Y Beibl

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Y Beibl

Postiogan huwwaters » Gwe 07 Rhag 2007 2:20 am

Cyn i bobol feddwl dwi yn erbyn crefydd, tydwi ddim, y person ydwi dwi'n cwestiynu a herio popeth. Dwi'n derbyn y Beibl fel ffynhonell defnyddio hanesyddol ond ma gynnai broblem efo fo.

Mae efengylwyr a phobol o enwadau fel pentecostaidd yn cymyd Y Beibl fel gair union Duw. Pam na dim ond rhai llyfre sy'n cael ei gynnwys ynddo. Dwi'n ymwybodol fod ne gyngor bach wedi penderfynu pa lyfrau sy'n cael ei gynnwys ynddo, ond os yw'r llyfrau yma yn gair Duw, onid ydynt i gyd mor pwysig a'i gilydd?

O ystyried fod 25% o ysgrythyrau Israelaidd ddim wedi eu cynnwys yn y Beibl yn ogystal a Sgroliau y Môr Marw, wrach gall lot cael ei hychwanegu at y Beibl fydd yn newid ei strwythyr yn fawr.

Be am Lilith, gwraig cyntaf Adda yn Genesis? Yn Genesis 1 mae Duw yn creu dyn a gwraig allan o glai. Yn Genesis 2, mae Duw yn creu dyn, a wedyn yn creu Efa allan o asen Adda. Mae hanes Lilith yn apothecra, ond eto yn cael ei gydnabod mewn sawl ffynhonell sy'n gysylltiedig gyda'r Iddewon, a rheiny mewn gwareiddiau eraill.

Os yw gair Duw yn absoliwt, sut gall yr ysgrythyrau cael eu camddehongli fel bod capeli gwahanol yn bodoli, a mwy pwysig - protestaniaeth, pabyddiaeth, uniongrediaeth?

Pam fod y Beibl byth yn cael ei hystyried fel rhywbeth typological sef rhywbeth alegoraidd neu hyd yn analogaidd. Sef fod straeon yn cael eu defnyddio fel cynrychiolaeth o'r hyn sydd wedi digwydd?

Os yw'r Beibl yn cael ei ystyried yn typological ene gall Lilith cael ei hystyried fel y Sarff yng ngardd Eden, a wedyn mae mwy o synwyr yn cael ei wneud pan fo'r "sarff" yn temptio Adda ac Efa.

Cyn i bobol ymosod arnaf, beth am gymyd bwyll i ateb cwestiynau digon teg ar rywbeth ffisegol heb dwad â dim byd ysbrydol fewn i'r peth. Mae cweilio'r Beibl yn un peth, ond tydio ddim yn dy wneud yn Gristion, nac yn hanner Iddew. Cristnogaeth yw derbyn Iesu Nasareth fel y Crist, nid credu'r Beibl.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan gethin_aj » Gwe 07 Rhag 2007 8:32 am

helo huw. maen nhw'n gwestiynau digon teg a rhai ma lot o bobl yn gofyn a mae'n ddealladwy gan fod lot o sylw wedi cael ei roi yn ddiweddar i'r "Efengylau Gnostic" ag ati ac wrth gwrs, mae'r apocrypha hefyd. Ma na nifer o gwestiynau yno ac er mod i'n bell o fod yn athrylith ar y pwnc, dwi wedi dysgu ychydig am ganon y Beibl felly falle fedra i fod o ryw gymorth, a nai ddelio a dy gwestiynau ar wahan ond falle ddim mewn trefn.
o ran y llyfrau sy'n cael eu cynnwys yn y Beibl:
dwi'n meddwl mod i'n digon diogel yn dweud fod cynnwys yr Hen Destament yn rywbeth a benderfynwyd arno/dderbyniwyd cyn i Iesu ddod. felly yn y Testament Newydd, ma na gyfeirio nol at ddarnau o'r Hen Destament - falle fod na bobl yn yr Efengylau yn darllen rhan ohono - e.e. Iesu yn darllen rhan o Eseia yn y synagog. A wedyn mewn nifer fawr o'r llythyrau yn y Testament Newydd, mae na gyfeirio at rannau o'r ysgrythurau. felly dwi ddim yn meddwl fod na ormod o broblem efo pa lyfrau sy'n cael eu derbyn yn yr Hen Destament, roedd hwnna yn rywbeth oedd wedi'i sefydlu, doedd llyfrau'r apocrypha ddim yn cael eu defnyddio os oedden nhw wedi cael eu hysgrifenu erbyn y cyfnod.

O ran y Testament Newydd - mae'n wir fod na gyngor wedi bod i benderfynu ar ganon y Beibl. ond mae hefyd yn wir nad oedd hwn yn fater dadl na phendroni - roedd hi mwy neu lai yn fater yr oedd pawb yn derbyn ac yn cytuno ynglyn a fo. ma na ysgrifau gan hanesyddion a diwinyddion o gyfnod cyn y cyngor yma yn dyfynnu rhannau o'r testament newydd. felly ma'r rhai sy'n cael eu derbyn yno achos dyna'r rhai sy o hyd wedi'u derbyn.

o ran y gwahaniaeth yn Genesis 1 a 2, os sylwi di, does dim son yn Genesis 1 am sut creodd Duw Adda ac Efa - h.y. dydi o ddim yn dweud naeth Duw eu creu o glai. Be welwn ni yn Genesis 1 a 2 ydi son am be ddigwyddodd ar chwe diwrnod y cread, wedyn yn Genesis 2 mae'r awdur yn 'zoomio' mewn i'r diwrnod yna i weld cread Adda ac Efa yn fwy manwl a 'dyn ni'n gweld Duw yn creu Adda o lwch y ddaear ac yna Efa o asen Adda felly dwi ddim yn meddwl fod hwnna'n ormod o broblem.

huwwaters a ddywedodd:Os yw gair Duw yn absoliwt, sut gall yr ysgrythyrau cael eu camddehongli fel bod capeli gwahanol yn bodoli, a mwy pwysig - protestaniaeth, pabyddiaeth, uniongrediaeth?

Dwi'n meddwl dy fod di wedi darganfod rhan o'r broblem efo'r gair "camddehongli" (ond nid y broblem cyfan h.y. nid dyna sy'n digwydd bob tro o reidrwydd).
Efo protestaniaeth, er enghraifft, yn y diwygiad, naeth pobl fel Martin Luther ddechrau edrych ar destun gwreiddiol y Beibl ar ol i gyfrol Erasmus gael ei gyhoeddi, a sylweddoli fod yna gamgyfieithiadau (di hwnna'n air?) a fod yr eglwys yn camddefnyddio a camddehongli'r Beibl a fe sylweddolodd pobl fel Luther fod traddodiadau ag ati yn derbyn yr un statws a chynnwys y Beibl heb unryw sail - felly naeth pobl adael yr eglwys rufeinig er mwyn cael eglwys a oedd yn edrych at y Beibl fel yr unig awdurdod ac i edrych at be oedd gwir neges y Beibl. felly dyna sy'n digwydd weithiau.
weithiau mae 'na grwpiau gwahanol oherwydd gwahaniaethau o ran dehongli'r Beibl - yn aml, mae'r grwpiau yn cytuno o ran prif ddysgeidiaeth y Beibl h.y. yr efengyl, ond yn anghytuno ar faterion eilradd ond sy dal yn effeithio sut mae'r eglwys yn cael ei redeg - materion fel sut ma llywodraethu eglwys, a ddylai bedyddio plant a.y.y.b.

huwwaters a ddywedodd:Pam fod y Beibl byth yn cael ei hystyried fel rhywbeth typological sef rhywbeth alegoraidd neu hyd yn analogaidd. Sef fod straeon yn cael eu defnyddio fel cynrychiolaeth o'r hyn sydd wedi digwydd?


dwi'n meddwl mai'r prif reswm am hyn ydi nad ydi o'n rhoi ei hun fel stori a chwedl a.y.y.b. pan welwn ni rannau o'r Beibl fel sy yn yr Hen Destament sy'n rhoi hanes pobl Duw y bwriad ydi i ddangos pethau i ni ynglyn a person a chymeriad Duw yn y modd mae'n delio a'i bobl - pe bai'r straeon yn chwedlau, bysai hwnna ddim wir yn dysgu lot i ni am Dduw - mae'r hanes a welwn yma yn dangos i ni rywbeth gwir. ma'r Beibl yn eitha clir lle dylid dehogli rhywbeth fel rhywbeth alegoraidd neu analogaidd e.e. gweledigaethau proffwydi, damhegion Iesu.

huwwaters a ddywedodd:Mae efengylwyr a phobol o enwadau fel pentecostaidd yn cymyd Y Beibl fel gair union Duw.

y rheswm am hyn ydi fod y Beibl yn honni iddo ddod oddi wrth Duw (2 Timotheus 3:16). mae na gytuno o ran be ydi'r Beibl ac yna, gan fod yr honiad yma, mae'n werth neud - ma Cristnogion yn bobl sy wedi edrych ar y Beibl a gweld ei fod yn wir, ac felly yn ddibynadwy.
Ti'n son fod credu'r Beibl yn un peth a bod yn Gristion yn beth arall - pan welwn ni'r adnod yna yn 2 Timotheus, mae'n dweud wrthyn ni am be mae'r Beibl yn ddefnyddiol. Mae'n ein dysgu ni - felly 'dyn ni'n gweld digwyddiadau ayyb a dysgu pethau ynglyn a chymeriad Duw ac yn fwy na dim am y gwaredigaeth sy'n cael ei gynnig i ni yn Iesu - y groes ydi canolbwynt mawr y Beibl - ma popeth yn y Beibl yn pwyntio at hwnna. Ma'r Beibl hefyd yn dangos i ni bethau yn ein bywyd na ddylai fod yno ac yn ein galw ni i dorri nhw allan - ar y lefel mwya syml, mae'n dangos fod ni'n bechaduriaid o flaen Duw ac yn annerbyniol iddo. Mae hefyd yn ein cywiro ni h.y. dweud wrthyn ni rhoi rhywbeth yn ein bywydau ni - felly nid yn unig ydi o'n galw ni i droi i ffwrdd o bechod ond i droi at Iesu a rhoi ein ffydd ynddo. Ac yna mae'n ein dysgu ni sut ma byw fel Cristion, fel plentyn i Dduw; mae'n ein dysgu ni be ma hi'n meddwl i fod yn Gristion.
Felly dwi'n meddwl y byddai hi'n anodd credu'r cyfan yna a peidio bod yn Gristion.

ond diolch am dy gwestiynau, mae di bod yn hwyl trio meddwl am y pethe yma. gobeithio fod hwnna'n weddol glir i ti.
Rhithffurf defnyddiwr
gethin_aj
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 106
Ymunwyd: Sad 07 Mai 2005 4:49 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 07 Rhag 2007 10:29 am

Ti'n codi cwestiynnau difyr Huw. A dwi'n cytuno gyda lot o be wyt ti'n ddeud. Dwi'n meddwl wneid di gynnhesu lot ar ddiwinyddiaeth Karl Barth - dyma mae o'n ei gredu yn fras, maddeuant am y Saesneg:

Revelation. For Barth and most of the Neo-Orthodox writers, God revealed Himself to humanity through Jesus Christ of Nazareth. He is the Word of God, and the Scriptures are a record of the work of the Word of God through Israel and the Church. Thus, we arrive at the classical Neo-Orthodox statement that the Bible becomes the Word of God as it encounters us, but it is not itself the Word of God. To do otherwise would make us guilty of Bible idolatry.


Maen ddiddorol nodi fod Diwinwyr neo-uniongred fel Barth a Bultaman yn rhoi mwy o sylw i lythyrau Paul na'r efengylau oherwydd nid account hanesyddol (allasai fod yn anghywir) o'r rheidrwydd sydd yn llythyrau Paul ond yn hytrach rhestru ac esbonio egwyddorion trefn y cadw. Ac yn y diwedd i mi dyna sy'n bwysig, dwi ddim mor bothered a hynny am fanion bach hanesyddol y Beibl (er yn ddiddorol) yn y diwedd yr hyn sy'n rhaid i ddyn ddeall yw prif thesis y Beibl sef trefn y cadw a threfn iechydwriaeth. Yr hen destament sy'n proffwydo Iesu, yr efengylau sy'n adrodd hanes ei dair blynedd o genhadaeth a llythyrau Paul sy'n esbonio ei arwyddocad - Iesu felly yw 'prif gymeriad' y Beibl oherwydd mae ef yw'r allwedd i drefn y cadw, nid y Beibl yw'r allwedd ond Iesu OND y Beibl mae Duw wedi defnyddio i ddatguddio ei fab i ni. Pam defnyddio y Beibl, cyfrwng dynol? Wel amwni am yr union run rheswm a'r ymgnawdoliad, Duw yn dod yn ddyn er mwyn i ddynion fedru ei amgyffred rhywfaint yn well.

Mi ydw i yn credu fod yr Ysbryd Glan wedi ysbrydoli awduron y Beibl ond dwi'n stopio cyn dwyfoli'r Beibl ei hun. Rhaid cydnabod fod trefn Duw yn siarad gyda ni trwy'r Beibl - mae hyn yn ran o ffydd - a rhaid cydnabod hefyd fod gan y Beibl awdurdod am athrawiaeth trefn y cadw oleiaf oherwydd heb yr awdurdod hynny y mae Cristnogaeth yn ddim byd, dydy gwirionedd ddim yn wirionedd os nad yw'n wirionedd absoliwt. Duw sy'n dilysu'r gwirionedd yna ie, ond y Beibl yw'r record orau sydd gyda ni heddiw ohono.

Dwi'n meddwl bod y gwahaniaeth rhwng Protestaniaeth a Pabyddiaeth ddim o'r rheidrwydd yn golygu gwahanol ddehongliadau o'r Beibl ond yn hytrach yn dangos sut y bo'r Eglwys Gristnogol ar wahanol amseroedd yn ei hanes wedi cael ei ddylanwadu gan syniadau ac ofergoelion o du allan i athrawiaeth y Beibl. Pan fo hynny n digwydd fel yn achos Awstin o Hippo a Martin Luther mae pobl yn mynd yn ol i edrych ar ddysgeidiaeth graidd y Beibl ac yn gweld dro ar ol tro mae trefn Duw yw drwy Iesu Grist o Nasareth.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth


Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron