Tony Blair: Pabydd

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 14 Ion 2008 12:08 am

Muralitharan a ddywedodd:Wyddwn i ddim am yr amgylchiadau, felly mi rydw i'n ymddiheuro am hynna.
Tydw i ddim yn mynd i ddadlau heno - mae hi'n rhy hwyr i mi! - ond dwi'n siwr dy fod yn gwybod yn iawn fod yr Eglwys Gatholig yn rhoi pwys mawr ar gydwybod yr unigolyn.


Na phoener, doeddet ddim i wybod. Rwy'n disgwyl mlaen i glywed y dadleuon pan na fydd mor hwyr.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Tony Blair : Pabydd

Postiogan Philoctetes » Llun 14 Ion 2008 1:16 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:"Yn ol at y pwnc. Fy 'rationale' i fel Calfinydd tuag at weithio yn y sffer wleidyddol a, hynny gydag anffyddwyr, ydy athrawiaethau'r Gorchymun Diwylliannol a Gras Cyffredin. Ydy Eglwys Rufain yn arddel y ddau athrawiaeth fel rhan o'i rationale gwleidyddol?

Ac ar nodyn arall. Ydw i'n iawn i gredu eich bod chi'n credu fod y cyfarwyddyd moesol/gwleidyddol terfynol yn dod oddi wrth y Pab? Os ddim, lle mae'r Pab yn ffitio i mewn i fframwaith arweiniad gwleidyddol a beth yw'r seiliau beiblaidd? Allan o ddiddordeb.


Annwyl Rhys mae athrawiaeth yr Eglwys Gatholig am Ras yn wahanol ac yn cael ei gyflwyno mewn ffordd whanol. Teimlaf nad yw cychwyn gyda termau megis Gorchymun Diwylliannol a Gras Cyffredin yn fan cychwyn da, mae’n fwy tebygol o agor ddadleuon hanesyddol am Ras ac yn fwy tebygol o greu, a defnyddio ymadrodd Saesneg, ‘more heat than light’. Maent hefyd yn dermau, ac yn ddulliau o siarad sy’n estron i’r Eglwys Gatholig. Dichon bod y dull a siaradir am ras yn adlewyrchu sut mae ddyn yn dadansoddi y Gwymp a Phechod gwreiddiol. Mae‘n dueddiad bellach, o fewn yr Eglwys, i osgoi categorïau ‘sgolastig ‘ wrth siarad am ras. (O ran diddordeb y categorïau Catholig a fuase, o bosib, yn cyferbynu i’r categorïau uchod yw Gras naturiol a Gras rhagflaenol a Gras sancteiddiol). Ynglyn â perthynas gwladwriaeth ac Efengyl mae’r cysyniad neu athrawiaeth am y Ddeddf Naturiol a’r categoriau perthnasol o cyfiawnder naturiol (http://www.newadvent.org/cathen/09076a.htm) yn fwy tebygol o ddangos beth yw athrawiaeth yr Eglwys ar y pwnc. (Gwnaeth Awstin o Hippo Sant a Tomos o Acwin Sant cyfraniad pwysig yn y maes hyn). Ceir dadansoddiad o hyn ym mhennod 4 o Gaudium et Spes “The life of the political community”.

Mae’r ail gwestiwn yn codi o leia un pwnc eang astrusl. Dylid troi at Sullivan, Francis (1983). The Magisterium : teaching Authority in the Catholic Church. Paulist Press am esboniad o natur awdurdod y Pab. (Mae’r erthygl Magisterium ar Wikipedia yn ffeithiol anghywir). Mae Muralitharan yn gywir wrth gyfeirio at flaenoriaeth cydwybod yr unigolyn o fewn y traddodiad Catholig. Fel dywedod John Henry Cardinal Newman mewn modd ffraeth wrth cyflwyno llwnc destun cinio “I shall drink to the Pope, if you please, still, to Conscience first, and to the Pope afterwards”.

Ynglyn a’r cwestiwn “lle mae'r Pab yn ffitio i mewn i fframwaith arweiniad gwleidyddol”? ofnaf bod angen esboniad o hyn, dwy’n braidd yn ansicr beth yw ystyr fframwaith arweiniad gwleidyddol. Yn anad dim swydd neu ffwythiant fugeiliol yw’r Babaeth, os oes yna arweiniad, yna arweiniad fugeiliol yw’r ffurf mae’n cymeryd.
Rhithffurf defnyddiwr
Philoctetes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 4
Ymunwyd: Iau 03 Ion 2008 3:35 pm

Postiogan Muralitharan » Llun 14 Ion 2008 5:18 pm

Rhys,

Tydw i ddim yn honni bod yn ddiwinydd o fath yn y byd, ac felly mater o lwc i mi yw cyfraniadau Philoctetes! Er hynny, roedd dy gwestiynau yn fy atgoffa o’r stori honno o rywun yn gofyn y ffordd i’r fan a’r fan, ac yn cael yr ateb na fyddai’n dewis dechrau o fan hyn. Da oedd gweld fod Philoctetes o’r un farn.
Mi fydd hi’n ddiddorol felly darllen dy ymateb i sylwadau Philoctetes.
Gan nad ydw i’n ddiwinydd, a chan fod Philoctetes wedi codi ambell i gwestiwn i ti geisio eu hateb, efallai y galla i ddod yn ôl at y ffaith mai tôn rhai o dy sylwadau di oedd yn peri anesmwythder – h.y. yr awgrym nad yw Catholigion Cymreig yn rhan o’r ‘Gymru Gristnogol’ neu honni nad oes gan y Catholigion ‘‘rationale’lawn a chall i ymwneud â’r gwleidyddol ...’ a hynny heb esbonio sut yn union yr wyt ti wedi dod at y safbwynt hynny, yn enwedig o dderbyn tystiolaeth Philoctetes dy fod wedi seilio’r safbwyntiau hynny ar dystiolaeth neu ragdybiaethau sy’n anghywir. Os nad dyna oeddet ti wedi bwriadu ei ddweud yna problem cyfathrebu yw hynny yn anffodus – a hynny’n gwneud i’r cyfan swnio braidd yn rhagfarnllyd. Os wyt ti’n dweud nad dyna oedd dy fwriad, yna mi rydw i’n berffaith fodlon derbyn hynny wrth gwrs.
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Tony Blair : Pabydd

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 14 Ion 2008 11:22 pm

I ddechrau anghofiwch fy sylwadau am rol y Pab yn hyn oll am nawr, down ni nol i'w drafod ef yn y man. Beth am gadw'r trafod gyda'r athrawiaethau sy'n berthnasol i'r rationale gwleidyddol am y tro. Felly...

Philoctetes a ddywedodd:mae athrawiaeth yr Eglwys Gatholig am Ras yn wahanol ac yn cael ei gyflwyno mewn ffordd whanol. Teimlaf nad yw cychwyn gyda termau megis Gorchymun Diwylliannol a Gras Cyffredin yn fan cychwyn da


Pa le gwell i ddechraqu felly? Dyma fy amddiffyniad pam fod y ddwy athrawiaeth yma yn lefydd da i gychwyn:

Gorchymun Diwlliannol: Ni wela i nunlle gwell i ddechrau na gorchymun cyntaf Duw i ddyn, sef y Gorchymun Diwylliannol. Fis Mawrth mynychais y Brecwast Gweddi Cenedlaethol dros Gymru a dwi'n cofio i'r prif siaradwr, Antoine Rutayisire o Rwnada ddweud rhywbeth tebyg i 'God created Man, and told him to govern the Earth, therefore I would argue that the second thing God created after man was politics!' Wrth gwrs, cyfeirio at y Gorchymyn Diwylliannol ydoedd, sef y gorchymyn hwnnw a roddodd Duw i Adda yn Genesis 1:28 a 2:15, gorchymyn a gafodd ei ail-adrodd i Noa yn Genesis 9:1-3 a 9:7 a'r gorchymyn sy'n dal i sefyll yn gwbl urddasol ochr yn ochr â'r Gorchymyn Cenhadol. Yr egwyddor sylfaenol yw gorchymyn i Gristnogion ymhél â'r byd, ac mae hynny’n cynnwys gwleidyddiaeth. Dylai Cristnogion fynegi barn ac arwain ar bob math o faterion a pheidio ag aros tan y gorthrwm eithaf – gorfodaeth i blygu i Cesar – cyn ymwneud â'r gwleidyddol. Dyna pam mod i'n credu fod yr athrawiaeth hon yn le pwysig i gychwyn.

Philoctetes a ddywedodd:Dichon bod y dull a siaradir am ras yn adlewyrchu sut mae ddyn yn dadansoddi y Gwymp a Phechod gwreiddiol. Mae‘n dueddiad bellach, o fewn yr Eglwys, i osgoi categorïau ‘sgolastig ‘ wrth siarad am ras. (O ran diddordeb y categorïau Catholig a fuase, o bosib, yn cyferbynu i’r categorïau uchod yw Gras naturiol a Gras rhagflaenol a Gras sancteiddiol).


Gras Cyffredin: I ddechrau rwyt ti'n iawn i nodi fod dealltwriaeth o ras Duw yn gyntaf yn ddibynnol ar eich dealltwriaeth o'r cwymp, pechod gwreiddiol a chyflwr dyn. Dwi yn credu ar sail dysgeidiaeth y Beibl fod dyn wedi syrthio ac yn sylfaenol ddrwg (Genesis 3), mae hyn yn cael ei ategu drachefn yn glir yn y Testament Newydd; yr adnod sy'n dod i fy meddwl yn gyntaf ydy hon: 'Ie, pawb yn ddiwahaniaeth, oherwydd y maent oll wedi pechu, ac yn amddifad o ogoniant Duw.' (Rhuf 3:23). Oherwydd y llygredigaeth lwyr yma sydd wedi taro'r ddynoliaeth ni all dynoliaeth ei hun godi ei hun allan o'i dwll OND trefnodd Duw gyfamod gras wnaeth chwyldroi hyn yn llwyr - hanfod y cyfamod gras oedd fod Duw yn single handed yn trefnu ffordd adferiad a oedd yn 100% o Dduw ac yn 0% o ddyn. Un math o ras sydd ond mae diwinyddion Calfinaidd for argument sake wedi nodi ei wahanol briodoleddau drwy gyfeirio at Ras Cyffredin a Gras Arbennig. Gras Cyffredin bydd yn cael ei esbonio yn fanylch isod, ond wrth basio gwerth fyddai crybwyll mae Gras Arbennig yw'r Gras Achubol.

Fe ddywed athrawiaeth Gras Cyffredin fod gras yn syrthio ar bawb yn ddi wahân - nid yw Duw yn gwahaniaethu pwy gaiff dderbyn bendithion cyffredinol gras. Yr enghraifft a rydd Bobi Jones o hyn yw bodolaeth llenorion Cristnogol ofnadwy nad sydd wedi derbyn ffrwyth gras yn y sffêr llenyddol! Ond y wedd o athrawiaeth Gras Cyffredin sy'n berthnasol yng nghyd destun y drafodaeth yma (sef gwleidyddiaeth a christnogaeth) yw'r cysyniad fod ffrwyth bendithion gras yn golygu bod cyfiawnder yn bosib ar y ddaear yma ar lefel ddinesig o leiaf. Dywedodd y diwinydd Louis Berkhof;

"Common grace enables man to perform what is generally called justitia civilis, that is, that which is right in civil or natural affairs... Reformed theologians generally maintain that the unregenerate can perform natural good, [and] civil good..."

Mae'r agwedd yma o athrawiaeth Galfinaidd yn hollol greiddiol i'm meddwl a'm gweithgaredd gwleidyddol. Os na fuaswn ni yn arddel yr athrawiaeth fod yna fendithion o Ras Cyffredinol wedi deillio i'r Byd wedi'r groes (fel yr arddela Anabaptistiaid, Pietistiaid a Morafiaid ymysg eraill) yna ni fuaswn yn credu fod modd gweithio oddi mewn i blaid wleidyddol oedd ag anghredinwyr (unigolion nad oedd yn medru ceisio cyfiawnder) yn aelodau ohoni. Canlyniad hyn, bid siŵr, byddai nai llai wedi gweld unigolion fel R. Tudur Jones yn sefydlu Plaid Genedlaethol Gristnogol ar wahân i Blaid Cymru neu ymddeol o'r sffêr wleidyddol a chyhoeddus yn llwyr. Wrth ystyried hyn felly deallwn fod yr athrawiaeth hon yn allweddol i ddiwinyddiaeth gyhoeddus Protestaniad fel fi wrth nesáu at y gwleidyddol.

O ran dangos fod hyn yn gysyniad beiblaidd gweler:

1. Yn cyfeirio at rol gras cyffredin yn cadw'r greadigaeth: "Ei awdurdod pwerus e sy'n dal popeth yn y bydysawd efo'i gilydd" (Heb 1:3)

- Yn cyfeirio at rol gras cyffredin yn 'dal yn ol' grym dinistriol pechod: Genesis 20:6 a 1 Sam 25:26 hefyd gellid edrych ar ddysgeidiaeth Paul am awdurdod sifig a sut y bo hynny yn rodd gan Dduw i ni ddelio gyda fall out pechod. Nid oedd cysyniadau Hobbes, Rouseau a Lock am y contract cymdeithasol yn ddim byd newydd roedd y cyfan yn yr awyr ers i Dduw arwain Paul iw' cofnodi yn fuan wedi esgyniad Crist.

