Seiat 'Ffydd a Chrefydd' esboniad...

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Seiat 'Ffydd a Chrefydd' esboniad...

Postiogan Rhys Llwyd » Sad 29 Rhag 2007 8:18 pm

Fe sylwch chi fod Hedd wedi newid y seiat breifat 'Criw Duw' i fod yn seiat gyhoeddus 'Ffydd a Chrefydd' roedd y seiat Criw Duw wedi datblygu yn fwy na'r amcan gwreiddiol ac roedd tipyn o drafod am grefydd a ffydd yn diwgydd yn y seiadau cyhoeddus eraill felly roedd hi'n gwneud sens i droi Criw Duw yn gyhoeddus a rhoi enw llai Judeo-Christian i'r seiat.

Ond fe fydd yna gylch preifat newydd yn dechrau yn fuan yn benodol i Gristnogion, fel cylch Cymdeithas yr Iaith a chylch Plaid Cymru ni fydd yn agored i bawb ac mi fyddw ni'n gofyn i aelodau gydnabod Iesu Grist fel gwaredwr personol wrth ymuno a'r cylch - ni fydd aelodaeth yn ddibynnol ar fy sel bendith i fel cymedrolwr wrth reswm ond yn hytrach mi fydd yn ddibynnol ar yr unigolyn ei hun a'i berthynas a Iesu.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 30 Rhag 2007 3:38 pm

Dyma fanylion 'Cylch y Cristion'.

Mae 'Cylch y Cristion’ ar agor i bawb sy'n cydnabod Iesu fel eu gwaredwr. Mi gewch chi ddod o ba bynnag draddodiad Cristnogol cyhyd ag eich bod chi'n Gristion o argyhoeddiad. Rhys Llwyd fydd yn cymedroli'r Cylch. Dyma sydd ganddo i'w ddweud:

“Bydd yn braf cael lle i drafod ein ffydd gyda pobl sy'n cychwyn o'r un rhagdyb sef 'mae Duw yn bodoli' yn hytrach na cychwyn trafodaethau yn y cylchoedd agored a bod y drafodaeth yn y diwedd yn troi i fod yn ornest o daflu mwd am fodolaeth Duw neu beidio.”

Os nad ydych chi eisioes yn aelod o faes-e, bydd angen i chi gofrestru yn rhad ac am ddim yma profile.php?mode=register

Ar ôl cofrestru (neu os ydych chi eisioes yn aelod) pwyswch ar y ddolen yma: groupcp.php?g=3999 ac yna 'Ymuno â Chylch'.

Unwaith y byddwch yn cael eich derbyn, bydd modd cyfrannu trwy ymweld a'r Cylch yma: viewforum.php?f=78
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan 7ennyn » Sul 30 Rhag 2007 8:33 pm

Wel, dyma ddiwedd y diwedd! Mae'r lunatics wedi meddiannu'r seilam.

Er serchus gof

Maes-e

2002-2007
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 30 Rhag 2007 11:49 pm

7ennyn a ddywedodd:Wel, dyma ddiwedd y diwedd! Mae'r lunatics wedi meddiannu'r seilam.

Er serchus gof

Maes-e

2002-2007


:lol:

Nid yw'r Cylch 'Cylch y Cristion' yn wahanol i unrhyw gylch arall ar faes-e megis un Plaid Cymru, Cymdeithas yr Iaith, Magu'r Babi, Cymry Ar Wasgar ayb. Mae'r trafodaeth ar Ffydd a Chrefydd yn gyffredinol yn awr wedi ei agor, fel bod pawb yn medru cyfrannu iddo. Dyna oedd y peth calla' i'w wneud yn fy marn bach i.

Bydd Maes-e yn sicr yn newid yn 2008. Bydd yn newid gweinydd, bydd yn cael ei uwchraddio i'r fersiwn diweddaraf a bydd llawer mwy o nodweddion ar gael i'r defnyddwyr, ond bydd hen ethos y maes yn parhau...
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan rooney » Llun 31 Rhag 2007 12:04 am

Mae'n syniad da.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Hen Rech Flin » Sad 05 Ion 2008 3:29 am

Rwy'n croesawu'r datblygiad yma. Hen bryd i drafodaethau cyffredinol ar bynciau crefyddol bod yn agored i bawb yn hytrach na chael eu cuddio tu nol i lenni cylch. Da o beth bydd cael cylch i Gristionogion cael trafod eu ffydd ymysg eu cilydd heb y rhwystredigaeth o orfod bod yn amddiffynnol o hyd hefyd.

A oes modd i ambell i gylch arall cael eu hagor i'r werin datws hefyd? Rwy'n fethu gweld pam bod Hanes, Athroniaeth a Gwyddoniaeth (er enghraifft) yn cael eu trafod yn y dirgel yn hytrach nac yn agored.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Mali » Sad 05 Ion 2008 5:32 pm

Cytuno'n llwyr HRF .
Mae 'na rai cylchoedd agored sydd heb neges newydd ynddynt ers sbel....cyfeirio dwi at Cell Gymysg Wleidyddol sydd heb yr un cyfraniad ers Medi 13.
:o
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Macsen » Sad 05 Ion 2008 6:12 pm

Hen Rech Flin a ddywedodd:Da o beth bydd cael cylch i Gristionogion cael trafod eu ffydd ymysg eu cilydd heb y rhwystredigaeth o orfod bod yn amddiffynnol o hyd hefyd.

Na phoener, heb anffyddwyr i gweryla gyda nhw bydd y enwadau gwahanol wedi dechrau cecru cyn hir. ;)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Seiat 'Ffydd a Chrefydd' esboniad...

Postiogan geryrefail » Llun 02 Meh 2008 7:14 pm

Helo

Rwy newydd ymuno â Maes E ac yn trio deall sut mae pethau'n gweithio. Rwy'n gweld bod y Seiat Ffydd a Chrefydd wedi agor, ond ydw i'n iawn i feddwl nad oes unrhywun wedi ymateb ers misoedd?

Os ydw i'n colli rhywbeth, plis rhowch wybod i mi.....diolch

Geryrefail
geryrefail
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2008 9:37 pm

Re: Seiat 'Ffydd a Chrefydd' esboniad...

Postiogan sian » Llun 02 Meh 2008 9:12 pm

Helo geryrefail - croeso
Mae'n eitha tawel 'ma - mae'r seiat yma a Cylch y Cristion (sy'n gylch i aelodau'n unig) yn mynd trwy gyfnodau o fod yn brysur iawn a chyfnodau tawel.
Mae hwn yn gyfnod tawel. Croeso i ti dreio bywiogi pethe dipyn bach!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron