Tony Blair: Pabydd

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 31 Rhag 2007 10:28 am

GT a ddywedodd:Wel Rhys, edrych ar y peth fel hyn....

Mae Protestaniaeth yn gallu arwain at lanast llwyr. Mae gen ti dri neu bedwar Capel sydd a chredoau gwahanol ...

Gall John Williams Brynsiencyniaid y Byd anfon llwyth o hogiau sydd wedi dilyn crefydd sydd a'i heddychiaeth wedi ei seilio ar un math o ddarlleniad o'r Beibl i Ffrainc i farw trwy ddyfynnu darnau eraill o'r Beibl. A thrwy'r cwbl dydi'r Beibl ddim yn dweud wrthyt beth ydi dy agwedd i fod os oes rhywun yn cynnig lein o cocen i ti, na beth ddylai dy agwedd fod at lesbianiaeth na chant a mil o sefyllfaoedd eraill. .


Dwi'n dallt dy bwynt di, fe ryddhaodd y diwgiad protestanaidd dan Luther ac yna Calfin bobl oddi wrth awdurdod y Pab ac yn fe aeth pethau rhy bell erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg wrth i brotestaniaid fel Schleiermarcher a Harnac (ac yma yng nghymru David Adams, Miall Edwards a Lewis Edwards i raddau llai) ildio gormod o dir i foderniaeth a'r oleuedigaeth a olygoedd nid ryddhau o awdurdod y Pab ond rhyddhau o'r cysyniad o awdurdod yn gyfan gwbl ac felly do fe aeth pethau ar chwal. (I'r geeks yn ein plith darllenwch y pabur yma (PDF) dwi wedi ysgrifennu yn yr adran ym Mangor yn trafod hyn)

Roedd Calfiniaeth yn gyfundrefn lawn, ie dynol, ond roedd wedi ei seilio ar ddau grand megathema sef penarglwyddiaeth Duw ar bopeth (nid dim ond iechawdwriaeth) ac awdurdod y Beibl - dim ond wedi i foderniaeth ddod i wanhau integriti Calfiniaeth (via Lewis Edwards, Prifysgol Cymru a'r Traethodydd yn bennaf) y trodd protestaniaeth Gymreig yn glytwaith o syniadau tra gwahanol fel dy ni'n gweld heddiw. O ran y pentre dychmygol gyda tri capel ac eglwys yn dysgu pethau gwahanol heddiw - nol yn 1820 Calfinaidd byddai dysgeidiaeth greiddiol y Methodistiaid, Bedyddwyr, Annibynwyr a'r Eglwys Wladol - yng Nghymru roedd y Weleaid mewn ffordd wastad yn Galfinwyr cymhedrol a ddim wedi llithro i fod yn arminwyr pur fel yn lloegr.

Felly yn fy nhyb i mae Protestaniaeth wedi ei wanhau nid oherwydd ef ei hun or rheidrwydd ond oherwydd ei gyfaddawdu o 1850 ymlaen gyda systemau meddwl seciwlar fel moderniaeth. Mae dy bostiad di yn portreadu Protestaniaeth fel clytwaith yn bawf o hyn.

GT a ddywedodd:Mae Pabyddiaeth yn symlach - mae gen ti rhywun i wneud y dehongli ar dy ran - ti'n osgoi llanast moesol a deallusol


Ydy ac nac ydy. Maen sicr yn ffydd fwy diog feiddia i awgrymu. Ond gei di ddim byd symlach na ffydd sydd wedi seilio ar yr angen a'r rheidrwydd i bawb ddod at Dduw yn direct a trostynt hwy eu hunain ac nid via sacramentau, offeiriadau, pab, eglwys, mass, cyffesgell ayyb... fel y mae eglwys Rufain yn dysgu.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan GT » Llun 31 Rhag 2007 6:15 pm

Diog, bas, ceisio creu theocratiaeth, ofergoelus.

Rhagfarnau microsectau Protestanaidd sydd wedi eu gwreiddio yn erlidigaethau'r unfed ganrif ar bymtheg a gwleidyddiaeth secteraidd yr ail ganrif ar bymtheg. Yr un hen feirniadaethau - yn union fel pe na bai'r Chwyldro Ffrengig erioed wedi digwydd, yn union fel petai tir mawr Ewrop o dan drefn ffiwdal o hyd.

Roedd world view yr hogiau hynny fyddai'n treulio eu hamser yn sgelcian o gwmpas Eglwysi ar gyrion y Short Strand yn ol yn y 70au er mwyn saethu'r sawl oedd yn croesi eu hunain wrth eu pasio, wedi ei seilio am fytholegau tebyg.

Waeth i ti heb a rhoi'r bai ar ddiwynyddwyr rhyddfrydig y bedwerydd ganrif ar bymtheg am yr hollti Protestanaidd - roedd hollti yn rhan o'r traddodiad Protestanaidd o'r cychwyn. Ni allai ond bod felly. Mae sawl ffordd o ddarllen y Testament Newydd, heb son am yr hen un. Yn wir mae'n bosibl darllen y Testament Newydd ei hun fel cyfaddawd gyda seciwlariaeth. Neu galli ei ddarllen fel anghydfod Iddewig yn cael ei ddwyn a'i gam ddefnyddio gan y byd an Iddewig. Neu galli ei ddarllen fel cyfres o alegoriau gnostaidd. Neu galli ei ddarllen mewn cant a mil o ffyrdd eraill.

Os ti'n dweud wrth bobl dehonglwch hyn oll yn eich ffordd eich hun, yna mae pobl am wneud hynny mewn cant a mil o ffyrdd gwahanol. Mae rhannu a mynd i gwahanol gyfeiriadau yn systemig i Brotestaniaeth - fel mae i Gymru.

O a rooney, dau bwynt sydyn:

(1) Mae yna rannau o'r Beibl nad oes werth ymhel a nhw - nonsens ydyn nhw. Mae'n adlewyrchu'n ddrwg arnat os ydi dy brif ddiddordeb yn y rhannau mwyaf gwirion a gwaedlyd. Waeth i ti heb a dyfynnu Timotheus i brofi bod yr ysgrythurau i gyd yn wir. Doedd gan Timotheus ddim ffordd o wybod pa elfennau fyddai'n cael eu derbyn a pha rhai fyddai'n cael eu gwrthod. Roedd yn cyn ddyddio'r ddadl honno.

(2) Does gen i ddim oll yn erbyn Protestaniaeth (a does gan yr Eglwys Babyddol ddim o ran hynny chwaith). Dwi jyst ddim yn or hoff o weld cynrychiolwyr microsectau cymharol ymylol yn hawlio traddodiad nad ydyn nhw ond yn rhan gweddol ddibwys ohono.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Llun 31 Rhag 2007 7:19 pm

GT a ddywedodd:
O a rooney, dau bwynt sydyn:

(1) Mae yna rannau o'r Beibl nad oes werth ymhel a nhw - nonsens ydyn nhw. Mae'n adlewyrchu'n ddrwg arnat os ydi dy brif ddiddordeb yn y rhannau mwyaf gwirion a gwaedlyd. Waeth i ti heb a dyfynnu Timotheus i brofi bod yr ysgrythurau i gyd yn wir. Doedd gan Timotheus ddim ffordd o wybod pa elfennau fyddai'n cael eu derbyn a pha rhai fyddai'n cael eu gwrthod. Roedd yn cyn ddyddio'r ddadl honno.


Mae'r Datguddiad yn delio gyda'r dyfodol. Efallai fod e'n ymddangos yn lyfr gwirion ar y darlleniad cyntaf, yn wir mae'n debyg fod e'n gwneud dim synnwyr o gwbl oherwydd yr holl symboliaeth ayyb. Nid diddordeb mewn pethau gwaedlyd sydd gen i, ond diddordeb yn y dyfodol a proffwydoliaethau Beiblaidd, a diddordeb yng nghynllun Duw- heb Datguddiad, fe fyddai cynlluniau Duw yn y dyfodol yn gyfrinach. Mae gadael Datguddiad allan o'r Beibl yr un mor hurt a gadael Genesis allan o'r Beibl. Does gen Gristnogion ddim i'w ofni.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Positif80 » Llun 31 Rhag 2007 11:00 pm

[Neges wedi ei ddileu - yn torri ar draws rhediad y sgwrs yn ddi-angen - Cymedrolwr]
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 01 Ion 2008 12:57 pm

Gyda llaw GT wyt ti'n Gristion? Y peth ydy hanfod Cristnogaeth ydy 'leap of faith,' ac un o'r leaps yna ydy credu fod y Beibl yn air ysbrydoledig gan Dduw - dyna ydw i'n credu - maen swnio'n nutts i chdi o bosib ac ar lefel gydol/wyddonol mae yn hurt i gredu hynny. Mae credu fod y Beibl yn air ysbrydoledig Duw yn perthyn i'r un maes a chredu mewn gwyrthiau, credu fod Iesu yn fab Duw ayyb... nid oes modd ei brofi yn fydol/wyddonol mater o ffydd ydyw. Dwi wedi cymryd y cam yna o ffydd ac wedi profi ei fod yn wir.

Wedi dweud hynny, rwy'n agored i'r ffaith fod y Beibl wedi medru cael ei gam ddehongli gan Gristnogion dros y canrifoedd a chael ei gam gyfieithu yn ogystal OND dwi'n 100% ffyddiog drwy ffydd fod megathema y Beibl am iechawdwriaeth trwy ffydd yn Iesu Grist yn gyson a chywir, er o bosib fod yr hyn sy'n cael ei alw yn 'faterion eilradd' yn agored i ddehongliadau a cham-ddehongliadau. Ond does dim dadlau am hanfod iechawdwriaeth, yn hynny o beth mae'r Protestaniaid a'r Catholigion hyd yn oed yn gytuno - iachawdwriaeth TRWY Grist ydy megathema glir pob beibl a phob cyfieithiad cyn y dechrau un a does dim dadl o gwbl fod hyn wedi cael ei sgiwio e.e. cymer yr "efengylau" sydd wedi eu gadael allan o'r Beibl, sgandalau fel fod gan Iesu wraig ayyb... yw eu heuriad nhw nid rhywbeth mwy ysgytwol fel mae Ioan oedd y gwir waredwr nid Iesu os wyt ti'n deall be sgenai. Dwi'n Biblical infalililist yn hytrach na Biblical inerantist. Wedi dweud hynny dwi'n credu fod yr ysgythurau yn gwbwl gyflawn OND nad yw ein dehongliad ni yn gyflawn ohonynt - fel dywedodd Anslem 'ffydd yn ceisio deall.'
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Tony Blair: Pabydd

Postiogan Philoctetes » Gwe 04 Ion 2008 9:01 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Mae Eglwys Rufain yn gyfrifol am osod yr Eglwys a'r Byd yn erbyn ei gilydd. Y naill yn Sanctaidd a'r llall yn parhau dan felltith.


Mae’r gosodiad yma’n anghywir. Gweler Gaudium et Spes (1965) par. 73-76, ble mae’r Eglwys Gatholig yn esbonio ei hagwedd tuag at wleidyddiaeth a chymdeithas. Gellir darllen y testun ar:

http://www.vatican.va/archive/hist_coun ... es_en.html

Dichon bydd y fuddiol darllen sylwadau Tomos o Acwin (ystyrir ef fel y diwinydd swyddogol yr Eglwys) ar wleidyddaieth. Wrth disgrifio agwedd neu safbwynt sefydliad dylid darllen yr hyn ma’ nhw’n dweud yw ei safbwynt yn hytrach ‘na dibynnu ar ffynonellau ail law.
Rhithffurf defnyddiwr
Philoctetes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 4
Ymunwyd: Iau 03 Ion 2008 3:35 pm

Postiogan Hen Rech Flin » Sad 05 Ion 2008 5:13 am

Rhys Llwyd a ddywedodd: yng Nghymru roedd y Weleaid mewn ffordd wastad yn Galfinwyr cymhedrol a ddim wedi llithro i fod yn arminwyr pur fel yn lloegr.


Am sylw hurt!

Un o wendidau'r Eglwys Fethodistaidd (Y Wesleaid i ti) yw ei fod yn cyfri Cymru a Lloegr fel uned, gan hynny does dim gwahaniaeth rhwng barn / agwedd yr enwad yn y ddwy wlad ar unrhyw bwnc (gan gynnwys Calfiniaeth). Barn swyddogol Wesleaid Cymru a Lloegr yw barn Gynhadledd Fethodistaidd Cymru & Lloegr.

Dydy'r Eglwys Fethodistaidd ddim yn Arminaidd yng ngwir ystyr y gair (yn sicr dim yn arminwyr pur). Sarhad gwreiddiol sydd wedi troi yn llaw-fer ydyw'r tag Arminaidd. Yr unig beth Arminaidd am yr Eglwys Fethodistaidd yw'r faith nad ydyw yn derbyn eithafion dysgeidiaeth etholedigaeth gras yr Uchel Galfiniaid. Y mae'r Eglwys Fethodistaidd yn gytûn ar y pwnc yma yng Nghymru a Lloegr.

Yn hanesyddol bu'r ddadl rhwng Uchel Galfiniaeth ac Arminiaeth yn boethach yng Nghymru nag ydoedd yn Lloegr am resymau amlwg. Gan hynny roedd y Cymry Wesleaidd yn llawr mwy Arminaidd eu proffil cyhoeddus nag oedd y Saeson Wesleaidd o bell ffordd!
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Muralitharan » Sul 13 Ion 2008 10:53 pm

Mae’n ddrwg gen i am fod mor hir yn ymateb i sylw Rhys; salwch a phellter oddi wrth gyfrifiaduron oedd yn bennaf gyfrifol am hynny.
Mae’n ddrwg gen i hefyd os oedd fy sylwadau i wedi tramgwyddo. Roeddwn i wedi gwylltio mae’n rhaid – effaith cael fy esgymuno o’r ‘Gymru Gristnogol’ gan frawddeg gyntaf Rhys, siwr o fod. Dwi’n falch gyda llaw fod Rhys wedi cyfaddef mai rant oedd ganddo, ac er nad oeddwn i wedi gwneud cyhuddiad agored yn cyfeirio at agwedd ymhonnus rhai o’i sylwadau - roedd fy ymgais bathetig at eironi wedi ceisio awgrymu hynny – dwi’n falch fod Rhys wedi disgyn ar ei fai yn hynny o beth hefyd.

Oherwydd ei farn academaidd (ac nid ei gredoau crefyddol ei hun?) mae’n dewis rhwystro tua biliwn ohonom rhag cymryd rhan gall mewn gwleidyddiaeth, oherwydd :

‘nad oes gan Babyddiaeth 'rational' lawn a chall i ymwneud â'r gwleidyddol all ffitio i mewn i wleidyddiaeth a threfn ddemocratiaeth gyfoes heddiw’

[Credaf mai ‘rationale’ a olygir yma. Gyda llaw mi fyddwn yn disgwyl gramadeg a chystrawen gywirach yn gyffredinol gan academydd, er mwyn lleihau’r posiblrwydd o gam-ddeall. Er enghraifft - (fel y mai Prydain Tony Blair) a hefyd A'i mysteg Catholigiaeth. Neu’r frawddeg ryfeddol maen rhaid mae mysteg/ofergoeliaeth y defodau personol catholig sydd wedi ei ddennu rhagor nar gyfundrefn ar ddogma gatholig gynhwysfawr. Ond mae’n debyg na fyddai pawb yn cytuno â thynnu sylw at y gwallau hyn chwaith!]

Beth bynnag, diolch i Philoctetes am ddangos mor anghywir yw pwynt sylfaenol Rhys. Pan fydd rhywun yn dweud rhywbeth sy’n anghywir, gall hynny fod oherwydd anwybodaeth neu ragfarn. Os yw cyhuddo Rhys o anwybodaeth yn llai poenus, yna mi rydw i’n fodlon ar hynny.

Wedi gwneud y sylwadau hyn sy’n crefu am fwy o ofal wrth fynegi safbwynt, rwy’n gwybod hefyd fod Rhys yn ddigon galluog i sylweddoli fod yr hyn sy’n cael ei awgrymu – er mor anodd yw hynny i’w ddiffinio yn aml iawn – yr un mor bwysig, ac yn aml yn fwy ymfflamychol nâ’r hyn sy’n cael ei ddweud.
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 13 Ion 2008 11:31 pm

Diolch am yr ymateb, dydw i ddim yn gwerthfawrogi'r sarhad ar fy sillafu - rwy'n "araf" gyda fy sillafu fel maen digwydd, roedd yr amser ychwanegol yn yr arholiadau yn ddefnyddiol ac mae wedi fy ngalluogi i goncro fy nislecsia i bob pwrpas - ond yr help fwyaf yw mod i wedu medru cyflawni fy ngradd a nawr fy noethuriaeth yn Gymraeg - heblaw am hynny mi fuasai fy 'spell chek' word yn haeddu cymaint o ddoethuriaeth a mi!!

Yn ol at y pwnc. Fy 'rationale' i fel Calfinydd tuag at weithio yn y sffer wleidyddol a, hynny gydag anffyddwyr, ydy athrawiaethau'r Gorchymun Diwylliannol a Gras Cyffredin. Ydy Eglwys Rufain yn arddel y ddau athrawiaeth fel rhan o'i rationale gwleidyddol?

Ac ar nodyn arall. Ydw i'n iawn i gredu eich bod chi'n credu fod y cyfarwyddyd moesol/gwleidyddol terfynol yn dod oddi wrth y Pab? Os ddim, lle mae'r Pab yn ffitio i mewn i fframwaith arweiniad gwleidyddol a beth yw'r seiliau beiblaidd? Allan o ddiddordeb.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Muralitharan » Sul 13 Ion 2008 11:57 pm

Wyddwn i ddim am yr amgylchiadau, felly mi rydw i'n ymddiheuro am hynna.
Tydw i ddim yn mynd i ddadlau heno - mae hi'n rhy hwyr i mi! - ond dwi'n siwr dy fod yn gwybod yn iawn fod yr Eglwys Gatholig yn rhoi pwys mawr ar gydwybod yr unigolyn.
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron