GT a ddywedodd:Wel Rhys, edrych ar y peth fel hyn....
Mae Protestaniaeth yn gallu arwain at lanast llwyr. Mae gen ti dri neu bedwar Capel sydd a chredoau gwahanol ...
Gall John Williams Brynsiencyniaid y Byd anfon llwyth o hogiau sydd wedi dilyn crefydd sydd a'i heddychiaeth wedi ei seilio ar un math o ddarlleniad o'r Beibl i Ffrainc i farw trwy ddyfynnu darnau eraill o'r Beibl. A thrwy'r cwbl dydi'r Beibl ddim yn dweud wrthyt beth ydi dy agwedd i fod os oes rhywun yn cynnig lein o cocen i ti, na beth ddylai dy agwedd fod at lesbianiaeth na chant a mil o sefyllfaoedd eraill. .
Dwi'n dallt dy bwynt di, fe ryddhaodd y diwgiad protestanaidd dan Luther ac yna Calfin bobl oddi wrth awdurdod y Pab ac yn fe aeth pethau rhy bell erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg wrth i brotestaniaid fel Schleiermarcher a Harnac (ac yma yng nghymru David Adams, Miall Edwards a Lewis Edwards i raddau llai) ildio gormod o dir i foderniaeth a'r oleuedigaeth a olygoedd nid ryddhau o awdurdod y Pab ond rhyddhau o'r cysyniad o awdurdod yn gyfan gwbl ac felly do fe aeth pethau ar chwal. (I'r geeks yn ein plith darllenwch y pabur yma (PDF) dwi wedi ysgrifennu yn yr adran ym Mangor yn trafod hyn)
Roedd Calfiniaeth yn gyfundrefn lawn, ie dynol, ond roedd wedi ei seilio ar ddau grand megathema sef penarglwyddiaeth Duw ar bopeth (nid dim ond iechawdwriaeth) ac awdurdod y Beibl - dim ond wedi i foderniaeth ddod i wanhau integriti Calfiniaeth (via Lewis Edwards, Prifysgol Cymru a'r Traethodydd yn bennaf) y trodd protestaniaeth Gymreig yn glytwaith o syniadau tra gwahanol fel dy ni'n gweld heddiw. O ran y pentre dychmygol gyda tri capel ac eglwys yn dysgu pethau gwahanol heddiw - nol yn 1820 Calfinaidd byddai dysgeidiaeth greiddiol y Methodistiaid, Bedyddwyr, Annibynwyr a'r Eglwys Wladol - yng Nghymru roedd y Weleaid mewn ffordd wastad yn Galfinwyr cymhedrol a ddim wedi llithro i fod yn arminwyr pur fel yn lloegr.
Felly yn fy nhyb i mae Protestaniaeth wedi ei wanhau nid oherwydd ef ei hun or rheidrwydd ond oherwydd ei gyfaddawdu o 1850 ymlaen gyda systemau meddwl seciwlar fel moderniaeth. Mae dy bostiad di yn portreadu Protestaniaeth fel clytwaith yn bawf o hyn.
GT a ddywedodd:Mae Pabyddiaeth yn symlach - mae gen ti rhywun i wneud y dehongli ar dy ran - ti'n osgoi llanast moesol a deallusol
Ydy ac nac ydy. Maen sicr yn ffydd fwy diog feiddia i awgrymu. Ond gei di ddim byd symlach na ffydd sydd wedi seilio ar yr angen a'r rheidrwydd i bawb ddod at Dduw yn direct a trostynt hwy eu hunain ac nid via sacramentau, offeiriadau, pab, eglwys, mass, cyffesgell ayyb... fel y mae eglwys Rufain yn dysgu.