helo huw. maen nhw'n gwestiynau digon teg a rhai ma lot o bobl yn gofyn a mae'n ddealladwy gan fod lot o sylw wedi cael ei roi yn ddiweddar i'r "Efengylau Gnostic" ag ati ac wrth gwrs, mae'r apocrypha hefyd. Ma na nifer o gwestiynau yno ac er mod i'n bell o fod yn athrylith ar y pwnc, dwi wedi dysgu ychydig am ganon y Beibl felly falle fedra i fod o ryw gymorth, a nai ddelio a dy gwestiynau ar wahan ond falle ddim mewn trefn.
o ran y llyfrau sy'n cael eu cynnwys yn y Beibl:
dwi'n meddwl mod i'n digon diogel yn dweud fod cynnwys yr Hen Destament yn rywbeth a benderfynwyd arno/dderbyniwyd cyn i Iesu ddod. felly yn y Testament Newydd, ma na gyfeirio nol at ddarnau o'r Hen Destament - falle fod na bobl yn yr Efengylau yn darllen rhan ohono - e.e. Iesu yn darllen rhan o Eseia yn y synagog. A wedyn mewn nifer fawr o'r llythyrau yn y Testament Newydd, mae na gyfeirio at rannau o'r ysgrythurau. felly dwi ddim yn meddwl fod na ormod o broblem efo pa lyfrau sy'n cael eu derbyn yn yr Hen Destament, roedd hwnna yn rywbeth oedd wedi'i sefydlu, doedd llyfrau'r apocrypha ddim yn cael eu defnyddio os oedden nhw wedi cael eu hysgrifenu erbyn y cyfnod.
O ran y Testament Newydd - mae'n wir fod na gyngor wedi bod i benderfynu ar ganon y Beibl. ond mae hefyd yn wir nad oedd hwn yn fater dadl na phendroni - roedd hi mwy neu lai yn fater yr oedd pawb yn derbyn ac yn cytuno ynglyn a fo. ma na ysgrifau gan hanesyddion a diwinyddion o gyfnod cyn y cyngor yma yn dyfynnu rhannau o'r testament newydd. felly ma'r rhai sy'n cael eu derbyn yno achos dyna'r rhai sy o hyd wedi'u derbyn.
o ran y gwahaniaeth yn Genesis 1 a 2, os sylwi di, does dim son yn Genesis 1 am sut creodd Duw Adda ac Efa - h.y. dydi o ddim yn dweud naeth Duw eu creu o glai. Be welwn ni yn Genesis 1 a 2 ydi son am be ddigwyddodd ar chwe diwrnod y cread, wedyn yn Genesis 2 mae'r awdur yn 'zoomio' mewn i'r diwrnod yna i weld cread Adda ac Efa yn fwy manwl a 'dyn ni'n gweld Duw yn creu Adda o lwch y ddaear ac yna Efa o asen Adda felly dwi ddim yn meddwl fod hwnna'n ormod o broblem.
huwwaters a ddywedodd:Os yw gair Duw yn absoliwt, sut gall yr ysgrythyrau cael eu camddehongli fel bod capeli gwahanol yn bodoli, a mwy pwysig - protestaniaeth, pabyddiaeth, uniongrediaeth?
Dwi'n meddwl dy fod di wedi darganfod rhan o'r broblem efo'r gair "camddehongli" (ond nid y broblem cyfan h.y. nid dyna sy'n digwydd bob tro o reidrwydd).
