Wythnos diwethaf fe wnes i sylwi nad oedd cristnogaeth.com, cristnogaeth.org nac ychwaith cristnogaeth.net wedi eu bachu gan neb, dim un o'r enwadau a dim hyd yn oed CYTUN. Fe wnes i eu prynnu felly er mwyn eu defnyddio fel 'hub' i'r dystiolaeth Gymraeg Gristnogol gyfoes sydd ar y we.
Os carech i mi gynnwys mwy o lincs pan fyddaf yn diweddaru'r wefan nesa gadewch nodyn yn dweud pa rai. Yr unig ganllawiau yw hyn:
1. Rhaid bod yn Gymraeg
2. Nid wyf yn derbyn doleni i eglwysi unigol (rwyf am i'r wefan fod yn 'niwtral' oddi wrth bob eglwys) nac ychwaith doleni i unrhyw enwad am yr un rheswm.
[3. Ac eu bod nhw yn pro-cristnogol wrth gwrs ]
http://www.cristnogaeth.com
O.N. rhywun yn gwybod beth sydd angen i mi wneud er mwyn bod ar top of the pops Goggle?