Rhys Llwyd a ddywedodd:Mae hyn i gyd wrth gwrs yn besides the point i ni'r Cymry ac yn arbennig y Gymru Gristnogol oherwydd ein bod ni wedi sylwi mor bell nol a 1660au na ddylid cymysgu gwladwriaeth ac eglwys ac y dylai'r ddau gael dal integriti ar ben eu hunain....
Ond at Blair. Ond os ydy Blair wedi bod yn Babydd tu ôl i ddrysau caeedig ers blynyddoedd maith (rhai yn awgrymu ers 30 mlynedd) pa wahaniaeth mewn difri calon a wna ffydd bersonol Prif Weinidog i'w swydd? Wel, mwy na fyddech chi'n meddwl. Mae'r un dadleuon a oedd o amgylch yn 1660au yn bodoli heddiw sef bod Gwleidyddion a phobl mewn swyddi dylanwadol sydd hefyd yn perthyn i Eglwys Rufain yn, ag o fethu meddwl am air gwell, 'euog' o ddilyn cyngor/canllaw y Pab rhagor na cyngor/canllaw yr ysgrythur a'r etholwyr.
Cytuno'n llwyr. Y Chwyldro 'Glorious', lle diddymwd y brenin catholig Iago'r ail, oedd un o drobwyntiau pwysicaf Lloegr/ y DU, gan osod y seiliau ar gyfer y ddemocratiaeth fodern sydd gennym heddiw a chaniatau anghydffurfiaeth grefyddol.
Er, hang on Rhys. Fi'n credu i fi ddarllen ar dy flog, fisoedd yn ol, mai dyletwsydd pob Cristion oedd pleidleision yn erbyn y blaid Lafur?