Archesgob yn condemnio "ffwndamentaliaeth angrhediniol&

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan rooney » Sul 30 Rhag 2007 3:10 am

GT a ddywedodd:Llyfr sydd o ddiddordeb i nytars fel Charles Manson a David Koresh a chdi ydi o.

Damwain llwyr ydi'r ffaith bod y llwyth o nonsens yn y Beibl yn y lle cyntaf.


ond mae'n cydfynd gyda proffwydi Daniel a proffwydoliaethau gan Iesu?

wyt ti'n anffyddiwr?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan rooney » Sul 30 Rhag 2007 3:12 am

Jon Bon Jela a ddywedodd:Sori i fod yn super-ystrydebol, ond...


hmm... nol i'r byd go iawn
astudia Stalin, Mao, Pot
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan dewi_o » Sul 30 Rhag 2007 7:07 am

rooney a ddywedodd:
Jon Bon Jela a ddywedodd:Sori i fod yn super-ystrydebol, ond...


hmm... nol i'r byd go iawn
astudia Stalin, Mao, Pot


Geiriau a neges pwysig iawn gan John Lennon. A ni ddylai pawb sy'n credu a'r rhai sydd ddim yn credu anelu at heddwch yn y byd ?
Gwyn fyd cefnogwyr pel droed Wrecsam a Chymru:
Gwyn eu byd y rhai sy'n disgwyl dim, ni chant eu siomi.
Rhithffurf defnyddiwr
dewi_o
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 213
Ymunwyd: Sul 13 Mai 2007 9:52 am
Lleoliad: Caerffili

Postiogan Sir Richard de Fromage » Sul 30 Rhag 2007 10:43 am

rooney a ddywedodd:hmm... nol i'r byd go iawn


Master of Irony :lol: :lol: :lol:

rooney a ddywedodd:astudia Stalin, Mao, Pot


Ti ddim yn meddwl fod ni'n gallu darllen rooney? Mae Prysor wedi chwalu yr syniad hynan barod y twyrp :rolio:
Caws
Rhithffurf defnyddiwr
Sir Richard de Fromage
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 27
Ymunwyd: Mer 13 Meh 2007 7:31 pm
Lleoliad: Llandandyflaengroen, Stiniog, Caerdydd

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 30 Rhag 2007 12:06 pm

GT a ddywedodd:Dydi secteriaeth ffuantus Rhys Llwyd ... ddim yn adlewyrchu'n dda ar y traddodiad Protestanaidd Cymreig.

Os ydi'r ddau yma'n nodweddiadol o'r traddodiad hwnnw, pa ryfedd bod capeli'n cael eu cau a'u dymchwel ar hyd a lled Cymru?

Mae'r ddwy ffrwd - yr un secteraidd a'r un apocolyptaidd yn cynrychioli'r elfennau gwaethaf mewn Protestaniaeth - dwy ffrwd deallusol ac emosiynol hesb.


A gare ti ymhelaethu sut yn union wyt ti'n anghytuno a mi, dwi ddim yn deall dy bwynt. Beth yn union nodesi a oedd yn sectyddol?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan GT » Sul 30 Rhag 2007 4:58 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:
GT a ddywedodd:Dydi secteriaeth ffuantus Rhys Llwyd ... ddim yn adlewyrchu'n dda ar y traddodiad Protestanaidd Cymreig.

Os ydi'r ddau yma'n nodweddiadol o'r traddodiad hwnnw, pa ryfedd bod capeli'n cael eu cau a'u dymchwel ar hyd a lled Cymru?

Mae'r ddwy ffrwd - yr un secteraidd a'r un apocolyptaidd yn cynrychioli'r elfennau gwaethaf mewn Protestaniaeth - dwy ffrwd deallusol ac emosiynol hesb.


A gare ti ymhelaethu sut yn union wyt ti'n anghytuno a mi, dwi ddim yn deall dy bwynt. Beth yn union nodesi a oedd yn sectyddol?


Y neges ryfedd yma Rhys.

