Tony Blair: Pabydd

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Tony Blair: Pabydd

Postiogan rooney » Sul 23 Rhag 2007 12:17 am

http://news.bbc.co.uk/1/hi/uk/7157409.stm

Pob lwc Blair. Mor siomedig fod e ddim wedi bod fwy agored am ei ffydd grefyddol pan yn Brif Weinidog. Mwy siomedig byth ei fod wedi llywodraethu'n groes i ddysgeidiaeth yr Eglwys Gatholig ar faterion moesol fel erthylu, "hawliau" hoywon ayyb.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Positif80 » Sul 23 Rhag 2007 12:19 am

Hawliau i hoywon? Bring back the birch, that's what I say!

Ydi hyn yn newyddion? Cyn brif weinidog yn troi at ffydd arall? Hold the front page!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Positif80 » Sul 23 Rhag 2007 12:34 am

"In other news, Michael Heseltine has taking up bass fishing. More at ten!"
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan rooney » Sul 23 Rhag 2007 12:51 am

yr wyt yn byw mewn byd cwbl naive os wyt yn meddwl nad yw crefydd yn bwysig, ddim pwy pwysig na pysgota, yn y byd ni'n byw ynddo
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan dewi_o » Sul 23 Rhag 2007 4:59 am

rooney a ddywedodd:yr wyt yn byw mewn byd cwbl naive os wyt yn meddwl nad yw crefydd yn bwysig, ddim pwy pwysig na pysgota, yn y byd ni'n byw ynddo


Does neb yn dweud fod crefydd ddim yn bwysig. Y cwestiwn yw, ydy cyn brifweinidog yn newid ei grefydd yn rywbeth pwysig a dylai hyn fod yn un o brif eitemau ar y newyddion.
Gwyn fyd cefnogwyr pel droed Wrecsam a Chymru:
Gwyn eu byd y rhai sy'n disgwyl dim, ni chant eu siomi.
Rhithffurf defnyddiwr
dewi_o
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 213
Ymunwyd: Sul 13 Mai 2007 9:52 am
Lleoliad: Caerffili

Postiogan huwwaters » Sul 23 Rhag 2007 11:25 am

Mae o hyd wedi ystyried ei hun yn babydd siwr, ond mae cyfraith gwlad y DU yn gwahardd unrhyw swydd uchel o fewn y llywodraeth fynd i gatholig.

Dim ond rwan ma'n gallu ei ddangos, achos tydio byth am fod mewn swydd mor uwch.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan krustysnaks » Sul 23 Rhag 2007 2:37 pm

huwwaters a ddywedodd:Mae o hyd wedi ystyried ei hun yn babydd siwr, ond mae cyfraith gwlad y DU yn gwahardd unrhyw swydd uchel o fewn y llywodraeth fynd i gatholig.

Dim ond rwan ma'n gallu ei ddangos, achos tydio byth am fod mewn swydd mor uwch.

Myth yw hyn.

Dangos y gyfraith sy'n atal Pabydd rhag bod yn Brif Weinidog i mi.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan Dylan » Sul 23 Rhag 2007 3:01 pm

krustysnaks a ddywedodd:
huwwaters a ddywedodd:Mae o hyd wedi ystyried ei hun yn babydd siwr, ond mae cyfraith gwlad y DU yn gwahardd unrhyw swydd uchel o fewn y llywodraeth fynd i gatholig.

Dim ond rwan ma'n gallu ei ddangos, achos tydio byth am fod mewn swydd mor uwch.

Myth yw hyn.

Dangos y gyfraith sy'n atal Pabydd rhag bod yn Brif Weinidog i mi.


does dim cyfraith sy'n atal Pabydd rhag bod yn Brif Weinidog Prydain, mae'n wir, ond eto i gyd mae'n rhaid i'r brenin neu frenhines fod yn Brotestant, sy'n dangos bod gwrth-Babyddiaeth sefydliadol yn parhau i fodoli ar bapur o leiaf

dw i'n ymfalchio i raddau y byddai cyfaddef ei Babyddiaeth wedi bod yn ormod o destun embaras i Blair petai wedi "dod allan" yn ystod ei lywyddiaeth. Ni ddylai mater o'r fath fod yn destun cyfraith gwlad wrth reswm, ond mae'n wych bod dogma crefyddol yn cael ei ystyried mewn modd mor ddirmygus gan drwch y boblogaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Sul 23 Rhag 2007 4:01 pm

Dylan a ddywedodd:...ond mae'n wych bod dogma crefyddol yn cael ei ystyried mewn modd mor ddirmygus gan drwch y boblogaeth.


myth
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 23 Rhag 2007 4:01 pm

Mae hyn i gyd wrth gwrs yn besides the point i ni'r Cymry ac yn arbennig y Gymru Gristnogol oherwydd ein bod ni wedi sylwi mor bell nol a 1660au na ddylid cymysgu gwladwriaeth ac eglwys ac y dylai'r ddau gael dal integriti ar ben eu hunain. Datgysylltwyd yr Eglwys yng Nghymru yn 1920 OND mae BBC Cymru yn parhau i roi mwy o 'air-time' i Archesgob Cymru bob Nadolig a Phasg nag y mae arweinwyr Eglwysi ymneulltuol, pentacostalaidd ayyb... yn cael. Ond mae hynny yn dweud mwy am y BBC na neb arall amwni.

Ond at Blair. Ond os ydy Blair wedi bod yn Babydd tu ôl i ddrysau caeedig ers blynyddoedd maith (rhai yn awgrymu ers 30 mlynedd) pa wahaniaeth mewn difri calon a wna ffydd bersonol Prif Weinidog i'w swydd? Wel, mwy na fyddech chi'n meddwl. Mae'r un dadleuon a oedd o amgylch yn 1660au yn bodoli heddiw sef bod Gwleidyddion a phobl mewn swyddi dylanwadol sydd hefyd yn perthyn i Eglwys Rufain yn, ag o fethu meddwl am air gwell, 'euog' o ddilyn cyngor/canllaw y Pab rhagor na cyngor/canllaw yr ysgrythur a'r etholwyr. Er enghraifft yn 2004 fe wrthododd rhai Esgobion Pabyddol weinyddu'r cymun i John Kerry a'i ymgyrchwyr oherwydd eu bod nhw'n fwy 'meddal' ar 'faterion mosegol' na Bush a'i ymgyrchwyr (i beg to differ!)

Dyma abell sylwad o safbwynt diwinyddol:

1. Mae'r Pabyddion yn dal safbwynt tra gwahanol i'r Protestaniaid ar ymwnelo yr Eglwys a Gwleidyddiaeth. Mae Eglwys Rufain yn gyfrifol am osod yr Eglwys a'r Byd yn erbyn ei gilydd. Y naill yn Sanctaidd a'r llall yn parhau dan felltith. Gwelant bopeth sy tu allan i'r Eglwys fel petai dan ddylanwad yr un drwg ac fe ddefnyddiwyd Tynghedwr (Exorcist) i ddifa'r grym drwg yma o bopeth ddeuai dan ddylanwad, yn ddylanwad neu yn ysbrydoliaeth ar yr eglwys. Mewn gwlad Gristnogol (fel y mai Prydain Tony Blair) byddai rhaid i bopeth cymdeithasol gael ei roi dan adain yr Eglwys – yr unig le 'saff' i fod (dyma sy'n arwain gwleidyddion catholig i wrando ar y Pab cyn eu Beibl a chyn eu etholwyr). Canlyniad hyn fyddai fod rhaid i'r arweinwyr gwleidyddol a chyfreithiol fod yn eneiniog ac wedi eu clymu i gyffes.

2. Fy marn academaidd i yw nad oes gan Babyddiaeth 'rational' lawn a chall i ymwneud a'r gwleidyddol all ffitio i mewn i wleidyddiaeth a threfn ddemocratiaeth gyfoes heddiw. Hyd y gwela i yr opsiynau mae Pabyddiaeth yn cynnig yw tynnu allan o'r sffêr wleidyddol yn llwyr NEU ceisio adfer trefn Theocrataidd a gorfodi moeswedd Gatholig-Gristnogol ar wrthrychau eu gwladwriaeth – ni fyddai yr un o rhain yn 'ymarferol' i Tony Blair ag yntae yn Brif Weinidog Gwladwriaeth neo-Seciwlar Ddemocrataidd Fodern. Fe wydda Blair hyn fe dybiaf, ac drwy gadw ei Babyddiaeth yn dawel tan iddo adael 10 Stryd Downing mae wedi arbed llawer iawn iawn o helynt a dadleuon mosegol, cyfansoddiadol hyd yn oed, am berthynas ffydd – gwladwriaeth – eglwys – moesau – rhyfel – sancteiddrwydd bywyd ayyb.... Yn y bôn, mae wedi dilyn cyngor ei gyn-gyfarwyddwr cyfathrebu, Alister Cambell ac mae wedi cadw at; “We don't do God.” Di-asgwrn cefn? Ofn beth fyddai'r Pab yn dweud am ei benderfyniadau?

Tybiaf mai'r prif reswm am beidio 'dod allan' yn gynt oedd er mwyn osgoi gorfod ymdrin a'r gwleidyddol o safbwynt Cristnogol-Babyddol. Pe bawn i'n credu'r hyn mae'r Pabyddion yn ei gredu baswn ni'n ei chael hi'n anodd iawn gweithio o fewn unrhyw Blaid/trefn wleidyddol ym Mhrydain heddiw.

Byddai ddifyr gwybod beth yn union a ddenodd Blair i Rufain? A'i mysteg Catholigiaeth? Ag ystyried na lywiodd ei Gatholigiaeth fawr ar ei wleidyddiaeth (mae Ann Widecome yn gywir i nodi hynny) maen rhaid mae mysteg/ofergoeliaeth y defodau personol catholig sydd wedi ei ddennu rhagor nar gyfundrefn ar ddogma gatholig gynhwysfawr. Hynny yw mae'n leicio'r steil a does dim byd dyfnach na hynny i'w gatholigiaeth hyd y gwel;a i oherwydd dydy e heb esbonio unrhyw resymau diwinyddol dwfwn pam symud.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron