Archesgob yn condemnio "ffwndamentaliaeth angrhediniol&

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Archesgob yn condemnio "ffwndamentaliaeth angrhediniol&

Postiogan Pryderi » Sad 22 Rhag 2007 11:35 pm

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7 ... 156917.stm

Dwi'n gweld bod ein Archesgob druan yn drysu cywirdeb gwleidyddol gyda ffwndamentaliaeth.
Pryderi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sul 24 Meh 2007 11:07 am

Postiogan rooney » Sad 22 Rhag 2007 11:46 pm

Mae'r archesgob yn gwbl gywir ynglyn a'r peryglon ynglyn ac anffyddiaeth ffwndamentalaidd. Llongyfarchiadau iddo am neges Nadolig bwysig iawn.

Mae anffyddiaeth a gwrth-Gristnogaeth yn seiliedig ar myths plentynaidd, ond mae'r anoddefgarwch tuag at grefydd yn benodol tuag at Gristnogaeth sydd yn cael ei styrio fyny gan y ffwndmentalwyr atheist gyda'r potensial o fod yn beryglus iawn... ac mae olion yr anoddefgarwch yma i'w weld ers blynyddoedd bellach fel mae'r Archesgob yn disgrifio. Mae'n debyg fod bod yn gwleidyddol gywir wedi dechrau gyda dyheadau teilwng ond yn gynyddol mae'n cael ei ddefnyddio fel arf anoddefgar yn erbyn Cristnogaeth a ffydd eraill. Ar maes-e fel welwn llawer o bobl yn ail-adrodd dadleuon Dawkinaidd ac yn gwneud ymosodiadau anheilwng yn erbyn y Beibl, gyda'r un anoddefgarwch a phenderfynol a ffwndamentalwr crefyddol y maent mor feirniadol ohonynt.

Mae rants yr anffyddwyr fel Dawkins yn swnio'n dda i'r anffyddwyr sydd yn Feiblaidd anllythrennog ac yn dyheu am "ddadleuon" parod i'w taflu tuag at Gristnogaeth... ond yn nonsens- mae Alistair McGrath, David Robertson ac eraill wedi ymateb yn gampus i'r "God delusion". Anffyddwyr crefyddol ffwndamental iawn gyda meddwl caeedig yw'r rhai sy'n darllen dim ond "God delusion" ac yn anwybyddu yr ymatebion/amddiffyniad cynhwysfawr gan y Cristnogion.

Mae'r archesgob yn gwbl gywir i ddweud
"It allows no room for disagreement, for doubt, for debate, for discussion. "

Yn wir, mae hyd yn oed David Robertson, sydd wedi ysgrifennu llyfr yn ymateb i'r God delusion, sydd yn ficer yn yr Alban, wedi cael ei banio nifer o weithiau oddi ar fforwm drafod Dawkins- yn wir mae llawer iawn o Gristnogion wedi cael eu banio oddi yno. Ymddengys fod y ffwndamentalwyr ddim yn ymddiddordebu mewn trafod yn gall ac yn gwrtais gyda dyn sydd wedi treulio cryn amser ac ymchwil yn ymateb i honiadau'r "God delusion". Ond mae nhw ar yr un pryd wedi caniatau nifer fawr o negeseuon ymosodol ac anheilwng yn erbyn Robertson. Ac felly mae'r honiad fod anffyddwyr yn "freethinkers" yn ffals mewn gwirionedd.

Gobeithio y Nadolig yma y gwneith llawer o bobl sylweddoli fod gan anffyddiaeth ddim i'w gynnig ac fod gan Crist bopeth i'w gynnig i bob unigolyn, cymdeithas, gwlad a'r byd.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Positif80 » Sul 23 Rhag 2007 12:26 am

rooney a ddywedodd:Mae anffyddiaeth a gwrth-Gristnogaeth yn seiliedig ar myths plentynaidd


A dydi Cristnogaeth ddim? Dyn mawr yn yr awyr yn creu pob dim mewn chwe diwrnod. Deinsoriaid yn byw ynghyd a phobl...makes sense. :?

Rydych yn son an anoddefgarwch at credoau crefyddol, pan mae'r Beibl ei hun yn annog anoddefgarwch tuag at hoywon, merched ymysg eraill.

Pam ddyliwn i barchu barn person sydd yn seilio eu safbwyntiau i gyd ar lyfr ysgrifennwyd 2, 000 a mwy o flynyddoedd yn ol sydd yn gwrth-dweud ei hun bron iawn hefo bob troad tudalen?

Dyma cwestiwn i chi: os yw Duw yn gyfrifol am wyrthiau ayyb, pam nad yw amputees byth yn cael eu iachau ganddo?
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Macsen » Sul 23 Rhag 2007 12:36 am

Mae'r archesgob yn anghywir am y busnes ail enwi Dolig yn 'Winterval' - tipyn o chwedl yw hwn. A dweud y gwir wela'i ddim ymgais mawr gan anffyddwyr i gael gwared a thraddodiadau y Nadolig. Mae'n fwy nag gwyl Cristnogol, ta beth.

Fel mae Dawkins yn dweud fan hyn, does gan anffyddwyr ddim diddordeb mewn cael gwared ag yr elfennau cristnogol yn y Nadolig.

Erthygl arall dda ar y pwnc fan hyn.

Roedd na erthygl olygyddol ar hyn yn Golwg wythnos dwytha fyd. :P
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan rooney » Sul 23 Rhag 2007 12:41 am

Positif80 a ddywedodd:A dydi Cristnogaeth ddim? Dyn mawr yn yr awyr yn creu pob dim mewn chwe diwrnod.


Dyn mawr yn yr awyr?!? All dy ddeallusrwydd o Gristnogaeth ddim bod mor sal a hynny siawns?

Rydych yn son an anoddefgarwch at credoau crefyddol, pan mae'r Beibl ei hun yn annog anoddefgarwch tuag at hoywon, merched ymysg eraill.


Mae'r Arglwydd Iesu yn dysgu ni i garu ein gilydd a caru Duw. Nid yw hyn yn golygu ni fod i garu pechod na phechodau, ond yn hytrach symud ffwrdd ohonynt.

Pam ddyliwn i barchu barn person sydd yn seilio eu safbwyntiau i gyd ar lyfr ysgrifennwyd 2, 000 a mwy o flynyddoedd yn ol sydd yn gwrth-dweud ei hun bron iawn hefo bob troad tudalen?


Myth arall. A'r tristwch yw dy fod yn meddwl fod o'n OK i amharchu person os yw'n anghytuno gyda ti, ie? Dyma beth oedd yr Archesgob yn son am.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan rooney » Sul 23 Rhag 2007 12:45 am

Macsen a ddywedodd:Mae'r archesgob yn anghywir am y busnes ail enwi Dolig yn 'Winterval' - tipyn o chwedl yw hwn. A dweud y gwir wela'i ddim ymgais mawr gan anffyddwyr i gael gwared a thraddodiadau y Nadolig. Mae'n fwy nag gwyl Cristnogol, ta beth.

Fel mae Dawkins yn dweud fan hyn, does gan anffyddwyr ddim diddordeb mewn cael gwared ag yr elfennau cristnogol yn y Nadolig.

Erthygl arall dda ar y pwnc fan hyn.

Roedd na erthygl olygyddol ar hyn yn Golwg wythnos dwytha fyd. :P


mae dy ffeithiau'n anghywir, rhai blynyddoedd yn ol:
http://news.bbc.co.uk/1/hi/uk/210672.stm
"Church leaders have clashed with a council over its decision to call Christmas festivities Winterval.
Birmingham City Council used the phrase to describe its programme of festive family events over Christmas and the New Year. "

Anodd yw cymryd Dawkins o ddifri ynglyn a crefydd pan mae'n tybio fod dysgu crefydd i blant yn fath o "child abuse", ac yn dangos diffyg deallusrwydd eitha anhygoel o grefydd + Cristnogaeth yn ei lyfr "God delusion"
Dwedodd:
"If there's any threat these sorts of things, I think you will find it comes from rival religions and not from atheists."

