Cefais gais gan fy mab deuddeg oed am gymorth gyda'i gwaith cartref Addysg Grefyddol. Mae o wedi bod yn astudio Y Deg Gorchymyn Iddewig / Gristionogol.
Yn ôl ei daflen gwaith ystyr y cyntaf o'r gorchmynion yw Parcha dy dduw a duwiau pobl eraill
Cytno neu beidio NID dyna'r gorchymyn cyntaf o'r ddeg yn y Beibl, yr orchymyn yw Na chymer Duwiau eraill ar wahân i mi h.y. na ddylid rhoi parch i dduwiau pobl eraill o gwbl! Dweud sy'n gwbl groes i ffug orchymyn "PC" y dosbarth.
Mae dysgu bod y ffydd Gristionogol yn oddefgar i grefyddau eraill yn anghywir. Myfi yw'r ffordd a'r gwirionedd a'r bywyd. Nid yw neb yn dod at y tad ond trwof fi medd yr Iesu. Does neb yn dod at y Tad trwy'r Bwda, trwy Fohammed, trwy aml dduwiau'r India na thrwy unrhyw ddysgeidiaeth arall ond dysgeidiaeth Crist.
Gelli'r dadlau bod dweud y fath beth yn annerbyniol yn y byd aml diwylliannol oddefgar yr hoffem fyw ynddi. Ond y gwirionedd yw bod y Grefydd Gristionogol yn grefydd ecscliwsif sydd yn dweud yn ddi-flewyn ar dafod cei dy gadw o'i dderbyn neud dy golli o'i gwrthod. Ffug addysg yw ceisio dysgu am Gristionogaeth heb dderbyn y ffaith ddiymwad yma. Dysgu celwydd noeth yw dysgu bod y deg gorchymyn Beiblaidd yn dweud dylid parchu duwiau eraill.
Os ydy'r ffydd Gristionogol yn cael ei neis-neisio er mwyn ffug addysg, mae'n debyg bod yr hyn a ddysgir i'r plant am grefyddau amgen wedi mynd trwy'r un felin ac mae celwydd neis yw'r hyn a dysgir amdanynt hwythau hefyd.
Os mae celwydd sy'n mynd yn groes i'r ffeithiau sy'n cael eu dysgu mewn gwersi Addysg Grefyddol, a oes diben i'r gwersi?
Mae gwybod am grefyddau yn gallu bod o gymorth i ddeall celfyddyd, llenyddiaeth a hanes ond heb wybod y gwir am y crefyddau nid oes cymorth i ddeall dim. Os na ellir rhoi gwersi Addysg Grefyddol gignoeth gywir i'n blantos am resymau gwleidyddol, onid gwell byddid rhoi gorau i'w dysgu yn llwyr?