Tudalen 2 o 2

Re: Seiat 'Ffydd a Chrefydd' esboniad...

PostioPostiwyd: Llun 02 Meh 2008 10:45 pm
gan Macsen
geryrefail a ddywedodd:Rwy'n gweld bod y Seiat Ffydd a Chrefydd wedi agor, ond ydw i'n iawn i feddwl nad oes unrhywun wedi ymateb ers misoedd?

Misoedd? Mae 'na ddau neu dri wedi cyfrannu heddiw.

Re: Seiat 'Ffydd a Chrefydd' esboniad...

PostioPostiwyd: Gwe 05 Medi 2008 2:11 pm
gan crazycymro
Oes secret handshake i mynd mewn hefyd... Mae'r freemasons yn llai strict ar ei rheolau + ar ôl i ti aberthu'r gafr ti'n cael kebbabs am ddim

Re: Seiat 'Ffydd a Chrefydd' esboniad...

PostioPostiwyd: Sul 20 Ion 2013 11:42 am
gan Gorwythdroed
Rhys Llwyd a ddywedodd:seiat


Beth? Wyt ti'n meddwl gwefan? Deuthum at Faes E i siarad Cymraeg, ond ers i mi fod ma (dau ddydd), y cyfan dw i wedi gweld yw Seisnigiaid (geiriau megis 'seiat') a chamdreigliadau. Ni all neb siarad yr iaith: yn wir, mae'n farw.

Re: Seiat 'Ffydd a Chrefydd' esboniad...

PostioPostiwyd: Sul 20 Ion 2013 2:18 pm
gan sian
Croeso, Gorwythdroed

Roedd maes-e yn arfer bod yn fywiog iawn, gyda phawb - yn cynnwys prifeirdd, aelodau o fandiau, academyddion, gwleidyddion, gwyddonwyr, ymgyrchwyr, cyfieithwyr, pobl oedd newydd ddechrau dysgu Cymraeg, myfyrwyr a phlant ysgol - yn trafod ymhlith ei gilydd ar bob math o bynciau - difrifol a difyr - mewn pob math o Gymraeg.
Mae wedi tawelu'n ddifrifol ers rhai blynyddoedd ac mae chwith mawr ar ei ôl.
Mae mwy o drafod Cymraeg ar twitter dyddiau 'ma - sydd â manteision ac anfanteision.

Beth sy'n bod ar "seiat"? Gwir mai benthyciad o'r Saesneg "society" oedd y gair yn wreiddiol (dwi'n meddwl) ond mae'n perthyn yn hapus i'r Gymraeg ers y ddeunawfed ganrif! Mae'n golygu cyfarfod crefyddol i drafod ac, wedyn, unrhyw fath o sgwrs neu drafodaeth. Yma, mae'n golygu rhyw fath o is-adran i drafod pwnc neu fater penodol.

Mae'r Gymraeg yn fyw!

Gobeithio y byddi di'n hapus yma ac y cei di gwmni i seiadu gyda nhw!