Helo Rhys, ddaru i chi holi am esboniad o rationale Gatholig. Gwnaf ymdrech i wneud hynny.
Mae ‘na nifer o agweddau yn perthyn i athrawiaeth yr Eglwys ar wleidyddaieth. A rhaid i mi gyfaddef nad oes gennyf lawer o ddiddordeb yn y pwnc, er ‘roedd rhaid astudio’r peth (amser maith yn ôl), felly pe bawn yn cynnig dadansoddiad o ‘rationale’ athrawiaeth ar wleidyddaieth rhywbeth diffygiol fydd e. Ac ar ben hynny ‘nid yw gwleidyddiaeth fel y cyfryw yn fy nghyffroi.
Serch hynny dyma ymgais i daflu ychydig o olau ar y pwnc. Bydd yn fuddiol cyn cychwyn esbonio ychydig am fethodoleg diwinyddiaeth Gatholig. Yn aml iawn defnyddir un sy’n dilyn patrwm o nifer o gamau, sy’n seiliedig neu’n tynnu ar wahanol ffynonellau (=loci, locus). Mae ‘na nifer o loci fel yr Ysgrythur, y Tadau a all hefyd gynnwys litwrgi a Deddf Naturiol (ceir disgrifiad da a chryno yn
http://www.radicalacademy.com/philnaturallaw.htm). Yn arferol dyma’r ffurf a’r loci
Cam
1 Cyflwyno testun
2 Tystiolaeth yr Ysgrythur
2.1 Hen Destament
2.2 Testament Newydd
3 Y Tadau e.e., Awstin Sant, Iohannes Chrysostom
4 Dogfennau swyddogol y Cynghorau a’r Pabau
5 Diwinyddion
5.1 Oesoedd Canol e.e., Tomos o Acwin, Bonaventure
5.2. Cyfnod modern
5.2.1 Modern Cynnar Suarez, Tomos y Groes
5.2.2 Modern diweddar – Franzelin, Newman
5.3 Cyfoes – Rahner, von Balthasar
6 Synthesis o’r cyfan
NB Dull diwinydda yw hyn, ac nid yw canlyniadau’r broses o reidrwydd â statws swyddogol nac awdurdodedig. Er mwyn gweld beth yw safbwynt swyddogol yr Eglwys rhaid edrych ar ddatganiadau a dogfennau swyddogol yr Eglwys. Yn aml iawn nid yw rhain yn datgelu y rationale, a rhaid ceisio daddansoddi’r rationale maent yn seiliedig arnynt.
Un gair wrth gychwyn am Orchymyn Diwylliannol. Edrychais yn fanylach ar hyn ac ar y cyfeiriadau Ysgrythurol yr oeddech yn eu cynnig.
Y broblem gyda defnyddio dyfyniadau ysgrythurol mewn dadl yw bod ‘na beryg iddo ddechrau edrych fel treiffl. Er mwyn gwneud y treiffl yn fwy deniadol mae rhywun wedi gwasgaru ‘Hundreds and thousands’ arno, dydi nhw ddim yn cyfrannu llawer at y treiffl ei hun. O ran y dyfyniadau Gen 1.28; 2.15; 9.1-3; 9.7 ‘does dim sôn am wleidyddiaeth na chymdeithas ddynol ynddynt, sôn am awdurdod dyn dros y byd naturiol y maent. Rhaid mai esiampl o ‘eisegesis’ sydd yma ac nid ‘exegesis’. Y broblem gyda defnyddio adnod neu ymadrodd Ysgrythurol yw ei fod yn cael ei dynnu allan o’i gyd-destun a’i orfodi i gario dehongliad neu ystyr sy’n estron i’w gyd-destun gwreiddiol. Mae hyn yn esiampl o fethodoleg annigonol. Nid yw’r adnodau hyn, yn eu cyd-destun gwreiddiol, yn awgrymu bod Duw yn gorchymyn dyn i wleidydda. Rhaid bod yn ymwybodol o, a pharchu, egwyddorion esboniadol. Y nod yw darllen ystyr allan o’r testun, nid darllen ystyr i mewn i’r testun. Ni wnaeth y dystiolaeth/dehongliad fy argyhoeddi bod y Gorchymyn Diwylliannol yn ‘working hypothesis’ llwyddiannus.
O safbwynt dadl athronyddol / ddiwinyddol teimlaf nad yw cyn-seiliau Gorchymun Diwylliannol wedi eu gosod yn dda, ac nad yw y thesis yn rhesymegol gywir.
Er wedi dweud hynny ‘rwy’n cytuno â’r nod, sef y dylai “Gristnogion ymhél â'r byd, ac mae hynny’n cynnwys gwleidyddiaeth. Dylai Cristnogion fynegi barn ac arwain ar bob math o faterion a pheidio ag aros tan y gorthrwm eithaf”, ac maent yn syniadau sy’n cael eu harddel a’u dysgu gan yr Eglwys. Ond y rationale am hynny yw Deddf Naturiol
O safbwynt yr Eglwys, byddwn y cytuno i’r dim ein bod yn trafod rhywbeth sydd yn bod o dan amodau a chyflwr dyn wedi’r gwymp. Byddwn yn cytuno hefyd bod sylwad Louis Berkhof yn gyson ag athrawiaeth Gatholig.
Y man cychwyn, byddwn ni’n dadlau, yw Deddf Naturiol, mae gwleidydda yn rhan o natur dyn, ‘roedd yn bod tu allan i gymunedau Iddewig ac yn bodoli cyn i Israel fod. Teimlaf nad yw cyfeirio at hanesion megis y Dilyw a’r Creu er mwyn dod o hyd i egwyddor awdurdodol yn ddigonol. Rhaid cael sail sy’n ‘a priori’ er mwyn hynny. Cofier mai trafod gwleidydda yr ydym ac nid Datguddiad.
Mae’r Ysgrythur ei hun yn dwyn gwahanol fath o dystiolaethau am y gyfundrefn wleidyddol. Rhai, megis Paul Sant, o blaid y gyfundrefn sy’n bod, eraill, megis awdur Llyfr y Datguddiad, yn erbyn. Mae awdur Efengyl Ioan yn gosod tensiwn rhwng y byd (kosmos) a Iesu, tra bod efengyl Matthew yn lled niwtral am yr awdurdodau Rhufeinig (seciwlar) ac yn negatif am yr awdurdodau Iddewig (crefyddol). Mae hyn yn awgrymu bod tystiolaeth yr Ysgrythurau yn ddryslyd. Y cwestiwn sy’n codi yw sut i ddehongli. A dyma ble mae ‘eglwys’ a ‘magisterium’ yn bwysig. Ni chredaf fod yr Eglwys yn gweld ei hyn fel sefydliad sy’n trefnu gwleidyddiaeth. Oes, mae ganddi rôl i chwarae, fel pob cymuned ffydd. Y rôl broffwydol a bugeiliol sy’n cadw gwleidyddiaeth mewn trefn ac yn sicrhau cyfiawnder. ‘Rydym ni Gristnogion yn anelu at gyflawnder Teyrnas Dduw a rhaid derbyn mai rhywbeth a ddaw yn ei dro yw hynny, tan hynny rhaid cyhoeddi’r weledigaeth a realiti’r Deyrnas i gyfundrefn amherffaith / llygredig / pechadurus a sicrhau cyfiawnder ble ma’ modd.
Ond ie, ble mae’r ‘rationale’. Wel yn y Ddeddf Naturiol, sy’n rhan o greadigaeth Duw ac yn adlewyrchu, mewn modd amherffaith, egwyddorion a moeseg y dylid eu dilyn. Canllaw yw Deddf Naturiol Gristnogol, canllaw a berffeithir ac a oleuir gan Ddatguddiad.
Y fantais o ddefnyddio Deddf Naturiol yw:
· Nid rhywbeth mae dyn wedi’i greu ydyw
· Mae’n seiliedig ar natur a strwythur realiti
· Mae’n gyson, ac yr un peth ydyw i bob un
· Mae’n rheol neu’n batrwm cyson-ddigyfnewid all pob person ei ganfod
· Dyma’r ddeddf foesol naturiol all bawb ganfod / dirnad
· Y cyfrwng y gall bawb ei ddefnyddio i arwain at ddaioni
Gellir gweld natur y peth pan mae rhywun yn apelio at y cysyniad o chwarae teg. Mae’n gyfraith sydd yn rhan annatod o fod yn ddynol, ac wedi ei hysgrifennu ar galon pawb. Mae hefyd yn gysylltiad bywiog rhwng y deall a realiti.
A hynny yw, yn fras iawn, iawn, y rationale Gatholig. Man cychwyn gwahanol a method gwahanol, ond yr un nod, ac yn arwain at y ffaith bod rhaid i ni fel Cristnogion ymwneud â gwleidyddiaeth a’r byd.
O ie, wrth law mae’r frawddeg ''ar sail dysgeidiaeth y Beibl fod dyn wedi syrthio ac yn sylfaenol ddrwg'' braidd yn ysgubol. Mae’r Ysgrythur yn dweud ein bod yn syrthiedig ac yn haeddi cosb oherwydd y Gwymp, ac ein bod yn gaeth i bechod, ond nid yw’r Ysgrythur yn dweud bod dyn yn ‘hollol ddrwg’, nac yn ‘sylfaenol ddrwg.”
Dysgeidiaeth yr Eglwys yw bod dyn yn cario’r ‘imago Dei’ (delwedd Duw) ynddo trwy rinwedd cael ei greu gan Dduw. Yn y Gwymp torrodd neu sathrwyd yr ‘imago Dei’, fel drych yn chwalu. Mae dyn yn dal i adlewyrchu marc ei greawdwr, ond mewn modd diffygiol ac amherffaith. Oherwydd y Gwymp mae angen help ar ddyn rhag lithro i golledigaeth, a’i rydhhau o gaethiwed i bechod, help (heb unryw amod) a ddarparwyd gan Dduw. Achubiaeth trwy ffydd a gras.