Mae'n anodd iawn gen i gredu hyn. Pwy sy'n trio canslo'r Nadolig? Mae'n dod yn fwy a fwy amlwg nad y Mwslim na'r Iddew sydd wrthi, na'r Cristion. Yr anffyddwyr yw'r main suspects.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Macsen » Sul 23 Rhag 2007 12:52 am

rooney a ddywedodd:Birmingham City Council used the phrase to describe its programme of festive family events over Christmas and the New Year.

Yn union, beth sy'n bod gyda hynny? Diwrnod yw'r Nadolig, nid cyfnod o dros wythnos - geith Birmingham alw eu 'programme of festive events' yn beth bynnag mae nhw eisiau.

rooney a ddywedodd:Anodd yw cymryd Dawkins o ddifri ynglyn a crefydd pan mae'n tybio fod dysgu crefydd i blant yn fath o "child abuse", ac yn dangos diffyg deallusrwydd eitha anhygoel o grefydd + Cristnogaeth yn ei lyfr "God delusion"

Paid a'i gymryd o o ddifri ta, does neb yn dy orfodi di. Ond paid a'i gyhuddo fo o drio dinistrio elfennau Cristnogol y Nadolig pan mae o ei hun wedi cyfaddef nad oes ganddo unrhyw broblem gyda nhw.

Mae rants yr anffyddwyr fel Dawkins yn swnio'n dda i'r anffyddwyr sydd yn Feiblaidd anllythrennog ac yn dyheu am "ddadleuon" parod i'w taflu tuag at Gristnogaeth...

Gyda llaw, fel un sydd ddim yn 'Feibl anllythrennog' o gwbwl (wedi darllen a deall mwy ohonno nag nifer o Gristnogion dw i'n eu nabod a dweud y gwir), ga'i ddweud bod yr uchod yn nawddoglyd uffernol. Dyw anffyddiaeth, nag ychwaith Cristnogaeth, yn codi o anwybodaeth, ac os mai dy obaith di yw trawsnewid pobol i dy safbwynt di dyw eu galw nhw'n thic ddim yn ddechrau da nag ydi?

Dwi'n credu bod rhai Cristnogion wedi anghofio mai ceisio lledu gair Duw mae nhw, nid sgorio pwyntiau dibwys mewn dadleuon.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan rooney » Sul 23 Rhag 2007 1:12 am

Macsen a ddywedodd:Yn union, beth sy'n bod gyda hynny? Diwrnod yw'r Nadolig, nid cyfnod o dros wythnos - geith Birmingham alw eu 'programme of festive events' yn beth bynnag mae nhw eisiau.


Mae'r traddodiad Nadoligaidd Cristnogol yn gyfnod nid dim ond un diwrnod- adfent, plygain.


Dwi'n credu bod rhai Cristnogion wedi anghofio mai ceisio lledu gair Duw mae nhw, nid sgorio pwyntiau dibwys mewn dadleuon.


Nid yw'n ddibwys o gwbl. Mae anffyddwyr ffwndamental fel Dawkins ac eraill yn cyflwyno charicature, fersiwn anheg ac anheilwng o'r ysgrythurau, y ffydd Gristnogol a Christnogion. Mae hyn yn gallu tanseilio ffydd pobl a'u tynnu ffwrdd o Grist.

Does dim o'i le yn gwneud amddiffyniad cryf o'r ffydd a pwyntio allan y myths anheg mae'r anffyddwyr yn mynnu lledu. Rhaid trechu'r anwireddau gyda'r gwir, dyna'r peth cariadus i'w wneud.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Macsen » Sul 23 Rhag 2007 1:29 am

rooney a ddywedodd:Mae'r traddodiad Nadoligaidd Cristnogol yn gyfnod nid dim ond un diwrnod- adfent, plygain.

Yr adfent yw'r cyfnod cyn y Nadolig a mae'r plygain ar y Nadolig - nid yw'r un ohonynt rhwng y Nadolig a'r flwyddyn newydd fel 'Winterval' Birmingham. Mae'r cyngor jesd wedi enwi cyfnod o ddigwyddiadau o'u gwneuthuriad nhw nad oes gan y traddodiad cristnogol enw amdano.

O weld nad oes dim byd yn y Beibl am y Nadolig, a mai addasiad o draddodiadau Paganaidd cynt ydyw, does dim modd i'r cristion gwyno os yw pobol am ychwanegu at ac addasu rhai traddodiadau. Yr unig beryg yw pan mae pobol eisiau dileu ein traddodiad heb ei amnewid gydag unrhyw beth o werth - ond fel y dywedais i, does dim tystiolaeth bod anffyddwyr yn gyffredinol eisiau gwneud hyn (mae na ambell i Scrooge yn gristion hefyd, cofia).

Does dim o'i le yn gwneud amddiffyniad cryf o'r ffydd a pwyntio allan y myths anheg mae'r anffyddwyr yn mynnu lledu. Rhaid trechu'r anwireddau gyda'r gwir, dyna'r peth cariadus i'w wneud.

Digon teg, ond nid galw anffyddwyr yn 'Feiblaidd anllythrennog' yw'r ffordd i fynd o'i chwmpas hi. Fel un sydd wedi darllen y Beibl ac yn cymryd diddordeb mawr ynddo, mae yna ddigon yn dadleuon Dawkins i godi amheuaeth. Er bod ambell i gamddealltwriaeth yn ei lyfr enwocaf ynglyn a'r Beibl nid yw ei ddadleuon craidd yn seiliedig ar anwybyddiaeth ohono - mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi eu hanelu at grefydd yn gyffredinol, beth bynnag, ac ddim yn delio gyda testun y Beibl o gwbwl.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan rooney » Sul 23 Rhag 2007 1:39 am

Macsen a ddywedodd:Yr adfent yw'r cyfnod cyn y Nadolig a mae'r plygain ar y Nadolig - nid yw'r un ohonynt rhwng y Nadolig a'r flwyddyn newydd fel 'Winterval' Birmingham. Mae'r cyngor jesd wedi enwi cyfnod o ddigwyddiadau o'u gwneuthuriad nhw nad oes gan y traddodiad cristnogol enw amdano.


oes mae yna
http://www.cresourcei.org/cyepiph.html
"Epiphany is the climax of the Advent/Christmas Season and the Twelve Days of Christmas, which are usually counted from the evening of December 25th until the morning of January 6th, which is the Twelfth Day. "

Digon teg, ond nid galw anffyddwyr yn 'Feiblaidd anllythrennog' yw'r ffordd i fynd o'i chwmpas hi.


wel, rhaid i fi anghytuno. Mae cymaint o bobl ar y maes-e yn dyfynnu pethau allan o'u cyd-destun o'r Beibl ac yn rhoi gwyriad/dehongliad cwbl ffals ar yr ysgrythurau- mae hynny'n dangos anllythrennedd ac yr unig reswm mae Dawkins ac eraill yn cael getawe gyda'r nonsens mae nhw'n sgwennu am y Beibl yw am fod pobl yn fwy anllythrennog dyddie yma ac yn fwy tebyg o ddisgyn am y camddehongliad (mae'n siwtio nhw i gredu fod Duw a'r Beibl yn ofnadwy a drwg, er mor bell o'r gwir yw hyn).

Un peth da am y ffwndamentaliaeth gan yr anffyddwyr yw fod nhw'n llwyddo i ryw raddau i gryfhau'r ffydd Gristnogol yn nifer o bobl ac fod pobl yn gyffredinol yn siarad am Dduw- alla i ond gweddio y bydd pobl yn darllen yr ymatebion Cristnogol i'r dadleuon ac y bydd y gwir yn cael ei ddatgelu iddynt.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron