyn neu beidio. Gall pobl ddysgu crefyddau eraill mewn addysg grefyddol, opsiynol.

Cynghoraf ti i gysylltu a'r ysgol i gwyno, ac efallai tynnu sylw hyn at bobl o'r eglwysi/capeli lleol. Rwyf wedi teimlo ers peth amser fod yr agenda gwleidyddol gywir gyda undercurrent gwrth-Gristnogol, ac mae'r hanes yr wyt yn rhannu yn cadarnhau hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 26 Tach 2007 10:10 am

Os ydy Cristnogaeth (ac Iddeiaeth o ran hynny) yn cael ei gam-ddysgu yn y fath ffordd yna mae angen cyfeirio cwynion at yr athrawes/athro, ysgol a poblach y cwricilwm cenedlaethol yn sicr. Hanfod Cristnogaeth yw mae Iesu yw'r unig ffordd!

Wedi dweud hynny dwi'n meddwl fod gwersi Addysg Grefyddol yn bwysig - fel dwi wedi dweud o'r blaen gall bobl o ffydd, pa bynnag ffydd, ganfod tir cyffredin i weithio ar rhai materion - gras cyffredin a ballu. Ond yn sicr maen gonsyrn fod athrawon Add. Gref. yn cam ddefnyddio'r gwersi i badlera rhyw syniadau PC sydd ddim yn rhan o'r union grefydd y maen nhw fod dysgu amdani. Yr ateb syml i broblemau o'r fath yw i ysgolion wahodd arweinwyr Crefyddol i mewn bob un yn eu tro i esbonio drostynt nhw eu hunain i'r disgyblion beth maen nhw'n credu - fel yna bydd plant yn gallu dysgu o lygad y ffynon ac nid yn cael rhyw scewd slant gan yr athro. Mae Penweddig yn Aberystwyth yn gneud hyn... dwi'n meddwl iddyn nhw gael eu bendithio gan ymweliad gan y 'Pab Annibynol', Yr Athro Euros Wyn-Jones, yn ddiweddar 8)
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Boibrychan » Llun 26 Tach 2007 1:46 pm

Ie cytuno dysgu y gwir noeth sydd eisiau. Gyda lwc fydd rhanfwyaf y plant yn gweld y broblem fod pob crefydd yn ecscliwsif ac yn erbyn y byd amlddiwyllianol yr ydym yn byw mewn.

Serch dweud ni mae cristnogaeth yn dipyn fwy "tolerant" o grefyddau eraill, wel yn gyhoeddus tabeth!
Rhithffurf defnyddiwr
Boibrychan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 252
Ymunwyd: Iau 01 Maw 2007 7:23 pm
Lleoliad: Byrmingham

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 27 Tach 2007 1:54 am

Mae Rooney a Rhys Llwyd yn awgrymu cysylltu â'r ysgol i gwyno. Pe bawn yn credu mai problem un ysgol neu un athro oedd y modd y mae addysg grefyddol yn cael ei ddysgu, dyma'n union be fyddwn wedi ei wneud.

Yn anffodus rwy'n credu bod y broblem yn un sy'n gyffredin i holl ysgolion Cymru a Lloegr, dyna pam fy mod wedi mynegi cwyn cyffredinol ar y Maes yn hytrach na chwyno am un athro i un ysgol.

Yn hanesyddol roedd addysg yn estyniad o waith yr Eglwys Gristionogol, pwrpas y gwersi addysg grefyddol oedd dysgu plentyn am rinweddau'r ffydd Gristionogol a'i fagu i fyw bywyd fel Cristion da mewn gwlad Gristionogol. O herwydd y traddodiad yma mae mwy i Addysg Grefyddol na dysgu "ffeithiau am grefydd". Mae Addysg grefyddol yn dysgu moesau, mae'n dysgu dyletswydd gymdeithasol, mae'n dysgu parch at eraill, mae'n dysgu hanfodion dinasyddiaeth.

Yn y gymdeithas seciwlar yr ydym yn byw ynddi, barn wleidyddol, nid barn grefyddol, sy'n pennu pa beth yw da a pha beth yw drwg. Barn wleidyddol sy'n diffinio dyletswydd gymdeithasol a dyletswydd ddinasyddol.

Y broblem yw, mae yn y gwersi Addysg Grefyddol mae'r moesau seciwlar yma yn cael eu dysgu o hyd, ac mae barn unigryw pob crefydd yn cael ei wyrdroi er mwyn cydsynio a'r farn ffwndamentalaidd seciwlar o'r herwydd.

Y canlyniad yw dysgu celwydd am bob crefydd ond y grefydd seciwlar.

Ffug dysgu bod yr agwedd Gristionogol, yr agwedd Fwslimaidd ac ati tuag at ffydd yn gyd fynd ag agwedd "PC" y ffwndamentalwyr seciwlar eithafol.

Ffug dysgu celwydd seciwlar o dan orchudd Addysg Grefyddol!
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Mr Gasyth » Maw 27 Tach 2007 9:04 am

Be am gael gwared ar y gwersi addysg grefyddol a chael gwersi dinasyddiaeth yn eu lle?

Gellid dysgu am grefyddau efo ffenomenau cymdeithasol eraill yn y gwersi hanes
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 27 Tach 2007 9:28 am

Mr Gasyth a ddywedodd:Be am gael gwared ar y gwersi addysg grefyddol a chael gwersi dinasyddiaeth yn eu lle?

Gellid dysgu am grefyddau efo ffenomenau cymdeithasol eraill yn y gwersi hanes


Hwna yn syniad diddorol allasai weithio. Er mod i'n gristion o argyhoeddiad dwi ddim yn bothered fod Cristnogaeth yn cael ei ollwng o'r cwricilwm oherwydd mod i'n credu mae rôl yr eglwys rhagor na rôl yr ysgol wladol ydy esbonio Cristnogaeth - yn enwedig o gofio fod y Gristnogaeth sy'n cael ei bedlera mewn gwersi Add Gref yn anghyflawn ta beth.

Ym Mhenweddig, Aberystwyth roeddem ni'n cael un wers ABICH (Addysg Bersonol, Iechyd a Chymdeithasol) lle roeddem ni i bob pwrpas yn cael gwersi rhwng blwyddyn 7-9 ar iechyd a rhyw a ballu ac o blwyddyn 10-13 yn cael gwersi dinasyddiaetha chyfle i drafod dadleuon a tensiynau moesol fyddem ni yn ei cyfarfod mewn bywyd. Roedd llawer o'm cyd-ddisgyblion yn casau y gwersi yma am ddau erswm i.) nid oedd yn cael ei asesu felly doedde nhw ddim yn cael unrhyw fath o radd a ii.) roedd trwch y bobl ifanc yn apathetic a dim diddordeb trafod pethau fel moeseg. Ond yn bersonol roeddw ni'n cael y gwersi yma yn tu hwnt o ddiddorol a defnyddiol - rhaid mi ddeud mae yn y gwersi yma y des i yn fwy eangfrydig fy ngolwg ar bethau (ia dwi'n gwbod, ond dylia chdi di gweld ym marn i ar bethau pan o ni rhyw 16 mlwydd oed!!!)

Ond ddim yn siwr am ollwng Add Gref fel pwnc adademaidd - mae iddo le ond iddo gael ei drin fel pwnc empiraidd, hynny yw edrych ar y dystiolaeth a chyflwyno hwnnw i'r disgyblion heb roi spin a phwysau moesegol arno.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan ceribethlem » Maw 27 Tach 2007 10:50 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae Rooney a Rhys Llwyd yn awgrymu cysylltu â'r ysgol i gwyno. Pe bawn yn credu mai problem un ysgol neu un athro oedd y modd y mae addysg grefyddol yn cael ei ddysgu, dyma'n union be fyddwn wedi ei wneud.

Yn anffodus rwy'n credu bod y broblem yn un sy'n gyffredin i holl ysgolion Cymru a Lloegr, dyna pam fy mod wedi mynegi cwyn cyffredinol ar y Maes yn hytrach na chwyno am un athro i un ysgol.
Bydden i'n tybio fod y ddau bwynt yma'n gysylltiedig, ac mae'r rheswm fod athrawon addysg grefyddol yn cyflwyno'r pynciau yn y modd yr ydynt yn eu gwneud yw oherwydd mai dyna gofynion y cwricwlwm. Yn hynny o beth y Cwricwlwm Cenedlaethol sydd ar fai.
Efallai byddai'n syniad i gysylltu gyda'r ysgol i ofyn am gopi o'r syllabus ar gyfer y cwrs maent yn ei addysgu.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan rooney » Sad 01 Rhag 2007 7:23 pm

Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae Rooney a Rhys Llwyd yn awgrymu cysylltu â'r ysgol i gwyno. Pe bawn yn credu mai problem un ysgol neu un athro oedd y modd y mae addysg grefyddol yn cael ei ddysgu, dyma'n union be fyddwn wedi ei wneud.

Yn anffodus rwy'n credu bod y broblem yn un sy'n gyffredin i holl ysgolion Cymru a Lloegr, dyna pam fy mod wedi mynegi cwyn cyffredinol ar y Maes yn hytrach na chwyno am un athro i un ysgol.


Hen Rech Flin, rwy'n dy barchu am ddod a'r mater yma i sylw pobl maes-e, ond teimlaf fod angen agor llygaid mwy o bobl am y dysgu ffals yma. Wyt ti wedi cwyno i'r aelodau seneddol a cynulliad lleol am y mater yma? Yr eglwysi/capeli yng Nghymru? Os wyt ti eisiau cymorth, fe fyddwn yn hapus i helpu.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm


Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron