Tudalen 1 o 2

Darllenwch hwn cyn cyfrannu yma ogydd.

PostioPostiwyd: Sad 29 Rhag 2007 8:22 pm
gan Hedd Gwynfor
1.) Mae’r Seiat ‘Ffydd a Chrefydd’ ar agor i bawb. Mi gewch chi fod yn Gristion, atheist, Mwslim, neu beth bynnag, a cewch drafod materion yn ymwneud ag unrhyw grefydd neu ffydd.

2a.) Peidiwch a defnyddio eich ffydd neu grefydd i ymosod ar unigolion, crefyddau neu grwpiau eraill.

2b.) Peidiwch a defnyddio eich diffyg ffydd i ymosod ar unigolion, crefyddau neu grwpiau eraill.

3.) Cofiwch bod y term 'Cristion' neu ‘Mwslim’ yn meddwl gwahanol bethau i wahanol bobl, a bod y term 'crefyddol' yn cynnwys grwp eang iawn o bobl. Tydi pawb ddim yn dehongli'r Beibl yn yr un modd a chi. Cylch trafod ydi hwn, a dylid parchu barn pawb!

4.) Wrth anghytuno dylid ceisio eich gorau i gyflwyno eich dadl yn resymegol a chlir - nid yw ymatebion megis: "chymerodd hi ddim llawer i ti fynd ati i greu'r rant anffodus hwn, naddo Rhys?" a'i gadael hi fan yna ddim yn gwneud cyfiawnder a'ch barn chi nac ychwaeth yn cyfrannu i ddatblygu'r drafodaeth.

A dyna ni am y tro. Yn y bôn, dilynwch y canllawiau cyffredinol, a fydd pob dim yn iawn ;-)

(addaswyd yr uchod o reolau Cylch ‘Criw Duw’ a luniwyd yn wreiddiol gan Macsen.)

Re: Darllenwch hwn cyn cyfrannu yma ogydd.

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ion 2008 5:12 am
gan Kez
Hedd Gwynfor a ddywedodd:1 Cylch trafod ydi hwn, a dylid parchu barn pawb!

4.) Wrth anghytuno dylid ceisio eich gorau i gyflwyno eich dadl yn resymegol a chlir - nid yw ymatebion megis: "chymerodd hi ddim llawer i ti fynd ati i greu'r rant anffodus hwn, naddo Rhys?" a'i gadael hi fan yna ddim yn gwneud cyfiawnder a'ch barn chi nac ychwaeth yn cyfrannu i ddatblygu'r drafodaeth.



spoilsport!!

Re: Darllenwch hwn cyn cyfrannu yma ogydd.

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ion 2008 10:32 am
gan Macsen
Hedd Gwynfor a ddywedodd:2b.) Peidiwch a defnyddio eich diffyg ffydd i ymosod ar unigolion, crefyddau neu grwpiau eraill.

Dw i ddim cweit yn deall y pwynt yma. Wyt ti'n dweud nad ydan ni'n cael dadlau ynglyn a dilysrwydd ffydd maeswyr eraill? Ond dyna oedd ffynhonnell bron i bob dadl yn yr hen Criw Duw!

(addaswyd yr uchod o reolau Cylch ‘Criw Duw’ a luniwyd yn wreiddiol gan Macsen.)

Fel rhoi mwstash ar y Mona Lisa. :crio:

(Gyda llaw, be mae 'ogydd' yn ei olygu?)

Re: Darllenwch hwn cyn cyfrannu yma ogydd.

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ion 2008 10:44 am
gan Rhys Llwyd
Macsen a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:2b.) Peidiwch a defnyddio eich diffyg ffydd i ymosod ar unigolion, crefyddau neu grwpiau eraill.

Dw i ddim cweit yn deall y pwynt yma. Wyt ti'n dweud nad ydan ni'n cael dadlau ynglyn a dilysrwydd ffydd maeswyr eraill? Ond dyna oedd ffynhonnell bron i bob dadl yn yr hen Criw Duw!

(addaswyd yr uchod o reolau Cylch ‘Criw Duw’ a luniwyd yn wreiddiol gan Macsen.)

Fel rhoi mwstash ar y Mona Lisa. :crio:

(Gyda llaw, be mae 'ogydd' yn ei olygu?)


Dwi'n meddwl mae be ma Hedd yn dweud yw na ddylid dweud pethau fel "os wyt ti'n credu mewn Duw ti'n thick" neu "os wyt ti rhy ddall i weld bod Duw i gael rwyt ti'n amlwg yn blentyn y daran!"

ogydd = os gwelwch yn dda

Re: Darllenwch hwn cyn cyfrannu yma ogydd.

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ion 2008 11:03 am
gan Hedd Gwynfor
Macsen a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:2b.) Peidiwch a defnyddio eich diffyg ffydd i ymosod ar unigolion, crefyddau neu grwpiau eraill.

Dw i ddim cweit yn deall y pwynt yma. Wyt ti'n dweud nad ydan ni'n cael dadlau ynglyn a dilysrwydd ffydd maeswyr eraill? Ond dyna oedd ffynhonnell bron i bob dadl yn yr hen Criw Duw!

(addaswyd yr uchod o reolau Cylch ‘Criw Duw’ a luniwyd yn wreiddiol gan Macsen.)

Fel rhoi mwstash ar y Mona Lisa. :crio:

(Gyda llaw, be mae 'ogydd' yn ei olygu?)


Ti ysgrifenodd y canllawiau!! :rolio: :winc:

Ond o ddifrif, 'ymosod' ydy'r gair pwysig yna yn fy marn i. h.y. ni ddylid gwneud ymosodiadau ar unigolion oherwydd ei daliadau crefyddol, ni ddylid gwneud ymosodiadau ar y gwahanol grefyddau nac ar unrhyw grwpiau "megis hoywon". Mae dadlai yn iawn wrth gwrs. Dyna holl bwrpas bwrdd trafod.

Re: Darllenwch hwn cyn cyfrannu yma ogydd.

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ion 2008 3:19 pm
gan Dylan
pam fod ffydd grefyddol yn haeddu mwy o barch nag unrhyw safbwynt arall? Beth ydi'r pedestal rhyfedd yma dan ni'n tueddu i roi crefydd arno? Hynny ydi, pam y canllawiau penodol yma fan hyn ond nid yn y seiadau eraill?

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ion 2008 4:55 pm
gan Hedd Gwynfor
Gan fod problemau wedi bod yn y gorffenol yn yr edefyn "Criw Duw" gyda nifer o ymosodiadau personol yn cael eu gwneud (ar y 2 ochr) yn hytrach nag ymateb yn gall ac yn rhesymol i'r ddadl. Os bydd problem yn codi mewn Seiat arall o'r wefan (e.e. mae problemau weithiau'n codi yn yr un gwleidyddiaeth), bydd canllawiau tebyg yn cael eu rhoi yno hefyd. Mae'r canllawiau yma'n cyd-fynd yn llwyr gyda rhai cyffredinol maes-e. Yn y fersiwn newydd o faes-e, pan fydd yn cael ei lansio, bydd canllawiau penodol ar gyfer pob Seiat unigol ar y top...

Re: Darllenwch hwn cyn cyfrannu yma ogydd.

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ion 2008 5:41 pm
gan 7ennyn
Hedd Gwynfor a ddywedodd:2b.) Peidiwch a defnyddio eich diffyg ffydd i ymosod ar unigolion, crefyddau neu grwpiau eraill.

Mi fedrai ddallt 'peidio ymosod ar unigolion neu grwpiau, ond pam na chawn ni ymosod ar 'grefydd'?

Dylid golygu canllaw 2b, - naill ai trwy ddileu'r gair 'crefydd' neu trwy ychwanegu pob diddordeb dynol arall at y frawddeg.

e.e.
2b.) Peidiwch a defnyddio eich diffyg ffydd i ymosod ar unigolion, crefyddau, timau pel-droed, ... etc. ad infinitum... neu grwpiau eraill.

Re: Darllenwch hwn cyn cyfrannu yma ogydd.

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ion 2008 5:52 pm
gan Hedd Gwynfor
7ennyn a ddywedodd:e.e.
2b.) Peidiwch a defnyddio eich diffyg ffydd i ymosod ar unigolion, crefyddau, timau pel-droed, ... etc. ad infinitum... neu grwpiau eraill.


Ond gan mai Seiat "Ffydd a Chrefydd" yw hwn, dyw timau peldroed ddim yn berthnasol iawn! :winc:

Ond mewn difrif, efallai nad yw'n glddigon clir, ond mae'r rheol yn un weddol syml. h.y. peidiwch ymosod yn bersonol ar unrhywun a pheidiwch ag ymosod ar unigolyn am ei fod yn perthyn i rhyw grwp arbennig (gan gynnwys crefydd!)

Re: Darllenwch hwn cyn cyfrannu yma ogydd.

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ion 2008 7:07 pm
gan Kez
[quote="Hedd Gwynfor
Ond mewn difrif, efallai nad yw'n ddigon clir, ond mae'r rheol yn un weddol syml. h.y. peidiwch ymosod yn bersonol ar unrhywun a pheidiwch ag ymosod ar unigolyn am ei fod yn perthyn i rhyw grwp arbennig (gan gynnwys crefydd!)


Odi hwnna'n golygu pob un person - simo fi'n meddwl bo hwnna'n deg :drwg: Rhwydd hynt iddyn nhw ymosod nol wedi'r cwbwl :)