- Yn cyfeirio at rol gras cyffredin yn arwain cydwybod dyn: "Yn wir, mae pobl sydd ddim yn Iddewon yn gallu gwneud yn naturiol beth mae Cyfraith Duw yn ei ofyn ñ er eu bod nhw ddim yn gwybod am y Gyfraith. Maen nhw'n dangos eu bod yn gwybod beth syín iawn a beth sydd ddim, er bod y Gyfraith ddim ganddyn nhw. Maen nhwín dangos fod gofynion Cyfraith Duw wedi eu hysgrifennu ar eu calonnau nhw. Mae eu cydwybod nhw naill aiín eu cyhuddo nhw neuín dweud wrthyn nhw eu bod yn gwneud y peth iawn." (Rhuf 2:14-15)

Dyna felly ymhelaethu ar y 'ddiwinyddiaeth' tu ol i fy rationale gwleidyddol i fel Protestant Calfinaidd. Diddorol byddai i ti ymhelaethu fel hyn ar dy rationale di, rwy'n gwerthfawrogi cyfeiriadau at lyfrau ac erthyglau ar y pwnc ond er lles y drafodaeth ar y maes buaswn yn gwerthfawrogi pe taet yn medru rhoi rhyw dipyn o gyffes esboniadol ar dy rationale. Hynny yw profa fi yn anghywir a phrofa fod gen ti fel Catholig rationale all ddal dwr yn erbyn fy rationale protestanaidd i! :winc:
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Tony Blair : Pabydd

Postiogan Philoctetes » Maw 15 Ion 2008 8:26 pm

Helo Rhys, ddaru i chi holi am esboniad o rationale Gatholig. Gwnaf ymdrech i wneud hynny.
Mae ‘na nifer o agweddau yn perthyn i athrawiaeth yr Eglwys ar wleidyddaieth. A rhaid i mi gyfaddef nad oes gennyf lawer o ddiddordeb yn y pwnc, er ‘roedd rhaid astudio’r peth (amser maith yn ôl), felly pe bawn yn cynnig dadansoddiad o ‘rationale’ athrawiaeth ar wleidyddaieth rhywbeth diffygiol fydd e. Ac ar ben hynny ‘nid yw gwleidyddiaeth fel y cyfryw yn fy nghyffroi.

Serch hynny dyma ymgais i daflu ychydig o olau ar y pwnc. Bydd yn fuddiol cyn cychwyn esbonio ychydig am fethodoleg diwinyddiaeth Gatholig. Yn aml iawn defnyddir un sy’n dilyn patrwm o nifer o gamau, sy’n seiliedig neu’n tynnu ar wahanol ffynonellau (=loci, locus). Mae ‘na nifer o loci fel yr Ysgrythur, y Tadau a all hefyd gynnwys litwrgi a Deddf Naturiol (ceir disgrifiad da a chryno yn http://www.radicalacademy.com/philnaturallaw.htm). Yn arferol dyma’r ffurf a’r loci

Cam
1 Cyflwyno testun
2 Tystiolaeth yr Ysgrythur
2.1 Hen Destament
2.2 Testament Newydd
3 Y Tadau e.e., Awstin Sant, Iohannes Chrysostom
4 Dogfennau swyddogol y Cynghorau a’r Pabau
5 Diwinyddion
5.1 Oesoedd Canol e.e., Tomos o Acwin, Bonaventure
5.2. Cyfnod modern
5.2.1 Modern Cynnar Suarez, Tomos y Groes
5.2.2 Modern diweddar – Franzelin, Newman
5.3 Cyfoes – Rahner, von Balthasar
6 Synthesis o’r cyfan

NB Dull diwinydda yw hyn, ac nid yw canlyniadau’r broses o reidrwydd â statws swyddogol nac awdurdodedig. Er mwyn gweld beth yw safbwynt swyddogol yr Eglwys rhaid edrych ar ddatganiadau a dogfennau swyddogol yr Eglwys. Yn aml iawn nid yw rhain yn datgelu y rationale, a rhaid ceisio daddansoddi’r rationale maent yn seiliedig arnynt.

Un gair wrth gychwyn am Orchymyn Diwylliannol. Edrychais yn fanylach ar hyn ac ar y cyfeiriadau Ysgrythurol yr oeddech yn eu cynnig.

Y broblem gyda defnyddio dyfyniadau ysgrythurol mewn dadl yw bod ‘na beryg iddo ddechrau edrych fel treiffl. Er mwyn gwneud y treiffl yn fwy deniadol mae rhywun wedi gwasgaru ‘Hundreds and thousands’ arno, dydi nhw ddim yn cyfrannu llawer at y treiffl ei hun. O ran y dyfyniadau Gen 1.28; 2.15; 9.1-3; 9.7 ‘does dim sôn am wleidyddiaeth na chymdeithas ddynol ynddynt, sôn am awdurdod dyn dros y byd naturiol y maent. Rhaid mai esiampl o ‘eisegesis’ sydd yma ac nid ‘exegesis’. Y broblem gyda defnyddio adnod neu ymadrodd Ysgrythurol yw ei fod yn cael ei dynnu allan o’i gyd-destun a’i orfodi i gario dehongliad neu ystyr sy’n estron i’w gyd-destun gwreiddiol. Mae hyn yn esiampl o fethodoleg annigonol. Nid yw’r adnodau hyn, yn eu cyd-destun gwreiddiol, yn awgrymu bod Duw yn gorchymyn dyn i wleidydda. Rhaid bod yn ymwybodol o, a pharchu, egwyddorion esboniadol. Y nod yw darllen ystyr allan o’r testun, nid darllen ystyr i mewn i’r testun. Ni wnaeth y dystiolaeth/dehongliad fy argyhoeddi bod y Gorchymyn Diwylliannol yn ‘working hypothesis’ llwyddiannus.

O safbwynt dadl athronyddol / ddiwinyddol teimlaf nad yw cyn-seiliau Gorchymun Diwylliannol wedi eu gosod yn dda, ac nad yw y thesis yn rhesymegol gywir.

Er wedi dweud hynny ‘rwy’n cytuno â’r nod, sef y dylai “Gristnogion ymhél â'r byd, ac mae hynny’n cynnwys gwleidyddiaeth. Dylai Cristnogion fynegi barn ac arwain ar bob math o faterion a pheidio ag aros tan y gorthrwm eithaf”, ac maent yn syniadau sy’n cael eu harddel a’u dysgu gan yr Eglwys. Ond y rationale am hynny yw Deddf Naturiol

O safbwynt yr Eglwys, byddwn y cytuno i’r dim ein bod yn trafod rhywbeth sydd yn bod o dan amodau a chyflwr dyn wedi’r gwymp. Byddwn yn cytuno hefyd bod sylwad Louis Berkhof yn gyson ag athrawiaeth Gatholig.

Y man cychwyn, byddwn ni’n dadlau, yw Deddf Naturiol, mae gwleidydda yn rhan o natur dyn, ‘roedd yn bod tu allan i gymunedau Iddewig ac yn bodoli cyn i Israel fod. Teimlaf nad yw cyfeirio at hanesion megis y Dilyw a’r Creu er mwyn dod o hyd i egwyddor awdurdodol yn ddigonol. Rhaid cael sail sy’n ‘a priori’ er mwyn hynny. Cofier mai trafod gwleidydda yr ydym ac nid Datguddiad.

Mae’r Ysgrythur ei hun yn dwyn gwahanol fath o dystiolaethau am y gyfundrefn wleidyddol. Rhai, megis Paul Sant, o blaid y gyfundrefn sy’n bod, eraill, megis awdur Llyfr y Datguddiad, yn erbyn. Mae awdur Efengyl Ioan yn gosod tensiwn rhwng y byd (kosmos) a Iesu, tra bod efengyl Matthew yn lled niwtral am yr awdurdodau Rhufeinig (seciwlar) ac yn negatif am yr awdurdodau Iddewig (crefyddol). Mae hyn yn awgrymu bod tystiolaeth yr Ysgrythurau yn ddryslyd. Y cwestiwn sy’n codi yw sut i ddehongli. A dyma ble mae ‘eglwys’ a ‘magisterium’ yn bwysig. Ni chredaf fod yr Eglwys yn gweld ei hyn fel sefydliad sy’n trefnu gwleidyddiaeth. Oes, mae ganddi rôl i chwarae, fel pob cymuned ffydd. Y rôl broffwydol a bugeiliol sy’n cadw gwleidyddiaeth mewn trefn ac yn sicrhau cyfiawnder. ‘Rydym ni Gristnogion yn anelu at gyflawnder Teyrnas Dduw a rhaid derbyn mai rhywbeth a ddaw yn ei dro yw hynny, tan hynny rhaid cyhoeddi’r weledigaeth a realiti’r Deyrnas i gyfundrefn amherffaith / llygredig / pechadurus a sicrhau cyfiawnder ble ma’ modd.

Ond ie, ble mae’r ‘rationale’. Wel yn y Ddeddf Naturiol, sy’n rhan o greadigaeth Duw ac yn adlewyrchu, mewn modd amherffaith, egwyddorion a moeseg y dylid eu dilyn. Canllaw yw Deddf Naturiol Gristnogol, canllaw a berffeithir ac a oleuir gan Ddatguddiad.

Y fantais o ddefnyddio Deddf Naturiol yw:

· Nid rhywbeth mae dyn wedi’i greu ydyw
· Mae’n seiliedig ar natur a strwythur realiti
· Mae’n gyson, ac yr un peth ydyw i bob un
· Mae’n rheol neu’n batrwm cyson-ddigyfnewid all pob person ei ganfod
· Dyma’r ddeddf foesol naturiol all bawb ganfod / dirnad
· Y cyfrwng y gall bawb ei ddefnyddio i arwain at ddaioni
Gellir gweld natur y peth pan mae rhywun yn apelio at y cysyniad o chwarae teg. Mae’n gyfraith sydd yn rhan annatod o fod yn ddynol, ac wedi ei hysgrifennu ar galon pawb. Mae hefyd yn gysylltiad bywiog rhwng y deall a realiti.
A hynny yw, yn fras iawn, iawn, y rationale Gatholig. Man cychwyn gwahanol a method gwahanol, ond yr un nod, ac yn arwain at y ffaith bod rhaid i ni fel Cristnogion ymwneud â gwleidyddiaeth a’r byd.
O ie, wrth law mae’r frawddeg ''ar sail dysgeidiaeth y Beibl fod dyn wedi syrthio ac yn sylfaenol ddrwg'' braidd yn ysgubol. Mae’r Ysgrythur yn dweud ein bod yn syrthiedig ac yn haeddi cosb oherwydd y Gwymp, ac ein bod yn gaeth i bechod, ond nid yw’r Ysgrythur yn dweud bod dyn yn ‘hollol ddrwg’, nac yn ‘sylfaenol ddrwg.”
Dysgeidiaeth yr Eglwys yw bod dyn yn cario’r ‘imago Dei’ (delwedd Duw) ynddo trwy rinwedd cael ei greu gan Dduw. Yn y Gwymp torrodd neu sathrwyd yr ‘imago Dei’, fel drych yn chwalu. Mae dyn yn dal i adlewyrchu marc ei greawdwr, ond mewn modd diffygiol ac amherffaith. Oherwydd y Gwymp mae angen help ar ddyn rhag lithro i golledigaeth, a’i rydhhau o gaethiwed i bechod, help (heb unryw amod) a ddarparwyd gan Dduw. Achubiaeth trwy ffydd a gras.
Rhithffurf defnyddiwr
Philoctetes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 4
Ymunwyd: Iau 03 Ion 2008 3:35 pm

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 15 Ion 2008 11:20 pm

Diolch yn fawr am yr esboniad manwl tu hwnt yna, hynod werthfawr.

Philoctetes a ddywedodd:O ran y dyfyniadau Gen 1.28; 2.15; 9.1-3; 9.7 [hy yn cyfeirio at y Gorchymun Diwlliannol] ‘does dim sôn am wleidyddiaeth na chymdeithas ddynol ynddynt, sôn am awdurdod dyn dros y byd naturiol y maent.


Na, ti'n iawn does dim son fan yma yn uniongyrchol at wleidyddiaeth ac son y mae am y byd naturiol. Fel esboniais ac fel yr wyt ti'n cydnabod mae'r byd naturiol yn cynnwys gwleidyddiaeth, mae hefyd yn cynnwys diwylliant a llen ac felly buasw ni'n cyfeirio at yr gorchmynion yn yr adnodau a restrir nid yn unig wrth amddiffyn rationale i ymwneud a'r gwleidyddol ond hefyd mewn amddiffyniad i ymwneud a diwylliant a llen hefyd.

Philoctetes a ddywedodd:Y broblem gyda defnyddio adnod neu ymadrodd Ysgrythurol yw ei fod yn cael ei dynnu allan o’i gyd-destun a’i orfodi i gario dehongliad neu ystyr sy’n estron i’w gyd-destun gwreiddiol. Mae hyn yn esiampl o fethodoleg annigonol. Nid yw’r adnodau hyn, yn eu cyd-destun gwreiddiol, yn awgrymu bod Duw yn gorchymyn dyn i wleidydda.


Mae dysg, egwyddorion a gwirionedd yr ysgrythurau yn oesol ac felly rôl a diben diwinydda yw eu cymhathu i'n sefyllfa gyfoes ni. Rwyt ti'n wir i nodi nad ydy Duw air-am-air yn ein gorchymun i wleidydda ond diben diwinydda yw cymhathu egwyddorion y Beibl i'n sefyllfa ni heddiw. Yn nyddiau cynnar Genesis fe orchmynodd Duw ddyn i reoli a gwasanaethu y byd naturiol - heddiw rydym yn gwneud hynny trwy wleidydda a llywodraethu ac felly mae yr adnodau yna yn siarad yn glir i'n sefyllfa gyfoes ni heddiw - yr unig wahaniaeth yw ieithwedd, mae'r prif egwyddorion yn sefyll.

Philoctetes a ddywedodd:Ond ie, ble mae’r ‘rationale’. Wel yn y Ddeddf Naturiol, sy’n rhan o greadigaeth Duw ac yn adlewyrchu, mewn modd amherffaith, egwyddorion a moeseg y dylid eu dilyn. Canllaw yw Deddf Naturiol Gristnogol, canllaw a berffeithir ac a oleuir gan Ddatguddiad.


Fe fedrai gytuno gyda llawer wyt ti'n ei ddweud am y ddeddf Naturiol. I ddweud y gwir mae'r prif fannau tu ol y cysyniad yn debyg iawn ac yr un peth ar hyn rwy'n ei alw'n Ras Cyffredin yn enwedig felly y wedd honno o ras cyffredin sy'n arwain cydwybod dyn (gweler Rhun 2:14-15). Amwni mae gwahanol dermau/athrawiaethau dynol yn trafod yr un egwyddoriol ysgrythurol yw'r unig wahaniaeth rhyngom fan yma.

Philoctetes a ddywedodd:Bydd yn fuddiol cyn cychwyn esbonio ychydig am fethodoleg diwinyddiaeth Gatholig. Yn aml iawn defnyddir un sy’n dilyn patrwm o nifer o gamau, sy’n seiliedig neu’n tynnu ar wahanol ffynonellau (=loci, locus). Mae ‘na nifer o loci fel yr Ysgrythur, y Tadau a all hefyd gynnwys litwrgi a Deddf Naturiol


Gair am dy fethodoleg. Dyma lle dwi'n tybio y mae dy ymresymu ar ei wanaf. Fel Protestant mae rhaid i mi brotestio fod dy fethodoleg yn fethedig a hynny oherwydd bod dy gasgliad di yn seiliedig ar synthesis o sawl ffynhonell ac mai dim ond un ffynhonell ymysg llawer ydy'r ysgrythurau sanctaidd. Sola Scriptura! Rwy'n cydnabod fod hi'n bwysig edrych ar hanes diwinyddiaeth (wedi'r cyfan dwi'n gwneud doethuriaeth ar y peth nawr felly dwi ddim yn difrio hyn yn llwyr). Maen bwysig edrych beth oedd gan Awstin o Hippo, Acwin, Calfin ayyb... i ddweud am yr ysgruthurau, fodd bynnag credaf fod rhaid i ddehongliad pob unigolyn syrthio yn y diwedd ar ei ddehongliad a dealltwriaeth o'r ysgrythurau drosto ef ei hun ac nid via "Y Tadau" ac nid via hyd yn oed Yr Eglwys. Mae'n fy nghofidio yn arbennig dy fod di yn chwarae hyn i lawr drwy nodi fod defnyddio'r ysgrythur yn beryglus oherwydd y posibilrwydd o gymryd adnodau allan o'i cyd-destun; tra bod y peryg yma yn realiti nid yw yn reswm i beidio pwyso ar yr ysgrythurau. Problem oesol yr Eglwys Gatholig yw eu bod nhw wedi bod ofn annog pobl i agor yr ysgrythurau drostynt hwy eu hunain - ac mae pawb yn gwybod beth ddigwyddodd pan feiddiodd un dyn wneud hynny yn fanwl yn 1517 :winc:

O edrych yn ol ar dy rationale di a fy rationale i yr hyn sy'n tarro dyn yw fod fy rhesymeg i yn rhoi pwys mawr i gyfeiriadau ysgrythurol tra fod dy rhesymeg di yn wag o unrhyw gyfeiriadau ysgrythurol ac yn hytrach yn pwyso ar athrawiaethau a thraddodiadau eglwys Rufain. Amwni mae y gwahaniaeth yma wnaeth beri i mi fynd dros ben llestri ar ddechrau'r edefyn yma a honi nad oedd gennych rationale lawn - wrth gwrs mae gennych fel wyt ti wedi dangos ond mae'n pwyso ar draddodiad ac athrawiaethau'r eglwys yn hytrach na phwyslais ar ddehongliadau pendant o'r ysgrythurau yn fy nghyb i. Wrth gwrs, rwy'n disgwyl mlaen i ti fy mhrofi yn wahanol.

I orffen, mae'r sgwrs yma yn datblygu yn ddiddorol tu hwnt - keep it up, chadal y Sais!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Philoctetes » Mer 16 Ion 2008 9:09 pm

“Na, ti'n iawn does dim son fan yma yn uniongyrchol at wleidyddiaeth ac son y mae am y byd naturiol. Fel esboniais ac fel yr wyt ti'n cydnabod mae'r byd naturiol yn cynnwys gwleidyddiaeth, mae hefyd yn cynnwys diwylliant a llen …”


Ofnaf bod rhaid anghytuno ar hyn. Dwy ddim yn credu dywedais bod y byd naturiol yn cynnwys gwleidyddiaeth, ac os nes i roi yr argraff yna rhaid i mi ei gywiro yn syth. Buaswn yn fwy hapus i ddweud bod y byd yn cynnwys gwleidyddiaeth. I mi, y byd ar wahan i’r ddynol ryw yw’r byd naturiol. Ynglyn â Gen 1:28 a 2:15, mae’r Hebraeg gwreiddiol yn gwneud yn glir mai arglwyddiaeth ar fyd natur sydd mewn golwg, h.y. y byd ‘non-human’. Mae’r gair Hebraeg am ddaear (erets) yn dynodi rhywbeth materol, y pridd, yr hyn sydd yn is na / o dan yr wybren. Tra bod y geiriau Hebraeg, rādā, kābaš, a gyfieithir yn ‘arglwyddiaethu’, yn gryfach – ‘damsgen ar’, sydd yn agosach i dra-arglwyddiaethu. Ar sail testun gwreiddiol yr ysgrythur rhaid i mi anghytuno gyda’r gosodiad gall y “…byd naturiol … [g]ynnwys gwleidyddiaeth, mae hefyd yn cynnwys diwylliant a llen …”. ‘Rwyf o’r farn mai esiampl o eisegesis sydd yma, sef dehongliad cyfoes sydd yn gorfodi'r testun gwreiddiol i gario ystyr sydd yn groes i'r hyn sy’n cael ei fynegi. Cytunaf mai swyddogaeth diwinyddaieth yw cymathu a dehongli beth yw ystyr testun yr Ysgrythur, ond ni all ‘ddarllen i mewn’ i’r testun cysyniadau ac ystyron sydd ddim yna. 'Rwy'n cyfaddef fy mod yn cydweld a'r hyn chi am wneud yn, ond`teimlaf madyw'r cynsail chi'n ei gynnig yn ddigon cryf i gynal yr hyn chi am adeiladu.

“… dy rhesymeg di yn wag o unrhyw gyfeiriadau ysgrythurol ac yn hytrach …”


Dichon ei fod, er byddwn yn dadlau fod yr Ysgrythur yn gorwedd tu ol i’r rhesymu. Byddwn hefyd yn dadlau fod y rhesymu yn sefyll yn y traddodiad Cristnogol ac yn adlewyrchu dull o resymu sy’n gyffredin i’t traddodiad Protestanaidd, Catholig ac Uniongred. Y broblem yma yw na ellir trafod yr Ysgrythur fel rhyw fath o “Enquire within upon everything” sydd yn cynnig canllawiau ar gyfer bob peth. Er enghraifft, ni ellir adeiladu moeseg ar y Beibl yn unig. Mae’r gorchymyn ‘Na ladd’ e.e. yn esiampl o un sy’n cael ei groes ddweud yn yr Ysgrythur. A sut mae creu moeseg ar gyfer y datblygiadau ym maes meddygaeth a gwyddoniaeth os ydym yn cyfyngu fframawith foesol i’r Ysgrythur yn unig? Credaf bod yr anhawster sydd yn codi yng nghyd destun moeseg yn berthnasol i wleidyddiaeth hefyd, a bod rhaid defnyddio disgyblaethau eraill yn ogystal a ‘locus’ yr Ysgrythur.

O ran eglurdeb, ‘rwyf fel aelod yr Eglwys Gatholig, yn derbyn athrawiaeth fy Eglwys am bwysigrwydd ganolog yr Ysgrythur e.e. pennod 3 o “Dei Verbum”

“11. Those divinely revealed realities which are contained and presented in Sacred Scripture have been committed to writing under the inspiration of the Holy Spirit. For holy mother Church, relying on the belief of the Apostles (cf. John 20:31; 2 Tim. 3:16; 2 Peter 1:19-20, 3:15-16), holds that the books of both the Old and New Testaments in their entirety, with all their parts, are sacred and canonical because written under the inspiration of the Holy Spirit, they have God as their author and have been handed on as such to the Church herself.
Therefore, since everything asserted by the inspired authors or sacred writers must be held to be asserted by the Holy Spirit, it follows that the books of Scripture must be acknowledged as teaching solidly, faithfully and without error that truth which God wanted put into sacred writings …for the sake of salvation. Therefore "all Scripture is divinely inspired and has its use for teaching the truth and refuting error, for reformation of manners and discipline in right living, so that the man who belongs to God may be efficient and equipped for good work of every kind" (2 Tim. 3:16-17, Greek text).” [Ceir y testun llawn yn http://www.vatican.va/archive/hist_coun ... um_en.html

Serch hynny teimlaf ein bod yn cyrraedd pwynt lle mae'n amlwg bod 'na wahaniaeth barn sylfaenol na ellir ei phontio, a dichon y cam gorau yw cytuno i anghytuno. Hwyl am y tro.
Rhithffurf defnyddiwr
Philoctetes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 4
Ymunwyd: Iau 03 Ion 2008 3:35 pm

Nôl

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron