Tony Blair: Pabydd

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Muralitharan » Sul 23 Rhag 2007 8:27 pm

'O fethu meddwl am air gwell', trist yw gweld mynegi'r hen, hen ragfarnau a chasineb yn fan hyn.
'Yn fy marn anacademaidd' innau, chymerodd hi ddim llawer i ti fynd ati i greu'r rant anffodus hwn, naddo Rhys?
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 24 Rhag 2007 5:17 pm

Muralitharan a ddywedodd:'O fethu meddwl am air gwell', trist yw gweld mynegi'r hen, hen ragfarnau a chasineb yn fan hyn.
'Yn fy marn anacademaidd' innau, chymerodd hi ddim llawer i ti fynd ati i greu'r rant anffodus hwn, naddo Rhys?


Rhagfarn? A gare ti nodi pa ran o fy sylwadau yn union sy'n ragfarnllyd er mwyn i mi fedru amddiffyn fy nadluon? Oce roedd y paragraff olaf yn chydig bach o farn (rant hyd yn oed) personol ond roedd fy sylwadau am gatholigiaeth a pherthynas eglwys a gwleidyddiaeth yn farn gytbwys yn fy nhyb i - plis noda pa rannau oeddet ti yn anghytuno a hi - mi fydd y drafodaeth yn ddifyr!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Lowri Fflur » Iau 27 Rhag 2007 1:12 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:. Hynny yw mae'n leicio'r steil a does dim byd dyfnach na hynny i'w gatholigiaeth hyd y gwel;a i oherwydd dydy e heb esbonio unrhyw resymau diwinyddol dwfwn pam symud.


Os dydi Toni Blair heb egluro pam ei fod yn Babydd ti ddim yn gwybod pam ei fod yn Babydd. Mae unrhyw farn sydd gennyt pam bod Toni Blair yn Babydd felly yn ragfarn.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 27 Rhag 2007 8:58 am

y fam ddaear a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:. Hynny yw mae'n leicio'r steil a does dim byd dyfnach na hynny i'w gatholigiaeth hyd y gwel;a i oherwydd dydy e heb esbonio unrhyw resymau diwinyddol dwfwn pam symud.


Os dydi Toni Blair heb egluro pam ei fod yn Babydd ti ddim yn gwybod pam ei fod yn Babydd. Mae unrhyw farn sydd gennyt pam bod Toni Blair yn Babydd felly yn ragfarn.


Iawn oce - ond maen bosib llunio hypothesis ar sail yr hyn wyt ti'n gwybod yn barod am y person ar grefydd.

Croeso adre i Gymru gyda llaw :D
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Blair y Pabydd

Postiogan Defi » Iau 27 Rhag 2007 9:04 pm

Fy marn academaidd i ........................

God, 'rwyt ti'n hogyn ymhongar.
Defi wyf i, o Drefernar - yn dysgu Cymraeg ac yn ymweld a gwefannau diddorol. Fy niddordebau yw hanes Cymru a'i llenyddiaeth.
Defi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 80
Ymunwyd: Maw 21 Meh 2005 8:58 pm
Lleoliad: Trefernar

Re: Blair y Pabydd

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 28 Rhag 2007 8:30 pm

Defi a ddywedodd:Fy marn academaidd i ........................

God, 'rwyt ti'n hogyn ymhongar.


Roedd y sylwad yna braidd yn ymhongar oedd, ymddiheuriaf. Ond byddai'n ddifyr clywed yr wrth ddadl er mwyn i mi medru mynegi fy hun yn gliriach os oes angen. Lluniesi y neges yna beth amser yn ol i'm mlog yn seiliedig ar ddehongliad a chymhariaeth Abraham Kuyper o gyfundrefnau Calfinaidd, Modernaidd a Chatholig yn ei Stone Lectures enwog (ar gael i ddarllen ar-lein fan yma) Y rheswm i mi roi'r tag 'academaidd' ar ddechrau fy sylwadau oedd oherywdd fod y darn yn seiliedig ar ymchwil ar waith Kuyper yn hytrach nam honiad fod fy marn bersonol i yn fwy 'pwysig' na un rhywun arall - nid fy marn i o'r rheidrwydd oedd y neges isod ond sylwadau Kuyper... ond rydw i'n cytuno ag ef!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Huw T » Sad 29 Rhag 2007 3:14 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Mae hyn i gyd wrth gwrs yn besides the point i ni'r Cymry ac yn arbennig y Gymru Gristnogol oherwydd ein bod ni wedi sylwi mor bell nol a 1660au na ddylid cymysgu gwladwriaeth ac eglwys ac y dylai'r ddau gael dal integriti ar ben eu hunain....
Ond at Blair. Ond os ydy Blair wedi bod yn Babydd tu ôl i ddrysau caeedig ers blynyddoedd maith (rhai yn awgrymu ers 30 mlynedd) pa wahaniaeth mewn difri calon a wna ffydd bersonol Prif Weinidog i'w swydd? Wel, mwy na fyddech chi'n meddwl. Mae'r un dadleuon a oedd o amgylch yn 1660au yn bodoli heddiw sef bod Gwleidyddion a phobl mewn swyddi dylanwadol sydd hefyd yn perthyn i Eglwys Rufain yn, ag o fethu meddwl am air gwell, 'euog' o ddilyn cyngor/canllaw y Pab rhagor na cyngor/canllaw yr ysgrythur a'r etholwyr.


Cytuno'n llwyr. Y Chwyldro 'Glorious', lle diddymwd y brenin catholig Iago'r ail, oedd un o drobwyntiau pwysicaf Lloegr/ y DU, gan osod y seiliau ar gyfer y ddemocratiaeth fodern sydd gennym heddiw a chaniatau anghydffurfiaeth grefyddol.

Er, hang on Rhys. Fi'n credu i fi ddarllen ar dy flog, fisoedd yn ol, mai dyletwsydd pob Cristion oedd pleidleision yn erbyn y blaid Lafur? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan Rhys Llwyd » Sad 29 Rhag 2007 11:32 am

Huw T a ddywedodd:
Er, hang on Rhys. Fi'n credu i fi ddarllen ar dy flog, fisoedd yn ol, mai dyletwsydd pob Cristion oedd pleidleision yn erbyn y blaid Lafur? :winc:


8) Wel do a hynny ar sail egwyddorion nid ar sail taerngarwch pleidiol. Er fod Eglwys a Gwladwriaeth i fod ar wahan dwi dal i gredu fod lle gan Gristnogion i chwarae yn y Wladwriaeth ac eu bod nhw i bleidleisio ar sail yr hyn sy'n unol ag egwyddorion Cristnogol a gan fod Eglwys a Gwladwriaeth wedi ei wahanu yng Nghymru fe olyga hynny y gall y Cristion bleidleisio yn erbyn y status quo oherwydd nad yw ei eglwys bellach yn rhan o'r status quo y bydd ef yn pleidleisio yn ei erbyn.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan sian » Sul 30 Rhag 2007 10:00 pm

Neges wedi'i chopio o'r edefyn "Archesgob yn condemnio "ffwndamentaliaeth anghrediniol" yn Ffydd a Chrefydd
Rhys Llwyd a ddywedodd:
GT a ddywedodd:Dydi secteriaeth ffuantus Rhys Llwyd ... ddim yn adlewyrchu'n dda ar y traddodiad Protestanaidd Cymreig.

Os ydi'r ddau yma'n nodweddiadol o'r traddodiad hwnnw, pa ryfedd bod capeli'n cael eu cau a'u dymchwel ar hyd a lled Cymru?

Mae'r ddwy ffrwd - yr un secteraidd a'r un apocolyptaidd yn cynrychioli'r elfennau gwaethaf mewn Protestaniaeth - dwy ffrwd deallusol ac emosiynol hesb.





A gare ti ymhelaethu sut yn union wyt ti'n anghytuno a mi, dwi ddim yn deall dy bwynt. Beth yn union nodesi a oedd yn sectyddol?



GT a ddywedodd:Y neges ryfedd yma Rhys (sef yr un bostiwyd am 5:01 ar 23.12).

Does gen i ddim amser ar hyn o bryd i fynd i mewn i'r holl nonsens, ond un neu ddau o bwyntiau brysiog:

(1) Yr unig wlad sylweddol Gristnogol sydd gyda chrefydd wedi ei glymu i mewn i'w chyfansoddiad - ac felly ei gwleidyddiaeth ydi Prydain. Mae Brenhines Prydain yn ben ar y wladwriaeth ac yn ben ar yr Eglwys Brotestanaidd sefydliadol (ond leiafrifol). Does dim cysylltiad rhwng cyfansoddiadau gwledydd Pabyddol a'r Eglwys Babyddol fel rheol. Chafodd yna ddim byd ei setlo yn y 1660au mewn gwirionedd. Ym 1688 y cafodd y drefn gyfansoddiadol secteraidd sy'n cysylltu Protestaniaeth a'r frenhiniaeth ei sefydlu.

(2) Mae'n rhan o ryfyg naturiol anghydffurfwyr eithafol i ddadlau bod pobl nad ydynt yn anghydffurfwyr eithafol yn fas, arwynebol, dwl ac ati. Y gwir syml ydi bod llawer iawn, iawn mwy o Gristnogion yn Babyddion na sy'n gredwyr yng ngwirionedd llythrennol y Beibl. Dydi hyn ddim oherwydd y rhesymau sarhaus rwyt ti'n eu priodoli i gymhelliad Pabyddion tros ymarfer eu ffydd. Mae oherwydd bod y ffydd Babyddol yn caniatau i ddyn osgoi llawer o'r problemau deallusol sy'n codi yn sgil Protestaniaeth.


Rhys Llwyd a ddywedodd:You said it your self. Fel dywedodd Luther yn 1517, "fe ildia i fy mhrotest pan fydd y Vatican yn medru dangos yn glir o'r ysgrythurau mod i yn anghywir" wrth gwrs nid oedde nhw yn medru a dyna ddechrau ar y diwygiad Protestanaidd. Mae'r pabyddion o orwedd awdurdod ar y Pab a'r Eglwys yn hytrach nag yr ysgrythurau Sanctaidd yn llwyddo i osgoi, fel wyt ti'n dweud, llawer o issues mae Protestaniaeth yn rhoi bri arnyn nhw. Ond feiddia i awgrymau mae nid "problemau deallusol" mae'r pabyddion yn ei osgoi ond yn hytrach rhao o athrawiaethau craidd y beibl.

_________________
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 31 Rhag 2007 10:11 am

Wedi ei goip draw hefyd:

GT a ddywedodd:Wel Rhys, edrych ar y peth fel hyn.

Y broblem efo rhoi dy ffydd i gyd yn y Beibl ydi ei fod wedi ei greu gan llawer o gwahanol bobl tros gyfnod maith ac mae mor eclectic a chymhleth gall ddweud wrthyt yr hyn rwyt am iddo ei ddweud. Os ti'n tynnu sylw Efengylwyr yt yr anghysondebau lu sydd yn y Beibl, yna maent yn dweud A ia, ti sydd ddim yn gwybod sut i'w ddarllen. Ond dydi rhywbeth ti angen Primer i'w ddeall yn da i ddim ar ei ben ei hun.

Felly mae rhai o'n cyfeillion mwy gorffwyll fel rooney yn ymddiddori yn y Datguddiad ac yn edrych ymlaen yn arw at ddiwedd y Byd, mae'r mwy di niw yn hoffi'r gwynfydau neu beth bynnag ac mae'r Bushiaid yn ein plith sy'n hoffi'r syniad o fynd i ryfel yn gallu dod o hyd i lond trol o gefnogaeth i'w safbwynt yn yr Hen Destament.

Mae Protestaniaeth yn gallu arwain at lanast llwyr. Mae gen ti dri neu bedwar Capel sydd a chredoau gwahanol mewn pentrefi o dri chant o bobl. Mae gen ti Brotestaniaid sydd a chredoau digon tebyg i rai Pabyddol, mae gen ti rai sy'n perthyn i sectau gorffwyll Jim Jonsaidd, mae gen ti rai sy'n credu'r Beibl gair am air, tra bod gen ti rai sydd ddim yn cymryd fawr o ddiddordeb yn y Beibl.

Ac am bod pob dim yn gymhleth, mae pob dim yn gyfnewidiol. Gall John Williams Brynsiencyniaid y Byd anfon llwyth o hogiau sydd wedi dilyn crefydd sydd a'i heddychiaeth wedi ei seilio ar un math o ddarlleniad o'r Beibl i Ffrainc i farw trwy ddyfynnu darnau eraill o'r Beibl. A thrwy'r cwbl dydi'r Beibl ddim yn dweud wrthyt beth ydi dy agwedd i fod os oes rhywun yn cynnig lein o cocen i ti, na beth ddylai dy agwedd fod at lesbianiaeth na chant a mil o sefyllfaoedd eraill.

Mae Pabyddiaeth yn symlach - mae gen ti rhywun i wneud y dehongli ar dy ran - ti'n osgoi llanast moesol a deallusol.


rooney a ddywedodd:
GT a ddywedodd:Mae Pabyddiaeth yn symlach - mae gen ti rhywun i wneud y dehongli ar dy ran - ti'n osgoi llanast moesol a deallusol.


Yn sicr mae manteision i hynny, yn enwedig o ystyried sut mae'r Beibl wedi cael ei gamdrin a'i gamddehongli gen gwltiaid, anffyddwyr a rhai Cristnogion- ran amlaf yn fwriadol am resymau anheilwng, weithiau'n ddiniwed. Ac mae Eglwys unedig gref hefo manteision hefyd, gen i lawer o amser i'r Pabyddion. Ond hefyd mae anfanteision, fel mae hanes yn dangos. Alla i ddim cytuno gyda dy farn ynglyn a'r Beibl ei hun:-
http://www.beibl.net
2 Tim 3:16-17
16 Duw sydd wedi ysbrydoli'r ysgrifau sanctaidd hynny i gyd, ac maen nhwín dysgu beth syín wir i ni, yn cywiro syniadau anghywir, yn dangos beth dyn niín ei wneud oíi le, aín dysgu ni i fyw yn iawn. 17 Felly mae gan bobl Dduw bopeth sydd ei angen iddyn nhw wneud pob math o bethau da.

Rwy'n eitha hoffi y ffordd mae C.S Lewis yn disgrifio'r sefyllfa fel "ty". Peth pwysicaf yw bod yn y ty a ddim tu allan yn yr oerfel. Unwaith ti yn y ty, ti'n sefyll yn y cyntedd ac yn dewis pa ystafell i fynd iddo. Rhai'n symud o un ystafell i'r llall fel mae'r cydwybod a'r deallusrwydd yn newid. Rhai byth yn symud o'r ystafell gyntaf.

Iesu yw'r Brenin, ac mae'n siomedig fod ti yn fy meirniadu am gael diddordeb o ddifri yn y Datguddiad GT, gan fe weli yno fod Iesu yn rhoi saith llythyr i'r saith eglwys, yn brolio y pethau da ac yn beirniadu'r pethau drwg ynddynt.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron