Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ion 2008 7:08 pm
gan Dylan
yr hyn a gyfeiriodd 7ennyn ato oedd gen innau mewn golwg hefyd. Wrth gwrs bod ymosodiadau personol yn bethau i'w hosgoi a da rheolau i'w hatal. Ond mae'r syniad bod syniadau crefyddol yn eu hanfod yn haeddu rhyw fath o "barch" bedastalaidd na ddylid ei gwestiynu yn salwch sydd angen ei drin.

dw i'n siwr bod ni'n cytuno, jyst rhyw fân bryderon am y geirio dyna i gyd

Re: Darllenwch hwn cyn cyfrannu yma ogydd.

PostioPostiwyd: Sad 12 Ion 2008 12:54 am
gan rooney
Hedd Gwynfor a ddywedodd:2b.) Peidiwch a defnyddio eich diffyg ffydd i ymosod ar unigolion, crefyddau neu grwpiau eraill.


heb ymosod ar unigolion, crefyddau neu grwpiau eraill yna... beth sydd gan yr anffyddwyr ar ol i'w ddweud/wneud? :lol:

Re: Darllenwch hwn cyn cyfrannu yma ogydd.

PostioPostiwyd: Sad 12 Ion 2008 7:20 am
gan Kez
rooney a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:2b.) Peidiwch a defnyddio eich diffyg ffydd i ymosod ar unigolion, crefyddau neu grwpiau eraill.


heb ymosod ar unigolion, crefyddau neu grwpiau eraill yna... beth sydd gan yr anffyddwyr ar ol i'w ddweud/wneud? :lol:


Ymosod ar 'extraterrestrials' yr un fath a chi :rolio:

PostioPostiwyd: Sad 12 Ion 2008 6:46 pm
gan rooney
Dylan a ddywedodd:yr hyn a gyfeiriodd 7ennyn ato oedd gen innau mewn golwg hefyd. Wrth gwrs bod ymosodiadau personol yn bethau i'w hosgoi a da rheolau i'w hatal. Ond mae'r syniad bod syniadau crefyddol yn eu hanfod yn haeddu rhyw fath o "barch" bedastalaidd na ddylid ei gwestiynu yn salwch sydd angen ei drin.


tybiwn y buaswn yn gallu ffeindio'r dyfyniad yma yn y "God delusion"
sut fod yr holl ddilynwyr Dawkins yn hoffi galw eu hunain yn "freethinking" ond eto'n defnyddio ei ddadleuon drosodd a drosodd- chi wedi disgyn am gwlt anffyddiol, gyfeillion

PostioPostiwyd: Sad 12 Ion 2008 7:08 pm
gan Rhys Llwyd
rooney a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:yr hyn a gyfeiriodd 7ennyn ato oedd gen innau mewn golwg hefyd. Wrth gwrs bod ymosodiadau personol yn bethau i'w hosgoi a da rheolau i'w hatal. Ond mae'r syniad bod syniadau crefyddol yn eu hanfod yn haeddu rhyw fath o "barch" bedastalaidd na ddylid ei gwestiynu yn salwch sydd angen ei drin.


tybiwn y buaswn yn gallu ffeindio'r dyfyniad yma yn y "God delusion"
sut fod yr holl ddilynwyr Dawkins yn hoffi galw eu hunain yn "freethinking" ond eto'n defnyddio ei ddadleuon drosodd a drosodd- chi wedi disgyn am gwlt anffyddiol, gyfeillion


Am unwaith rwy'n cytuno i raddau gyda rooney - mae'r ffaith dy fod di Dylan yn disgrifio'r ffaith y bo Cristnogion yn hawlio parch fel "salwch sydd angen ei drin" MOR eithafol o ffwdamentalaidd fel ag y maen swnio syth mas o araith gan Hitler yn y 30au, nid son am Sipsiwn wyt ti na, nac ychwaith am Iddewon o'r rheidrwydd ond am rheiny sydd a phrofiad ffydd, grwp sydd wrth gwrs yn leiafrifol yng Nghymru a lleiafrifol ar y maes. Mae ffaith dy fod di Dylan wedi dweud hynny yn profi'n union pam fod angen cymal o'r faith yn y rheolau. Wrth gwrs cwestiynna fy ffydd, rwyt ti'n gwneud hynny ac rwy'n mwynhau esbonio fy ffydd fel ymateb ond yr oll mae'r cymal yn ei wneud ydy gwarantu fod dadleuon adeiladol ddim yn cael ei herwgipio gan rooney yn dy frandio di fel rhywun a cinc yn ei ben a tithe yn ein brandio ni fel pobol "sal" oherwydd ein bod ni wedi profi rhywbeth nad wyt ti hyd yma wedi ei brofi dy hun ac felly dwyt ti methu eu amgyffred.

PostioPostiwyd: Sad 12 Ion 2008 7:47 pm
gan 7ennyn
Blydi hel! Paid a bod yn hurt Rhys! Syniadaeth ydi crefydd nid grwp o bobl. Mae ymosod ar gristnogaeth (y syniadaeth) yn gwbl wahanol i ymosod ar gristnogion (y bobl). Wnaeth Dylan ddim dy frandio fel person sal, dwi'n meddwl mai cyfeirio at rhyw 'salwch', neu anomali, diwylliannol oedd o.

Paid a bod mor touchy ffor ffyc secs!

PostioPostiwyd: Sad 12 Ion 2008 8:06 pm
gan Rhys Llwyd
7ennyn a ddywedodd:Syniadaeth ydi crefydd nid grwp o bobl. Mae ymosod ar gristnogaeth (y syniadaeth) yn gwbl wahanol i ymosod ar gristnogion (y bobl).


Yn hollol. Dyna pam fod angen cymal yn gwarchod crefyddwyr/anffyddwyr er mwyn canolbwyntio ar drafod crefydd/anffyddiaeth. Syniadaeth ydy crefydd OND grwp o bobl yw Cristnogion ac mae anffyddwyr ffwndamentalaidd fel Dylan yn methu a deall fod Cristnogaeth yn brofiad cyffredin i grwp o bobl ac fod ymosodiad ar yr hyn rydym ni'n credu yn ymosodiad arnom ni oherwydd nid syniadaeth academig ydy Cristnogaeth i'r bobl hynny sydd wedi dod i adnabod eu Gwaredwr maen dipyn dipyn mwy na hynny, maen ffordd o fyw maen ysbrydoliaeth maen dynged. Felly er y gallaf i, gobeithio, drafod fy ffydd ar dir cyffredin syniadaethol gyda anffyddwyr maen rhaid i anffyddwyr ddeall pam fod ymosodiad ar Gristnogaeth yn cael ei dderbyn fel ymosodiad personol gan lawer o Gristnogion. Dydw i ddim yn dweud 'peidiwch a holi a phryfocio' ddim o gwbl, ond cadwch hynny mewn cof wrth bryfocio rooney a'i debyg.

PostioPostiwyd: Sul 13 Ion 2008 3:59 am
gan Dylan
a tithe yn ein brandio ni fel pobol "sal" oherwydd ein bod ni wedi profi rhywbeth nad wyt ti hyd yma wedi ei brofi dy hun ac felly dwyt ti methu eu amgyffred.


woah woah woah dal dy ddwr. Ti 'di camddeall yn llwyr Rhys, 180 gradd

nes i ddim galw Cristnogaeth yn salwch. Nes i ddim dweud fod Cristnogion yn bobl sal. Fedra i ddim gweld ble cefaist y fath syniad a dw i'n siomedig dy fod yn fy nghyhuddo o'r fath beth.

y pedestal mympwyol 'ma ydi'r "salwch". Pam fod crefydd yn bwnc sydd yn haeddu cymaint mwy o "barch" nag unrhyw safbwynt arall? Mae lot o bobl yn ystyried eu hideoleg gwleidyddol yn fater digon personol a hunaniaethol, er enghraifft. Ond does dim disgwyl i unrhyw un ochel rhag dweud eu dweud yn blaen am syniadau gwleidyddol; os ydi rhywun yn credu bod ideoleg neu syniad rhywun arall yn dwp, gellir dweud hynny (gan esbonio pam, wrth gwrs) yn ddigon di-flewyn ar dafod, a da hynny. Ond am rhyw reswm mae'n gallu teimlo weithiau bod angen gwisgo kid gloves wrth drafod crefydd. Os rhywbeth swn i'n dweud fod y confensiwn yma'n ddilornus i bobl crefyddol; mae'n awgrymu y dylid eu cysgodi a'u hamddiffyn rhywsut.

PostioPostiwyd: Sul 13 Ion 2008 5:32 pm
gan rooney
7ennyn a ddywedodd:Blydi hel! Paid a bod yn hurt Rhys! Syniadaeth ydi crefydd nid grwp o bobl. Mae ymosod ar gristnogaeth (y syniadaeth) yn gwbl wahanol i ymosod ar gristnogion (y bobl).


Pan ti'n cyhuddo grwp o bobl o fod gyda salwch meddwl ac yn camdrin eu plant trwy rannu eu ffydd yna mae gen i ofn fod hynny'n ymosodiad personol cwbl ddi-sail a drwg. A does dim lle i'r math yma o sothach mewn trafodaeth war. Felly rhaid cymeradwyo Hedd am roi'r rheol yna i fewn. Mae'r anffyddwyr ffwndamental ddim ond yn anhapus am fod y rheol yna'n golygu fod ganddyn nhw fawr ddim i'w gynnig i'r drafodaeth bellach.

(Does ryfedd yn America beth bynnag mae'r anffyddwyr yw'r grwp sydd yn cael eu trystio lleiaf.)

PostioPostiwyd: Sul 13 Ion 2008 7:43 pm
gan Hedd Gwynfor
rooney a ddywedodd:Pan ti'n cyhuddo grwp o bobl o fod gyda salwch meddwl


Nid yw Dylan wedi gwneud y fath gyhuddiad. Darllena'r neges eto.

Trafod y Canllawiau yn unig y dylid gwneud yma, a dim arall os gwelwch yn dda. Dwi wedi gorfod dileu/symud 2 neges yn barod. Diolch.