Efo protestaniaeth, er enghraifft, yn y diwygiad, naeth pobl fel Martin Luther ddechrau edrych ar destun gwreiddiol y Beibl ar ol i gyfrol Erasmus gael ei gyhoeddi, a sylweddoli fod yna gamgyfieithiadau (di hwnna'n air?) a fod yr eglwys yn camddefnyddio a camddehongli'r Beibl a fe sylweddolodd pobl fel Luther fod traddodiadau ag ati yn derbyn yr un statws a chynnwys y Beibl heb unryw sail - felly naeth pobl adael yr eglwys rufeinig er mwyn cael eglwys a oedd yn edrych at y Beibl fel yr unig awdurdod ac i edrych at be oedd gwir neges y Beibl. felly dyna sy'n digwydd weithiau.
weithiau mae 'na grwpiau gwahanol oherwydd gwahaniaethau o ran dehongli'r Beibl - yn aml, mae'r grwpiau yn cytuno o ran prif ddysgeidiaeth y Beibl h.y. yr efengyl, ond yn anghytuno ar faterion eilradd ond sy dal yn effeithio sut mae'r eglwys yn cael ei redeg - materion fel sut ma llywodraethu eglwys, a ddylai bedyddio plant a.y.y.b.
huwwaters a ddywedodd:Pam fod y Beibl byth yn cael ei hystyried fel rhywbeth typological sef rhywbeth alegoraidd neu hyd yn analogaidd. Sef fod straeon yn cael eu defnyddio fel cynrychiolaeth o'r hyn sydd wedi digwydd?
dwi'n meddwl mai'r prif reswm am hyn ydi nad ydi o'n rhoi ei hun fel stori a chwedl a.y.y.b. pan welwn ni rannau o'r Beibl fel sy yn yr Hen Destament sy'n rhoi hanes pobl Duw y bwriad ydi i ddangos pethau i ni ynglyn a person a chymeriad Duw yn y modd mae'n delio a'i bobl - pe bai'r straeon yn chwedlau, bysai hwnna ddim wir yn dysgu lot i ni am Dduw - mae'r hanes a welwn yma yn dangos i ni rywbeth gwir. ma'r Beibl yn eitha clir lle dylid dehogli rhywbeth fel rhywbeth alegoraidd neu analogaidd e.e. gweledigaethau proffwydi, damhegion Iesu.
huwwaters a ddywedodd:Mae efengylwyr a phobol o enwadau fel pentecostaidd yn cymyd Y Beibl fel gair union Duw.
y rheswm am hyn ydi fod y Beibl yn honni iddo ddod oddi wrth Duw (2 Timotheus 3:16). mae na gytuno o ran be ydi'r Beibl ac yna, gan fod yr honiad yma, mae'n werth neud - ma Cristnogion yn bobl sy wedi edrych ar y Beibl a gweld ei fod yn wir, ac felly yn ddibynadwy.
Ti'n son fod credu'r Beibl yn un peth a bod yn Gristion yn beth arall - pan welwn ni'r adnod yna yn 2 Timotheus, mae'n dweud wrthyn ni am be mae'r Beibl yn ddefnyddiol. Mae'n ein dysgu ni - felly 'dyn ni'n gweld digwyddiadau ayyb a dysgu pethau ynglyn a chymeriad Duw ac yn fwy na dim am y gwaredigaeth sy'n cael ei gynnig i ni yn Iesu - y groes ydi canolbwynt mawr y Beibl - ma popeth yn y Beibl yn pwyntio at hwnna. Ma'r Beibl hefyd yn dangos i ni bethau yn ein bywyd na ddylai fod yno ac yn ein galw ni i dorri nhw allan - ar y lefel mwya syml, mae'n dangos fod ni'n bechaduriaid o flaen Duw ac yn annerbyniol iddo. Mae hefyd yn ein cywiro ni h.y. dweud wrthyn ni rhoi rhywbeth yn ein bywydau ni - felly nid yn unig ydi o'n galw ni i droi i ffwrdd o bechod ond i droi at Iesu a rhoi ein ffydd ynddo. Ac yna mae'n ein dysgu ni sut ma byw fel Cristion, fel plentyn i Dduw; mae'n ein dysgu ni be ma hi'n meddwl i fod yn Gristion.
Felly dwi'n meddwl y byddai hi'n anodd credu'r cyfan yna a peidio bod yn Gristion.
ond diolch am dy gwestiynau, mae di bod yn hwyl trio meddwl am y pethe yma. gobeithio fod hwnna'n weddol glir i ti.