gan Rhys Llwyd » Sul 23 Rhag 2007 4:01 pm
Mae hyn i gyd wrth gwrs yn besides the point i ni'r Cymry ac yn arbennig y Gymru Gristnogol oherwydd ein bod ni wedi sylwi mor bell nol a 1660au na ddylid cymysgu gwladwriaeth ac eglwys ac y dylai'r ddau gael dal integriti ar ben eu hunain. Datgysylltwyd yr Eglwys yng Nghymru yn 1920 OND mae BBC Cymru yn parhau i roi mwy o 'air-time' i Archesgob Cymru bob Nadolig a Phasg nag y mae arweinwyr Eglwysi ymneulltuol, pentacostalaidd ayyb... yn cael. Ond mae hynny yn dweud mwy am y BBC na neb arall amwni.
Ond at Blair. Ond os ydy Blair wedi bod yn Babydd tu ôl i ddrysau caeedig ers blynyddoedd maith (rhai yn awgrymu ers 30 mlynedd) pa wahaniaeth mewn difri calon a wna ffydd bersonol Prif Weinidog i'w swydd? Wel, mwy na fyddech chi'n meddwl. Mae'r un dadleuon a oedd o amgylch yn 1660au yn bodoli heddiw sef bod Gwleidyddion a phobl mewn swyddi dylanwadol sydd hefyd yn perthyn i Eglwys Rufain yn, ag o fethu meddwl am air gwell, 'euog' o ddilyn cyngor/canllaw y Pab rhagor na cyngor/canllaw yr ysgrythur a'r etholwyr. Er enghraifft yn 2004 fe wrthododd rhai Esgobion Pabyddol weinyddu'r cymun i John Kerry a'i ymgyrchwyr oherwydd eu bod nhw'n fwy 'meddal' ar 'faterion mosegol' na Bush a'i ymgyrchwyr (i beg to differ!)
Dyma abell sylwad o safbwynt diwinyddol:
1. Mae'r Pabyddion yn dal safbwynt tra gwahanol i'r Protestaniaid ar ymwnelo yr Eglwys a Gwleidyddiaeth. Mae Eglwys Rufain yn gyfrifol am osod yr Eglwys a'r Byd yn erbyn ei gilydd. Y naill yn Sanctaidd a'r llall yn parhau dan felltith. Gwelant bopeth sy tu allan i'r Eglwys fel petai dan ddylanwad yr un drwg ac fe ddefnyddiwyd Tynghedwr (Exorcist) i ddifa'r grym drwg yma o bopeth ddeuai dan ddylanwad, yn ddylanwad neu yn ysbrydoliaeth ar yr eglwys. Mewn gwlad Gristnogol (fel y mai Prydain Tony Blair) byddai rhaid i bopeth cymdeithasol gael ei roi dan adain yr Eglwys – yr unig le 'saff' i fod (dyma sy'n arwain gwleidyddion catholig i wrando ar y Pab cyn eu Beibl a chyn eu etholwyr). Canlyniad hyn fyddai fod rhaid i'r arweinwyr gwleidyddol a chyfreithiol fod yn eneiniog ac wedi eu clymu i gyffes.
2. Fy marn academaidd i yw nad oes gan Babyddiaeth 'rational' lawn a chall i ymwneud a'r gwleidyddol all ffitio i mewn i wleidyddiaeth a threfn ddemocratiaeth gyfoes heddiw. Hyd y gwela i yr opsiynau mae Pabyddiaeth yn cynnig yw tynnu allan o'r sffêr wleidyddol yn llwyr NEU ceisio adfer trefn Theocrataidd a gorfodi moeswedd Gatholig-Gristnogol ar wrthrychau eu gwladwriaeth – ni fyddai yr un o rhain yn 'ymarferol' i Tony Blair ag yntae yn Brif Weinidog Gwladwriaeth neo-Seciwlar Ddemocrataidd Fodern. Fe wydda Blair hyn fe dybiaf, ac drwy gadw ei Babyddiaeth yn dawel tan iddo adael 10 Stryd Downing mae wedi arbed llawer iawn iawn o helynt a dadleuon mosegol, cyfansoddiadol hyd yn oed, am berthynas ffydd – gwladwriaeth – eglwys – moesau – rhyfel – sancteiddrwydd bywyd ayyb.... Yn y bôn, mae wedi dilyn cyngor ei gyn-gyfarwyddwr cyfathrebu, Alister Cambell ac mae wedi cadw at; “We don't do God.” Di-asgwrn cefn? Ofn beth fyddai'r Pab yn dweud am ei benderfyniadau?
Tybiaf mai'r prif reswm am beidio 'dod allan' yn gynt oedd er mwyn osgoi gorfod ymdrin a'r gwleidyddol o safbwynt Cristnogol-Babyddol. Pe bawn i'n credu'r hyn mae'r Pabyddion yn ei gredu baswn ni'n ei chael hi'n anodd iawn gweithio o fewn unrhyw Blaid/trefn wleidyddol ym Mhrydain heddiw.
Byddai ddifyr gwybod beth yn union a ddenodd Blair i Rufain? A'i mysteg Catholigiaeth? Ag ystyried na lywiodd ei Gatholigiaeth fawr ar ei wleidyddiaeth (mae Ann Widecome yn gywir i nodi hynny) maen rhaid mae mysteg/ofergoeliaeth y defodau personol catholig sydd wedi ei ddennu rhagor nar gyfundrefn ar ddogma gatholig gynhwysfawr. Hynny yw mae'n leicio'r steil a does dim byd dyfnach na hynny i'w gatholigiaeth hyd y gwel;a i oherwydd dydy e heb esbonio unrhyw resymau diwinyddol dwfwn pam symud.