Macsen a ddywedodd:Fel rywun sydd wedi bod yn gristion ac anffyddiwr gallaf dystio nad oeddwn i erioed yn rhan o gynllwyn rhyngwladol i brenwashio'r ddynoliaeth/dinistrio ein traddodiadau a'n diwylliant cristnogol ar unrhyw bryd.
Ti'n cymysgu rhwng Crefydd (eidioleg sefydliadol) a ffydd (ffydd personol, neu stad o feddwl y sawl sydd eisoes yn brenwashd).
Macsen a ddywedodd:Mae cred anffyddwyr bod crefydd yn gyfrifol am ladd a caledi ofnadwy yn gor-symyleiddio'r sefyllfa. Mae'r ddynoliaeth wedi profi ei hun yn gwbwl fedrus wrth ladd heb fod angen rheswm crefyddol dros wneud hynny. Esgus yw crefydd gan amla a pe na bai'n bodoli byddai digon o esgusodion eraill wrth law i gyfiawnhau'r un gweithredoedd erchyll.
Ond son am grefydd ydan ni. A crefydd ydi'r rheswm penna dros ladd yn hanes y ddynoliaeth.
Macsen a ddywedodd:Mae'n rhaid cydnabod hefyd bod crefydd cymedrol wedi bod yn fendith wrth lunio a chynnal ein diwylliant. Mae'n beth anodd i'w gydnabod i rai ond nid ryw ddeffroad deallusol yn ein cymdeithas sydd wedi arwain at lai o bobol yn dilyn crefydd ond yn hytrach yr un hemogenization a globaleiddio sydd wedi arwain at difaterwch tuag at ein diwylliant Cymreig a'n iaith Cymraeg.
Fel un dreuliodd amser efo fy nhaid 100 oed - cyn-flaenor capel, a dyn addfwyn, diwylliannol sydd â ffydd go iawn, personol nid eidiolegol - dwi'n cytuno hyd at bwynt. Ond roedd y capeli Cymraeg yn gwrthwynebu'r Crefydd, ac yn sefydlu enwadau oedd yn seiliedig ar frawdgarwch a chyfartaledd. Doedd eu crefydd nhw ddim yn eidiolegol. Roedd yn ddynol.
Wedyn, mae rhaid anghytuno â ti o ran Methodistiaeth. Dyma'r Taliban Cymraeg. Sect oddifewn i Eglwys Lloegr oeddynt, yn credu mewn cynnal y drefn dirfeddiannol, gyfalafol anfoesol, gwrthwynebu pob protest dros iawnderau a hawliau - heb son am fynd ar grwsad ffwndamentalaidd (cofia mai 'jumpers' oedd y bobol 'ma - 'ffrics', mwy neu lai) i ladd 99% o ddiwylliant ac arferion gwerin cynhenid y Cymry, oherwydd eu bod yn eu cyfri'n "anfoesol" a "phechadurus". Do, mi altron nhw chydig, o ran eu ymlyniaeth i'r status quo, wedi torri'n rhydd o Eglwys Lloegr, ond hyd yn oed wedyn, enwad cynnal y drefn oeddyn nhw.
Macsen a ddywedodd:Mae cristnogaeth Cymraeg yr un mor annibynol o weddill Cristnogaeth y byd ac unrhyw rhan arall o'n diwylliant a ffolineb yw dweud ei fod o'n ryw fath o ymdrech i 'reoli'r masses'. Does ganddyn nhw'm masses i'w reoli am un peth.
Twt twt Macsen
! Wyt ti'n meddwl mai ysguboriau a nosweithiau llawen ar ôl dyddiau dyrnu ŷd ydi hanes Cymru? Mae hanes Cymru'n ddiwydiannol, gyfaill. Rheolaeth y masses
oedd holl ddiben Methodistiaeth - yn grefyddol, diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol. A cyn y chwyldro diwydiannol, rheoli'r masses cefn gwlad (tenantiaid y tirfeddiannwyr) oedd holl bwynt a diben Eglwys Lloegr.
Macsen a ddywedodd:Dywedodd Prysor nad yw am iddyn nhw ddysgu straeon y Beibl yn yr ystafell ddosbarth. Fyddet ti'n ymateb yn yr un ffordd pe bai nhw'n dysgu straeon y Mabinogi yn y dosbarth? Ie mae nhw'n dreisgar ond mae'r ddau set o straeon yn rhan annatod o'n diwylliant ni. 'Greatest Hits' o straeon chwedlonol ein diwylliant ydi'r ddau i bob pwrpas - y rhai digon da fel bod pobol wedi eu cadw'n fyw ar lafar am ganrifoedd. Mae nhw'n drysorau. Dylai PAWB eu darllen nhw.
Mae'r Mabinogi'n cael ei ddysgu fel
chwedlau perthnasol i Gymru.
Mae'r Hen Destament (myths yr Iddewon) yn cael ei ddysgu fel
hanes.
Macsen a ddywedodd:Y cwestiwn dyrys i'r anffyddwyr ymysg y Cymru Cymraeg yw sut mae tynnu'r pwyslais oddi ar grefydd tra ar yr un pryd yn peidio a pheryclu yr union draddodiadau Cymreig dyn ni'n eu gwerthfawrogi a'u hamddiffyn. Noder: Mae'r diwylliant yr ydym ni'n ceisio ei am amddiffyn drwy barhau'r iaith Gymraeg yn yn Cristnogol, ac mae'r iaith wedi ei gynnal hyd yma gan Gristnogaeth. Bydd sut mae anffyddwyr yn delio gyda'r pos hwn yn rhan bwysig yn llwyddiant yr iaith dros y canrifoedd nesaf.
Nid o'r capel mae diwylliant y dyfodol yn mynd i ddod, ond o ddiwylliant poblogaidd - cynhenid a rhyngwladol - drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, ac o ddiwylliant seciwlar dalgylchoedd ysgolion Cymraeg yn yr ardaloedd Saesneg eu iaith.
Tra bod y capeli Anghydffurfiol wedi cynnal eisteddfodau a llenyddiaeth, ysgolion Sul ac ati, ar adeg bwysig yn hanes yr iaith, does gan grefydd - na'r capeli, chwaith, deud gwir - ddim rol sylweddol i'w chwarae yn nyfodol yr iaith Gymraeg.
Hefyd - diwydiant a achubodd yr iaith Gymraeg. Hebddo, fyddai dim Cymry yma (byddent wedi allfudo) i godi capeli, llyfrgelloedd a sefydliadau fel y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Genedlaethol a Phrifysgolion.