Does gen i ddim amser ar hyn o bryd i fynd i mewn i'r holl nonsens, ond un neu ddau o bwyntiau brysiog:

(1) Yr unig wlad sylweddol Gristnogol sydd gyda chrefydd wedi ei glymu i mewn i'w chyfansoddiad - ac felly ei gwleidyddiaeth ydi Prydain. Mae Brenhines Prydain yn ben ar y wladwriaeth ac yn ben ar yr Eglwys Brotestanaidd sefydliadol (ond leiafrifol). Does dim cysylltiad rhwng cyfansoddiadau gwledydd Pabyddol a'r Eglwys Babyddol fel rheol. Chafodd yna ddim byd ei setlo yn y 1660au mewn gwirionedd. Ym 1688 y cafodd y drefn gyfansoddiadol secteraidd sy'n cysylltu Protestaniaeth a'r frenhiniaeth ei sefydlu.

(2) Mae'n rhan o ryfyg naturiol anghydffurfwyr eithafol i ddadlau bod pobl nad ydynt yn anghydffurfwyr eithafol yn fas, arwynebol, dwl ac ati. Y gwir syml ydi bod llawer iawn, iawn mwy o Gristnogion yn Babyddion na sy'n gredwyr yng ngwirionedd llythrennol y Beibl. Dydi hyn ddim oherwydd y rhesymau sarhaus rwyt ti'n eu priodoli i gymhelliad Pabyddion tros ymarfer eu ffydd. Mae oherwydd bod y ffydd Babyddol yn caniatau i ddyn osgoi llawer o'r problemau deallusol sy'n codi yn sgil Protestaniaeth.

Y neges hon wedi'i copiio i'r edefyn "Tony Blair: Pabydd" yn Materion Prydain. Gallwch ymateb iddi yn y fan honno
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Sul 30 Rhag 2007 5:18 pm

dewi_o a ddywedodd:Geiriau a neges pwysig iawn gan John Lennon. A ni ddylai pawb sy'n credu a'r rhai sydd ddim yn credu anelu at heddwch yn y byd ?


nid yw anffyddiaeth wedi dod a heddwch i ni, darllen hanes 20ed ganrif
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 30 Rhag 2007 5:46 pm

GT a ddywedodd:Y gwir syml ydi bod llawer iawn, iawn mwy o Gristnogion yn Babyddion na sy'n gredwyr yng ngwirionedd llythrennol y Beibl. ... Mae oherwydd bod y ffydd Babyddol yn caniatau i ddyn osgoi llawer o'r problemau deallusol sy'n codi yn sgil Protestaniaeth.


You said it your self. Fel dywedodd Luther yn 1517, "fe ildia i fy mhrotest pan fydd y Vatican yn medru dangos yn glir o'r ysgrythurau mod i yn anghywir" wrth gwrs nid oedde nhw yn medru a dyna ddechrau ar y diwygiad Protestanaidd. Mae'r pabyddion o orwedd awdurdod ar y Pab a'r Eglwys yn hytrach nag yr ysgrythurau Sanctaidd yn llwyddo i osgoi, fel wyt ti'n dweud, llawer o issues mae Protestaniaeth yn rhoi bri arnyn nhw. Ond feiddia i awgrymau mae nid "problemau deallusol" mae'r pabyddion yn ei osgoi ond yn hytrach rhao o athrawiaethau craidd y beibl.

Y neges hon wedi'i chopiio i'r edefyn "Tony Blair: Pabydd" yn Materion Prydain. Gallwch ymateb iddi yno.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan GT » Sul 30 Rhag 2007 10:07 pm

Wel Rhys, edrych ar y peth fel hyn.

Y broblem efo rhoi dy ffydd i gyd yn y Beibl ydi ei fod wedi ei greu gan llawer o gwahanol bobl tros gyfnod maith ac mae mor eclectic a chymhleth gall ddweud wrthyt yr hyn rwyt am iddo ei ddweud. Os ti'n tynnu sylw Efengylwyr yt yr anghysondebau lu sydd yn y Beibl, yna maent yn dweud A ia, ti sydd ddim yn gwybod sut i'w ddarllen. Ond dydi rhywbeth ti angen Primer i'w ddeall yn da i ddim ar ei ben ei hun.

Felly mae rhai o'n cyfeillion mwy gorffwyll fel rooney yn ymddiddori yn y Datguddiad ac yn edrych ymlaen yn arw at ddiwedd y Byd, mae'r mwy di niw yn hoffi'r gwynfydau neu beth bynnag ac mae'r Bushiaid yn ein plith sy'n hoffi'r syniad o fynd i ryfel yn gallu dod o hyd i lond trol o gefnogaeth i'w safbwynt yn yr Hen Destament.

Mae Protestaniaeth yn gallu arwain at lanast llwyr. Mae gen ti dri neu bedwar Capel sydd a chredoau gwahanol mewn pentrefi o dri chant o bobl. Mae gen ti Brotestaniaid sydd a chredoau digon tebyg i rai Pabyddol, mae gen ti rai sy'n perthyn i sectau gorffwyll Jim Jonsaidd, mae gen ti rai sy'n credu'r Beibl gair am air, tra bod gen ti rai sydd ddim yn cymryd fawr o ddiddordeb yn y Beibl.

Ac am bod pob dim yn gymhleth, mae pob dim yn gyfnewidiol. Gall John Williams Brynsiencyniaid y Byd anfon llwyth o hogiau sydd wedi dilyn crefydd sydd a'i heddychiaeth wedi ei seilio ar un math o ddarlleniad o'r Beibl i Ffrainc i farw trwy ddyfynnu darnau eraill o'r Beibl. A thrwy'r cwbl dydi'r Beibl ddim yn dweud wrthyt beth ydi dy agwedd i fod os oes rhywun yn cynnig lein o cocen i ti, na beth ddylai dy agwedd fod at lesbianiaeth na chant a mil o sefyllfaoedd eraill.

Mae Pabyddiaeth yn symlach - mae gen ti rhywun i wneud y dehongli ar dy ran - ti'n osgoi llanast moesol a deallusol.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Sul 30 Rhag 2007 11:11 pm

GT a ddywedodd:Mae Pabyddiaeth yn symlach - mae gen ti rhywun i wneud y dehongli ar dy ran - ti'n osgoi llanast moesol a deallusol.


Yn sicr mae manteision i hynny, yn enwedig o ystyried sut mae'r Beibl wedi cael ei gamdrin a'i gamddehongli gen gwltiaid, anffyddwyr a rhai Cristnogion- ran amlaf yn fwriadol am resymau anheilwng, weithiau'n ddiniwed. Ac mae Eglwys unedig gref hefo manteision hefyd, gen i lawer o amser i'r Pabyddion. Ond hefyd mae anfanteision, fel mae hanes yn dangos. Alla i ddim cytuno gyda dy farn ynglyn a'r Beibl ei hun:-
http://www.beibl.net
2 Tim 3:16-17
16 Duw sydd wedi ysbrydoli'r ysgrifau sanctaidd hynny i gyd, ac maen nhwín dysgu beth syín wir i ni, yn cywiro syniadau anghywir, yn dangos beth dyn niín ei wneud oíi le, aín dysgu ni i fyw yn iawn. 17 Felly mae gan bobl Dduw bopeth sydd ei angen iddyn nhw wneud pob math o bethau da.

Rwy'n eitha hoffi y ffordd mae C.S Lewis yn disgrifio'r sefyllfa fel "ty". Peth pwysicaf yw bod yn y ty a ddim tu allan yn yr oerfel. Unwaith ti yn y ty, ti'n sefyll yn y cyntedd ac yn dewis pa ystafell i fynd iddo. Rhai'n symud o un ystafell i'r llall fel mae'r cydwybod a'r deallusrwydd yn newid. Rhai byth yn symud o'r ystafell gyntaf.

Iesu yw'r Brenin, ac mae'n siomedig fod ti yn fy meirniadu am gael diddordeb o ddifri yn y Datguddiad GT, gan fe weli yno fod Iesu yn rhoi saith llythyr i'r saith eglwys, yn brolio y pethau da ac yn beirniadu'r pethau drwg ynddynt.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron