Tudalen 14 o 16

PostioPostiwyd: Sad 29 Rhag 2007 3:36 am
gan rooney
Dylan a ddywedodd:mae union yr un peth pan dw i'n dadlau efo ti ar y maes. Dw i'n gwybod yn iawn na wna i fyth newid dy feddwl di, a dw i ddim yn trio hyd yn oed.


Ti'n gwybod pam? Does dim tystiolaeth positif, gwyddonol neu fel arall, dros fod dim Duw/duwiau.

PostioPostiwyd: Sad 29 Rhag 2007 3:40 am
gan Dylan
Does dim tystiolaeth positif, gwyddonol neu fel arall, dros fod dim lepreconiaid chwaith. So?

PostioPostiwyd: Sad 29 Rhag 2007 3:42 am
gan rooney
Dylan a ddywedodd:Does dim tystiolaeth positif, gwyddonol neu fel arall, dros fod dim lepreconiaid chwaith. So?


felly pam ti ddim yn credu ynddyn nhw? anghysondeb

PostioPostiwyd: Sad 29 Rhag 2007 3:45 am
gan Dylan
PARDWN?!

o leia tria smalio dy fod yn gallu darllen, pliiiiiiiiiis

PostioPostiwyd: Sad 29 Rhag 2007 3:54 am
gan rooney
felly mae dy anffyddiaeth yn gorfod presuppose Duw
ddim yn sefyll ar ei draed ei hunan

PostioPostiwyd: Sad 29 Rhag 2007 9:16 am
gan tafod_bach
ti really yn dallt sut ma sathru ar drafodaeth dwyt rooney! sdim llawer all unryw un ddweud yma heb wahodd dy farn absoliwt. nid bocs tywod i ti yn unig ydi'r edefyn ma. ma pobl yn cael digon a rhoi'r gorau iddi - *trafod* yw pwrpas fforwm, nid hawlio cyfiawnhad sy'n dy siwtio gan bawb ti'n anghytuno a nhw.

[sori i fynd oddi ar y pwnc ond bydd dim pwnc ar ol oherwydd lleifarif, ffor dwi'n ei gweld hi]

PostioPostiwyd: Sad 29 Rhag 2007 8:55 pm
gan GT
Ach a fi.

Dydi secteriaeth ffuantus Rhys Llwyd na gwae ddarogan canoloesol rooney druan ddim yn adlewyrchu'n dda ar y traddodiad Protestanaidd Cymreig.

Os ydi'r ddau yma'n nodweddiadol o'r traddodiad hwnnw, pa ryfedd bod capeli'n cael eu cau a'u dymchwel ar hyd a lled Cymru?

Mae'r ddwy ffrwd - yr un secteraidd a'r un apocolyptaidd yn cynrychioli'r elfennau gwaethaf mewn Protestaniaeth - dwy ffrwd deallusol ac emosiynol hesb.

PostioPostiwyd: Sad 29 Rhag 2007 9:44 pm
gan rooney
beth, ni fod anwybyddu llyfr y Datguddiad- pam?

PostioPostiwyd: Sul 30 Rhag 2007 2:07 am
gan GT
rooney a ddywedodd:beth, ni fod anwybyddu llyfr y Datguddiad- pam?


Llyfr sydd o ddiddordeb i nytars fel Charles Manson a David Koresh a chdi ydi o.

Damwain llwyr ydi'r ffaith bod y llwyth o nonsens yn y Beibl yn y lle cyntaf.

PostioPostiwyd: Sul 30 Rhag 2007 2:20 am
gan Jon Bon Jela
Sori i fod yn super-ystrydebol, ond...

Imagine there's no Heaven
It's easy if you try
No hell below us
Above us only sky
Imagine all the people
Living for today

Imagine there's no countries
It isn't hard to do
Nothing to kill or die for
And no religion too
Imagine all the people
Living life in peace

You may say that I'm a dreamer
But I'm not the only one
I hope someday you'll join us
And the world will be as one

Imagine no possessions
I wonder if you can
No need for greed or hunger
A brotherhood of man
Imagine all the people
Sharing all the world

You may say that I'm a dreamer
But I'm not the only one
I hope someday you'll join us
And the world will live as one